Crazy Ape ac Empathy oedd y ddau fand oedd yn chware ac mae gennyf atgofion melys o'u perfformiad nhw yn yr un man llynedd. Roedd dillad gwallgo'r prif fand yn gweddu'n dda gyda'i enw, ac roeddent yn canu stoc o ganeuon adnabyddus. Roedd hwyliau da ar bawb yn y gig neithiwr, ac mae ond yn siom fod yr 诺yl ar ben am flwyddyn arall. Unwaith eto heddi mae'r haul yn gwenu'n braf ar Lanelwedd, ac er fod hi'n eitha' poeth wrth gerdded o gwmpas does dim gymaint o dorf 芒 ddoe, felly ma'r frustration levels ychydig yn is!! Gan amlaf ar ddiwrnod ola'r sioe ma' na ambell i fargen i'w phigo i fyny, felly trip siopa oedd y nod prynhawn 'ma. Ymysg yr holl stondinau'n gwerthu peiriannau trydan, dillad marchogaeth ceffylau ac eli esgidiau, ma na rhai eitha' da yn cuddio. Rwyf nawr yn berchen ar bar o flipflops haf lliwgar, a sgert newydd i'w gwisgo ar fy ngwyliau, a'r cyfan am llai na 拢15! Un peth sydd wastad yn drist am ddiwrnod ola'r sioe yw gweld yr holl garafannau'n gadael. Ar 么l yr holl fwrlwm a'r awyrgylch ffantastig sydd i'w gael yn y gymuned gyfeillgar dros-dro, i fyny yn y maes carafannau, mae deffro i weld fod eich cymdogion wedi mynd a gadael peth cynta'n bore yn gwneud i chi sylweddoli pa mor gyflym mae'r pedwar diwrnod yn Llanelwedd yn mynd. Wrth edrych yn 么l felly, mae hi wedi bod yn flwyddyn arall cofiadwy yn y sioe, yn llawn hwyl a sbri, ac atgofion i gadw am byth. Mae'r sioe weithiau yn cael stic ystradebol am fod yn 诺yl 'ffermwyr' ond fel ma'r Sais yn gweud don't knock it till you've tried it. Fi'n addo wnewch chi fwynhau! Welai chi flwyddyn nesa', Ffion. x
|