Er mae hi wedi dechrau bwrw glaw yn drwm yma eto a'r olygfa dw i'n ei gweld wrth edrych dros faes y Sioe ar hyn o bryd yw m么r o bonchos melyn S4C! Roedd codi bore ma am 5.30am yn dipyn o broblem, o ystyried mai ond tair awr o gwsg gafon ni'r rhedwyr neithiwr. Gan ein bod ni i gyd yn aros yn yr un gwesty, rydyn ni lan tan oriau m芒n y bore yn siarad ac yfed! Mae criw ohonon ni o Shir G芒r a chriw o Geredigion, ac o hyn tan ddiwedd yr wythnos rydyn ni'n mynd i gael cystadleuaeth yfed rhwng y ddwy sir yn y gwesty! Ta waeth yn 么l at y gwaith a maes y Sioe. Bues i'n logio siotiau camera o Gylch y Gwartheg heddiw gyda'r dyn camera "shot of cow's face", "shot of cow's udder" i ddweud y gwir, r'on i wedi cael hen ddigon o edrych ar ben 么lau gwartheg erbyn y diwedd! Allan yng Nghylch y gwartheg fues i am y rhan fwya' o'r diwrnod heddiw, gyda'r da b卯ff a rhai o'r teirw mwya' i fi weld erioed! Heblaw am y gwaith, ges i gyfle i gael chat a phaned gyda Sulwyn Thomas gynne, roedd e'n s么n am y sbort mae e a'r cyflwynwyr eraill yn ei gael gyda'r nos yn eu gwesty nhw. Ddim gymaint o sbort 芒 ni dw i'n siwr! Dw i dal yn joio yma yn Llanelwedd, er bod y diwrnodau yn flinedig a 'nhr芒d i dal yn boenus mae'r amrywiaeth yn y gwaith a'r holl bobl dw i'n cael cwrdd 芒 nhw yn werth y cyfan. Dewch yn 么l yma bore fory i ddarllen mwy! Owain Ll欧r
|