Ar ddydd Sadwrn, 29 Medi 2007 cynhaliwyd sioe geffylau a disgo ym Mhontrhydfendigaid, y sioe geffylau yn y prynhawn a disgo fin nos. Mae'r diwrnod hyn yn y Bont yn ddiwrnod enwog ac fe heidiodd tyrfaoedd yno y llynedd, fel eleni, i fwynhau a chymdeithasu gyda ffrindiau.
Buais i yn y gig yn unig eleni oherwydd doedd gen i ddim diddordeb yn y sioe geffylau. Cynhaliwyd y gig ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid - sydd yn dal hyd at 2900 o bobl. 'Roedd ffair fach iawn yn bodoli tu allan i ddrysau'r Pafiliwn hefyd er mwyn diddanu'r plant ifanc.
Dechreuodd y gig am wyth o'r gloch yr hwyr. Y band cyntaf i berfformio i baratoi'r gynulleidfa ar gyfer prif seren y noson oedd Caryl a'r Band. Nid oeddwn wedi clywed amdanynt o'r blaen ac os ydw i'n onest, ni wnaethant argraff dda iawn arnaf. Er, wedi dweud hynny fe ddechreuodd y canu wella erbyn diwedd eu awr o berfformio, yn enwedig pan wnaethant ganu "Pishyn Pishyn" gan Newshan.
Am tua 10.30 yr hwyr roedd pawb yn dawnsio o flaen y llwyfan gan fod Bryn F么n a'i fand wedi dechrau perfformio. 'Roedd y gerddoriaeth yn sgrechian a phawb yn dawnsio i hen ffefrynnau megis "Rebal Wicend" ac "Abacus". Cafodd Bryn F么n gymaint o groeso fel y gorfu iddo berfformio tri encore ar ddiwedd ei berfformiad gwefreiddiol. Ac nid y bobl ifanc yn unig oedd wrthi'n part茂o, ond 'roedd hi'n eithaf anodd cyrraedd at flaen y llwyfan gan fod cymaint o ddynion a menywod yna, sy'n ffans o Bryn F么n ers ei ddyddiau cynnar fel seren bop yn canu mewn tafarndai lleol! Gorffennodd ei berfformiad am hanner nos ac fe oleuwyd y Pafiliwn unwaith eto i bawb gael dweud hwyl fawr am y tro wrth hen ffrindiau a ffrindiau newydd. 'Roedd rhai'n teimlo'n eithaf emosiynol ar ddiwedd y noson.
Medraf ddweud yn hollol hyderus ar ran pawb a fu ym Mhafiliwn Bont nos Sadwrn 29 Medi, i ni gyd gael modd i fyw yno. 'Roedd nifer o fysiau wedi teithio yno o bentrefi megis Tregaron a Llanrhystud. Ac 'roedd hynny ar ben y degau ar ddegau o geir a deithiodd yno.
Dwi methu aros tan gig Bont yn 2008. Ond gair o rybudd i gloi - os ydych am ddod cofiwch brynu tocyn o flaen llaw gan eu bod yn costio 拢2 yn fwy wrth y drws ar y noson. Mae'n si诺r y bydd manylion eto y flwyddyn nesa' lle gallwch brynu tocynnau o flaen llaw. Peidiwch 芒 cholli allan ar nos
Sadwrn bythgofiadwy flwyddyn nesaf!
Carys Mair Davies
Mwy am y Ffair Greffylau Gwefan Bont
|