|
|
|
Llyfr Hanes Tregaron Olrhain hanes Tregaron mewn lluniau a wneir mewn llyfr a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hanes Tregaron a'r fro ym mis Tachwedd 2006. |
|
|
|
Oriel o hen luniau o Dregaron o'r llyfr Bu aelodau'r Gymdeithas yn casglu hen luniau i'w rhoi mewn llyfr dwyieithog arbennig sy'n cyflwyno cefndir y dref, yn bennaf i bobl sydd wedi symud i'r ardal heb lawer o wybodaeth am ei hanes. Mae John Lewis yn aelod o'r Gymdeithas ac yn un o bedwar o olygyddion y llyfr a lansiwyd ddydd Sadwrn, Tachwedd 18, 2006 yng Nghanolfan y Barcud, Tregaron, lle ddaeth dros 200 o bobol ynghyd.
"Canrif mewn llun yw'r llyfr, o 1880 1980. Y syniad oedd gyda ni oedd i gofnodi'r newidiadau sydd wedi bod mewn canrif yn Nhregaron. Os ydych chi o dan, dwedwch 40 oed, fyddech chi ddim yn cofio lot o bethau am y pentref. Er enghraifft y rheilffordd, byddech chi ddim yn gwybod bod na reilffordd byth wedi bod yn mynd trwy Dregaron.
"Roedd na hanes cryf o ferlota yn Nhregaron hefyd, ond mae lot o bobol wedi anghofio am hyn. Rydyn ni am ddangos y busnesau oedd yma, y ffeiriau oedd yn digwydd a'r adeiladau sydd wedi mynd i golli.
"Roedden ni am roi blas i bobl sydd wedi symud i'r ardal, yr hanes trwy gyfrwng llun."
Lluniau Oriel o hen luniau o Dregaron o'r llyfr
"Mae'r llyfr yn llawn lluniau, a rydyn ni wedi sgrifennu captions dwyieithog yn dweud yr hanes. Dyw hwn ddim yn lyfr academaidd o gwbwl, ond llyfr allwch chi ei godi i gael golwg cloi arno a wedyn ei roi lawr.
"Roedden ni yn awyddus i roi cyfle i'r bobl hynny oedd wedi cofnodi Tregaron mewn lluniau, a rydyn ni wedi cael benthyg lluniau yn hael iawn gan bobl y pentref. Rydyn ni wedi cael lluniau o gasgliad y diweddar Ron Jones y Medical Hall o Lyfrgell y Sir, Ceredigion a oedd yn ffotograffydd keen iawn ac wedi cofnodi llawer iawn o Dregaron.
"Roedd na ffatri bolish arfer bod yn Nhregaron. Llosgwyd y lle i'r llawr a chollodd un o'r gweithwyr ei fywyd. T欧 sydd yna nawr, ac os ydych chi o dan rhyw oed arbennig yna fyddech chi byth yn gwybod bod na ffatri di bod yna.
"Yn yr un modd, mae gyda ni lun o gae yn Nhregaron pan gynhaliwyd sioe yna, ond tai sydd yna nawr."
Cyhoeddwyd y llyfr ar y cyd rhwng Cymdeithas Hanes Tregaron a'r Cylch a Chwmni Cyhoeddi Landmark Cyf.
Cymdeithas Hanes Tregaron a'r Cylch
Sefydlwyd y Gymdeithas tua chwe mlynedd yn 么l o dan arweiniad y Parchedig Roger Ellis Humphreys. Mae'r Gymdeithas yn cwrdd yn ystod y gaeaf ac yn gwahodd pobl ddiddorol fel siaradwyr gwadd.
Adolygiad o'r llyfr
|
|
|
|
| |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
| |
|
|