Ganwyd Colorama yn 2005-yn greadigaeth Carwyn Ellis, Cerddor amryddawn a hyfforddwyd yn y Royal Academy of Music yn Llundain ac a fu'n perfformio gyda rhai o enwau mwya y byd pop a roc- o Oasis i Paul Weller a Neil Young. Ymunodd ei ffrind pennaf a hen gyfaill o ddyddiau Coleg, David Fletcher, meistr ar y bas-dwbl, 芒'r band gan ddechrau eu gyrfa fel 'Colorama' yn gigio yn Lerpwl.
Ond ar 么l dwy flynedd, symudodd y band i Gymru a rhyddhawyd yr albwm cyntaf, yn Siapan yn unig, 'Cookie Zoo' ar Noise McCartney / Bad News Records (Victor Entertainment) yn Ebrill 2008.
Cynyddodd boblogrwydd y band seicadelig a melodaidd wrth iddynt swyno'r dyrfeydd yng Ngwyliau Glastonbury, Latitude, Home Game, S诺n ac eraill. Ond yn 2009, ar 么l perfformiad grymus yn Glastonbury, bu farw David Fletcher yn sydyn o drawiad y galon ac yntau ond yn 37 oed, oedd yn golled enbyd i'r band.
Ym mis Medi 2009, rhyddhawyd albwm cyntaf y band yn y DU, Magic Lantern Show ar Redbricks Recordings, yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a'r Saesneg. Erbyn hyn roedd Luca Guernieri wedi ymuno ar y drymiau a David Page ar y gitar fas. Un o'r caneuon mwyaf trawiadol oedd y swynol 'Dere Mewn', sydd yn glasur erbyn hyn. Disgrifwyd hi yn "g芒n anhygoel" gan Huw Stephens ac yn "Soft Psych Classic" gan Sean Rowley. Cafodd yr albwm ei chwarae yn gyson gan y brif orsfeydd radio gan godi proffil y band yn sylweddol.
Yn 2010, rhyddhawyd yr albwm 'Box', ar labelau Noise McCartney / Bad News Records (Victor Entertainment) yn Siapan a 'See Monkey Do Monkey Recordings' yn y DU. Yn fuan wedi hyn, rhyddhawyd sengl Nadoligaidd ganddynt, 'Cerdyn Nadolig', unwaith eto yn waith arbennig o felodig, ag enillodd y safle cyntaf iddynt ar Siart C2
Sesiynau
Erthyglau
colorama i chwarae glastonbury bbc cyflwyno
17 Mehefin 2009
Mwy o fandiau o Gymru i chwarae Glastonbury
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
成人论坛 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.