Noson a hanner neithiwr! Siwr taw y 'Wurzels' yw hoff fand pob un person ifanc sy'n mynd i'r Pentre Ieuenctid, gan fod PAWB yn canu BOB un gair o BOB un c芒n! Odd e'n hollol wyllt!! Rhywsut wnes i a un o'm ffrindie chwilio ein hunen yng nghanol yr holl fwrlwm a gwthio'r dorf ac erbyn diwedd y set roodd y ddwy ohonom yn wlyb stecs gyda'r holl gwrw oedd yn cal ei daflu dros y gunulleidfa!! Wedi dweud hynny roedd hi'n agoriad gwych i'r noson oedd i ddod! Newshan, band o ardal Aberaeron oedd yn dilyn ar y llwyfan a wnes i fwynhau eu perfformiad nhw'n aruthrol. Ma' gan Meleri, y prif leisydd, lais gwych ac roedd cymesgedd iach o glasuron gyda nhw i ddiddanu'r dorf. Da hefyd oedd ei fersiwn ychydig yn fwy rocin nhw o 'Hen Wlad fy Nhadau' i orffen eu set. Y bore drannoeth i'r noson gynt Ar 么l holl fwrlwm y noson gynt deffro braidd yn hwyr oedd fy hanes i y bore 'ma. Ond ar 么l brecwast o frechdane bacwn o ni'n hen ddigon parod i fynd lawr am dro o gwmpas y maes. Ma' na hen ddigon o stondine yma sy'n gwerthu pob math o bethe i chi fedru crwydro am orie a chefais fy nhemptio i wario'n arian prin ar sawl achos! Un o ddigwyddiadau sbesial y dydd yn y Prif Gylch oedd y ceffylau o Sbaen a bues i'n eistedd ac yn gwylio rhein am ychydig wrth aros i gwrdd 芒 ffrind arall sy'n gweithio yn y Sioe. Ymlaen wedyn i eistedd eto yn yr haul tu allan i'r "bandstand" tra'n cal cinio. Roedd band jazz wedi dechre chwarae yn ystod yr amser hyn, a cefais awr fach braf iawn yn gwrando, joio ac yn gwylio'r byd yn mynd heibio. Mae'r sioe yn le da iawn i wneud hynny. Frizbee a Meinir Gwilym sy'n chwarae lawr yn y Pentre' Ieuectid heno (nos Fawrth) felly mae'n argoeli'n noson dda arall fan hyn yn y 'Royal Welsh'. Cewch chi'r hanes i gyd pnawn yfory! Ffion Jones Cofnodion dyddiadur Ffion Jones hyd yn hyn
|