Hanesydd a Darlledydd
Beirniad llenyddol ac hanesydd diwylliannol oedd Hywel Teifi Edwards.
Ganed a magwyd Hywel Teifi Edwards yn Llanddewi Aberarth, Ceredigion, ac aeth i Ysgol Ramadeg Aberaeron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu yn athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Garw, lle y cyfarfu 芒'i wraig Aerona, cyn ymuno ag Adran Addysg Oedolion, Coleg Prifysgol Abertawe yn diwtor llenyddiaeth Cymraeg. Daeth yn bennaeth ac Athro ar yr Adran Gymraeg yn y coleg cyn ymddeol. Bu'n aelod o'r Orsedd ac o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Roedd yn arbenigwr ar hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn arbennig ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn gyfrannwr cyson ar deledu a radio Cymraeg. Safodd fel ymgeisydd seneddol dros etholaeth Llanelli yn 1983 a dros etholaeth Caerfyrddin yn 1987. Roedd yn dad i'r newyddiadurwr adnabyddus Huw Edwards sy'n cyflwyno newyddion cenedlaethol 10 o'r gloch y 成人论坛.
Yr oedd diddordebau ymchwil yr Athro Hywel Teifi Edwards yn ymwneud yn bennaf 芒 diwylliant Cymru Oes Victoria gan ganolbwyntio ar yr Eisteddfod Genedlaethol fel sefydliad sy'n adlewyrchu'r diwylliant hwnnw. Roedd yn awdur toreithiog wedi cyhoeddi neu olygu nifer o gyfrolau, gan gynnwys Yr Eisteddfod 1176-1976, a G诺yl Gwalia: Yr Eisteddfod yn Oes Aur Victoria 1858-1868. Ef a olygodd ddeg cyfrol Cyfres y Cymoedd a'i gyfrol ddiweddaraf, O'r Pentre Gwyn i Gwmderi, sy'n astudiaeth o ddelwedd y pentref yn llenyddiaeth y Cymry.
Roedd ganddo lais awdurdodol a thrawiadol, ac yn siaradwr cyhoeddus heb ei ail. Cydnabyddwyd y nodwedd hon gan ei bresenoldeb cyson ar nifer o raglenni teledu a radio amrywiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Yn 2007 fe ddewiswyd Hywel Teifi Edwards yn Lywydd Pwyllgor Deucanmlwyddiant Aberaeron.
Bu farw ar 4 Ionawr 2010.