Daeth Cymry Cymraeg o bell ac agos i fwynhau G诺yl T芒n Tanat ym Mhenybontfawr ar Fehefin yr 22 a 23, 2007.
Cychwynnodd digwyddiadau'r penwythnos gyda 'Cwis Cymraeg' yn Nhafarn y pentref, Y Railway. Roedd awyrgylch gwych yno ac roedd yn rhagflas dda iawn o'r hyn oedd i ddod - roedd llwyth o bobl lleol o bentrefi a threfi cyfagos ac o drawsdoriad o oedrannau wedi dod at ei gilydd i wneud un peth - mwynhau!
Yn dilyn y noson hynod o lwyddiannus hon (diolch o galon i Arwyn Groe a'i ffrindiau am redeg y cwis), ymlaen felly i'r pnawn Sadwrn. Unwaith eto, roedd yr adloniant yn cael ei gynnal yn y dafarn gartrefol. Cawsom set acwstig gwych gan Linda Griffiths, merch o'r fro. Roedd y croeso cynnes a gafodd hi a'i merch, ynghyd 芒'r clapio a'r canu aeth ymlaen trwy gydol y pnawn, yn brawf o'i phoblogrwydd.
Yn dilyn hyn, symudodd yr hwyl a'r sbri i lawr i gae'r ysgol yn y pentref. Yn ffodus iawn, daliodd y glaw i ffwrdd hyd hanner nos bron, ac fe wnaethom fwynhau perfformiadau gwych gan Frizbee, Vanta a Gola Ola allan yn yr awyr agored! Pan ddaeth y glaw, roedd yn bosib i'r heidiau fynd o dan orchudd y pebyll mawr lle osodwyd y bar a'r bandiau.
Wrth siarad am berfformiadau'r bandiau, dim ond un gair sy'n addas - rhagorol! Llwyddodd y miwsig i ychwanegu at naws hwyliog y noson, a roedd yr awyrgylch yn un o fwynhad ac ymhyfrydu yn y fraint o fod yn Cymro neu Gymraes. Roedd ambell ymwelwyr o dros y ffin yno hefyd, a roedd canmoliaeth mawr ganddynt am y miwsig a'r croeso cawsant yn yr 诺yl.
Hoffai'r pwyllgor ddiolch i bawb 芒 gefnogodd yr 诺yl, yn enwedig Y Railway, Arian i Bawb Cymru am y cymorth ariannol a'r bechgyn a'r merched lleol wnaeth roi o'u hamser eu hunain i helpu baratoi'r cae ysgol ar gyfer yr 诺yl.
Roedd G诺yl T芒n Tanat eleni wedi atynnu mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen - rydym nawr yn edrych ymlaen at adeiladau ar y llwyddiant hyn a threfnu T芒n Tanat 2008!
gan Rhian Wyn Williams, o Gymdeithas Adloniant Tanat
|