Mi fuodd Ffion Jones yn dod 芒 holl fwrlwm y Sioe Fawr i ni yn ei dyddiadur dyddiol o'r maes yn 2005. Nid yn unig y bu'n crwydro'r maes yn ystod y dydd, ond mi fuodd hefyd yn dod 芒 chlecs o bentref yr ieuenctid gyda'r nos i ni hefyd.
Nid eleni fydd y tro cyntaf i Ffion Jones o Benrhyncoch fynd i'r sioe amaethyddol. Bu'n ymwelydd cyson 芒 Llanelwedd ers yn blentyn, ar dripiau ysgol a gyda'i theulu. Ond ers y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi profi'r ochr arall o'r sioe - y maes ieuenctid a'r bywyd nos. "Dw i'n mynd i'r sioe am y nosweithiau ma's, i fwynhau ac i ymlacio. Byddai'n aros mewn carafan, a dw i'n gobeithio byddai'n gweld hen ffrindiau ysgol sydd fel arfer yn mynd i'r Royal Welsh bob blwyddyn," meddai Ffion Jones sydd newydd gwblhau ei arholiadau Lefel A. Dewch yn 么l yma'n ddyddiol i weld beth sydd gan Ffion i'w ddweud am wythnos y Sioe Fawr. Mi fyddwn ni hefyd yn cyhoeddi orielau o luniau dyddiol o faes y sioe. Ydych chi'n mynd i'r sioe yn flynddol? Ydych chi'n mynd i Lanelwedd i weld y cystadlu neu i gymdeithasu? Rhowch eich barn am y Royal Welsh yma, trwy lenwi'r ffurflen isod.
|