成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberystwyth
Baner Estyn dwylo dros y m么r
Yn mis Rhagfyr 2005, penderfynodd gr诺p o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth eu bod eisiau gwneud gwaith gwirfoddol.

  • Cliciwch yma i ddarllen am y daith ym Mehefin 2006
  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r daith i Romania

    Cysylltom gyda Urdd Gobaith Cymru i weld beth oedd y posibiliadau, a fel mae'n digwydd roedden nhw'n chwilio am gr诺p o bobl ifanc i deithio i Romania i weithio gyda plant yno. Anfonwyd ebost at holl fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth i weld pwy oedd 芒 diddordeb mynd ar y daith, ac ar 么l nifer o newidiadau i aelodau'r gr诺p am sawl rheswm, penderfynwyd ar y gr诺p terfynol bydd yn teithio i Romania.

    Y criw ydy Catrin Rees (Llandeilo), Lowri Johnston (Caerfyrddin), Menna Machreth (Llanddarog), Hedydd Broad (Llandeilo), Gwenllian Glyn (Caerdydd), Rhys Llwyd (Aberystwyth) a Stephen Hughes (Ynys M么n).

    Rydym oll yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn aelodau UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth). Rydym yn trefnu'r daith ar y cyd gyda'r Urdd a'r Romanian Foundation for Children. Byddwn ni'n teithio i ardal tlawd Popesti ger tref Oradea yn Ne ddwyrain y wlad yn mis Mehefin eleni, ac yn treulio wythnos yno yn gweithio yn yr ysgol yn y gymuned.

    Mae'r Romanian Foundation for Children wedi gofyn i ni gynnal gweithgareddau a fydd yn hybu'r plant i gymdeithasu gyda'i gilydd gan fod rhai problemau wrth geisio cael y gwahanol lleiafrifoedd ethnig i gymysgu. Ar hyn o bryd felly rydym ni'n ceisio gosod rhaglen o'n gweithgareddau. Mae'r ysgol wedi gofyn i ni gynnal diwrnod chwaraeon yn yr ysgol, felly gyda'r arian rydym ni'n casglu fe allwn ni brynu offer ar gyfer y chwaraeon allan yn Romania a wedyn fe allwn nhw barhau a'r gemau ar 么l i ni adael. Rydym ni'n teimlo ei fod yn bwysig ein bod ni'n prynu'r adnoddau sydd angen arnom allan yn Romania fel ein bod yn cyfrannu at economi'r wlad. Fe fyddwn yn edrych ar anghenion yr ysgol a gyda'r arian rydym wedi casglu gallwn brynu adnoddau iddynt yno.

    Fe fuodd tair ohonom yng Nglan-llyn yn ddiweddar lle gafon ni gwmni yr artist Kevin Burgess a fuodd yn rhoi syniadau i ni yngl欧n 芒 gwaith celf y gallwn ni ei wneud yn Romania. Dangosodd i ni sut mae gwneud pypedau lliwgar a dramatig fel y gallwn ni eu gwneud gyda'r plant, ac wedyn byddan nhw'n medru eu defnyddio i greu drama. Rydyn ni'n gobeithio erbyn diwedd yr wythnos y bydd gan y plant furlun neu arddangosfa o'u gwaith er mwyn iddyn nhw gofio am ein hymweliad.

    Fe fyddwn ni'n chwarae gemau gyda'r plant ac yna gobeithio y byddant yn parhau 芒'r gweithgareddau ar 么l i ni adael. Fe fyddwn wrth gwrs yn rhannu ein diwylliannau drwy g芒n a dawns; mae'n debyg fod na glwb Dawnsio Gwerin egn茂ol iawn ar 么l oriau ysgol. Rydym ni'n barod iawn hefyd i wneud gwaith garddio a phaentio tra fyddwn ni allan yno, felly cewn ni weld beth maen nhw am i ni neud ar 么l cyrraedd. Ar ddiwedd yr wythnos fe fyddwn ni'n cynnal cyngerdd ar y cyd rhyngom ni a'r plant i'r gymdeithas leol, ac fe fydd Maer y Dref yn dod i'r gyngerdd.

    Codi arian
    Rhai o g么r Pantycelyn Er mwyn medru ariannu'r gweithgareddau a'r daith rydym wedi bod yn trefnu nifer o ddigwyddiadau i godi arian yn Aberystwyth ac yn ein ardaloedd adref. Trefnwyd cyngerdd gan aelwyd Pantycelyn ddechrau mis Mai yng nghanolfan y Morlan, Aberystwyth. Codwyd ryw 拢200 yn y gyngerdd honno, ac roedd yn noson hwylus a llwyddiannus.

    Trefnwyd gig gyda'r band Frizbee yn chwarae yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn mis Rhagfyr, lle codwyd 拢700. Rydym hefyd wedi bod yn golchi ceir ym maes parcio Pantycelyn, gwerthu cacennau yn yr awr ginio yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, gwerthu cydynnau o wallt cyrliog Rhys Llwyd (!), ac mae cd ar werth gan Mc Peryg a Cynan Llwyd. Rydym hefyd wedi cysylltu gyda'n cynghorau lleol ac ati i ofyn am gymorth ariannol.

    Golchi ceirCasglwyd bron i 拢700 mewn cymanfa yng nghapel Seion yn Aberystywth ddydd Sul diwethaf yn ystod y casgliad, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cymorth. Hefyd, trefnwyd gig yn Trefor gyda Elin Fflur, Tara Bethan, Pala, Sarah Louise, Llan Clan a Jonsi yn cyflwyno. Roedd hi'n noson llwyddiannus iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r gymuned yn Trefor am eu cymorth a'u cefnogaeth.

    Mae'r gwaith o gasglu arian yn mynd yn dda hyd yn hyn, ond mae dal mwy i'w gasglu. Y mwyaf o arian bydd gyda ni yno, y mwyaf o bethau allwn ni wneud gyda'r plant gan geisio cyfoethogi eu bywydau llwm.

    Cynnig profiadau
    Bwriad y daith yw ein bod ni'n rhoi profiadau bythgofiadwy i'r plant yn ystod ein hymweliad, ond hefyd ein bod ni'n cychwyn gweithgareddau a gemau yno gallan nhw gario ymlaen gyda ar 么l i ni adael. Rhan pwysig arall o'r daith yw ein bod ni'n rhannu ein diwylliant gyda'r plant. Byddwn ni yn eu dysgu am Gymru yn, gan geisio dysgu cymaint a allwn ni am eu gwlad nhw hefyd. Bydd rhannu profiadau a diwylliant yn rhan mawr o'n hymweliad. Gobeithiwn ei fydd yn bosib i'r plant ddychwelyd i wersyll Llangrannog yn y dyfodol - bydd unrhyw arian dros ben yn mynd tuag at ariannu hyn.

    Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ein taith, mae croeso i chi gysylltu gyda ni trwy UMCA - Swyddfa UMCA, Pantycelyn, Ffordd Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BX. Ebost - umca@aber.ac.uk. Byddwn ni'n fwy na pharod i ddod i siarad gyda eich cymuned, cymdeithas, capel ayyb, cyn ac ar 么l ein taith, er mwyn rhannu ein profiadau bythgofiadwy.

    Gan Lowri Johnston ar ran y criw

  • Cliciwch yma i ddarllen am y daith ym Mehefin 2006
  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r daith i Romania

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 成人论坛 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Lluniau
    Trefi
    Digwyddiadau


    About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy