Cefais fy neffro bore 'ma gan y bechgyn yn y garafan drws nesa' yn chware "trance" yn fyddarol o uchel. Dim y ffordd gore i ddeffro pan ma'ch pen chi'n teimlo fel bric!! Roedd y gig neithiwr yn y Pentre Ieuenctid yn wych gyda Frizbee a Meinir Gwilym yn chware. Rwy di gweld Frizbee yn chwarae sawl tro ac maent wastad yn rhoi perfformiad da, ond neithiwr oedd y tro cyntaf i mi weld Meinir Gwilym. Yn anffodus prin yw fy nghof i o'i pherfformiad (ond am ddawnsio fel ffwl gwyllt) a gweddill y noson ar 么l hynny. Sori mam, dim syniad fi oedd gwneud punch, onest! Ta beth, trodd y deffroad cynnar yn fendith o ryw fath gan fod y tywydd wedi clirio fyny yn wych y prynhawn 'ma ac ma'r haul yn tywynni'n braf. Ddes i lawr i faes y sioe yn unswydd bron i brynu 'Frougyrt'. Ma nhw'n wych!!! I chi sydd byth wedi gweld nhw o'r blaen, rhyw fath o yogyrt wedi rhewi gyda ffrwythe ydyn nhw. Lysh! Ma'r lle ma'n orlawn heddi ac mae cerdded o gwmpas yn mynd yn boendod ar adegau, felly bues i'n eistedd wrth ymyl y bandstand am ychydig yn gwrando ar rhyw fath o fand drwmio brenhinol. Chware teg rhaid bod hi'n boeth yn y hetie mawr a'r iwnifform trwm, ond roedd hi'n anhygoel gwrando arnyn nhw. Mae'n eitha annodd eu disgrfio, ond odd e fel rhyw fath o 'Riverdance' gyda drymiau! Rhywbeth arall wnes i fwynhau diwedd brynhawn ddoe, er mawr syndod i mi, oedd gwylio'r gystadleuaeth cneifio defaid. Lan yn un o'r siediau ar dop y maes roedd y lle dan ei sang o bobl yn gwylio pwy fydde'n cneifio'r ddafad gyflyma'. Es i chydig yn carried away yn gwylio hwn a nes i ddal fy hun yn clapio'n wyllt gyda'r cefnogwyr ambell waith. O'n i byth yn gwbod fod cneifio yn gallu bod mor gyffrous! Noson ola' yn y Pentre Ieuenctid heno. Ddim cweit yn si诺r pwy sy'n chware ond rhoddai'r holl fanylion i chi fory! Ffion Jones Cofnodion dyddiadur Ffion Jones hyd yn hyn
|