Treuliodd Tom, Tom Melingrug a finnau weddill prynhawn dydd Llun yn y Granstand yn bwyta dau fag yn llawn dop o doughnuts! Roedden ni'n gwylio dyn oedd yn gallu siarad 芒'u geffylau ac yn gwneud campau fel gorwedd ar gefn dau geffyl wrth iddynt symud o amgylch y cylch.
Wrth i ni gyrraedd yn 么l i'r babell roedd y cae yn fwy mwdlyd nag erioed. Cafodd Tom ei esgid yn sownd yn y baw a bron a chwympo ar ei wyneb! Ar 么l cael sgwrs ac ymlacio am ychydig yn y babell, aeth y pedwar ohonom ar y bws i Builth. Nid oedd y stryd mor llawn ag yr oedd hi nos Sul ond roedd yn dal i fod sawl person o gwmpas i ni gael sgwrs 芒 nhw. Erbyn i ni gyrraedd yn 么l i'r tent roedd yr adloniant wedi gorffen!
Cafodd Sioned noswaith ddramatig ar 么l iddi gael ei phen yn sownd yn nrws y bws mini! Treuliodd Tom a Tom Melingrug eu noson yn gweiddi "Maite" lawr strydoedd Builth tra mod innau a Meilir yn bwyta take away arall!!!
Noson ddi-gwsg (arall) a chodi i weld fod y haul yn disgleirio - GR脢T!!! Gwisgodd pawb eu shorts a chrysau T a'r welis lliwgar - yr eisin ar y gacen! Er bod yr haul allan mae yna'n dal i fod lot o fwd o gwmpas y lle.
Cyrhaeddais ar y maes heddiw bore, ac aethom am dro bach i weld beth oedd yn digwydd ger adeilad y ffermwyr ifanc. Cystadleuaeth gwisgo aelod fel rhyw eitem o'r byd chwaraeon! Roedd dwy ferch yn cystadlu o fy nghlwb Ffermwyr Ifanc i, sef Cerri a Mari. Yn anffodus roedd Amy, un o'r aelodau yn sownd mewn traffig felly bu'n rhaid i mi gael fy ngwisgo fel raced denis!!! Mor embarrasing! Cael fy rapio mewn rholiau o ddefnydd brown gyda rhwyd tu 么l fy mhen!
Treuliais weddill y diwrnod yn crwydro'r maes, yn hel pethau am ddim o wahanol stondinau o gwmpas y maes! Mae nawr yn ddiwedd y prynhawn, ac mae pawb yn cyfarfod ym mhabell y Members er mwyn cynllunio noson hwylus arall! Dewch yn 么l i weld sut noson gafon ni - gewch chi'r hanes i gyd yfory.
Dyddiadur dyddiol Delyth o'r Pentref Ieuenctid.
|