Ymhlith hynodion Archif Wleidyddol y Llyfrgell Genedlaethol mae dros 2,000 o lythyrau oddi wrth wleidydd enwocaf Cymru, David Lloyd-George, at ei wraig a 3,200 at ei frawd William George a oedd yn gyfreithiwr ym Mhorthmadog.
Yn cael ei holi gan Hywel Gwynfryn ar 成人论坛 Radio Cymru dywedodd Graham Jones fod 70 o archifau yn ymwneud a Lloyd-George wedi eu diogelu yn y Llyfrgell.
"Ac rydym yn weddol hyderus nad oes archif gyflawn yn ymwneud 芒 Dewin Dwyfor allan yn y byd mawr," meddai.
Dwy iaith Un o hynodion Lloyd-George fel llythyrwr oedd ei fod yn neidio o un iaith i'r llall hyd yn oed pan yn sgrifennu at ei deulu.
Enghraifft o hynny oedd sylw a wnaeth am y Breinin George V:
"The King is a very jolly chap ond diolch i Dduw does dim llawer yn ei ben o - pobl syml, gyffredin iawn, iawn, ydynt a hwyrach ar y cyfan fod hynny yn eithaf peth."
Rhestr o'r holl glipiau sain
|