"Wel dyma ni wedi cyrraedd y Royal Welsh unwaith eto eleni. "Dechreuodd y daith yn Lidl yn Aberystwyth i stocio lan ar ddigon o fwyd (bins a bara di-ri) a diod i bara'r wythnos a bant 芒 ni. "Tywydd tanboeth o braf ar y ffordd i fyny a siwrne eitha' cyflym a digyffro. Mae na' bump ohonon ni yn aros mewn carafan ar fferm Penmaenau, a gan bod y garafan wedi dod lan o Aberystwyth dydd Sadwrn y cwbwl oedd i'w wneud ar 么l cyrraedd oedd dadbacio'n gloi a dechrau paratoi ar gyfer mynd allan yn y nos. "Rasputin, Sibrydion ac Elin Fflur oedd yn chwarae ar lwyfan y Pentre' Ieuenctid neithiwr (nos Sul), ond gan taw dim ond 8 o'r gloch oedd hi penderfynom fynd lawr i'r dref, neu i'r 'stryd' enwog yn gyntaf. Ma' 'na awyrgylch ffantastig a chyffrous yn Builth yn ystod y sioe, ac yn ystod yr wythnos mae'r lle yn dod yn fyw. "O fewn eiliadau o gamu oddi ar un o'r bysiau mini i mewn i'r dref, gwelsom griw o hen ffrindiau ysgol a choleg yng ngardd un o'r tafarndai. Mae hi wastad yn braf cwrdd 芒 hen wynebau cyfarwydd ac mae'r sioe yn gyfle gwych i wneud hyn. Ychydig yn ddrud yw tafarndai y dref i rai fel ni sydd ar "budget" felly dim ond un diod cawsom cyn troi hi am y Pentre Ieuenctid. "Mae amser yn hedfan pan yn sgyrsio a joio ac roedd hi'n agos at 10:30 arnon ni yn gadael. Doedd gan neb yr awydd i wneud swper pan gyrraeddom ddiwedd y prynhawn ac erbyn nawr roeddwn yn llwgu! N么l i sied fawr y ffarm yn gloi felly am fyrger a diod bach arall yn y garafan. Ro'n ni'n gallu gweud ei bod hi'n amser i ni fynd i'r Pentre Ieuenctid gan fod y carafannau o'n cwmpas bron i gyd yn wag. "Yn anffodus wnaethon ni gyrraedd y Pentre wrth i'r Sibrydion orffen. Er fy mod i wedi bod yn ffan enfawr o Big Leaves, dydw i heb fod yn rhy keen ar y Sibrydion. Ond, yn ara' bach, ma' nhw wedi dechre tyfu arna i ac ar 么l mwynhau ei perfformiad yn y Sesiwn Fawr nos Wener mas draw, ro'n i'n siomedig bo' ni heb lwyddo i gyrraedd mewn pryd neithiwr. Llwyddodd Elin Fflur fodd bynnag gyffroi'r dorf yn dda, ac roedd pawb yn canu ac yn joio ei chlasuron fel 'Harbwr Diogel' a'i fersiwn hi o 'Ar Lan y M么r'. Noson eitha' da felly i ddechrau'r wythnos, dim ond angen cadw llygad yn amlach ar yr cloc! "Hyd yn hyn heddiw (dydd Llun) dydw i heb wneud llawer o grwydro'r maes oherwydd y glaw, ond o'r hyn rwyf wedi ei weld y prynhawn yma mae crowd dda o ymwelwyr wedi dod i'r sioe, ac mae'r maes yn lle braf i grwydro yn y munudau prin lle mae'r haul yn torri trwyddo. "Dewch yn 么l yma yfory i glywed am ddigwyddiadau o'r Pentre Ieuenctid nos Lun a beth fydda i'n ei wneud ar y maes bore fory." Ffion Jones Cofnodion dyddiadur Ffion Jones hyd yn hyn
|