'Yn swnio'n wirioneddol fel crair colledig yn hytrach nag albwm newydd sydd ar y silffoedd am y tro cyntaf yn 2010.'(Mike Diver)
Yn chwa o awyr iach syrff-aidd yn y s卯n Gymraeg ac yn dwyn atgofion o fandiau fel y Shadows ac MC5, creuwyd Y Niwl yn 2009 gydag Alun Evans (neu Alun Tan Lan, (git芒r), Peter Richardson (drymiau) a Si么n Glyn (bas).
Yn canolbwyntio ar yr offerynnol yn unig, roedd albwm cyntaf y band, Y Niwl ar label Aderyn Papur a ryddhawyd yn 2010 yn lwyddiant ysgubol gyda'r band yn perfformio mewn nifer o gigs proffil uchel (yn cefnogi Gruff Rhys ar sawl achlysur). Cawsant lwyfan hefyd mewn Gwyliau o bwys fel Latitude, S诺n a'r Green Man. Mae'r ffaith nad ydynt yn canu mewn iaith penodol yn sicr wedi estyn apel y band i gynulleidfa dipyn ehangach na'r arferol i fand Cymraeg.
Cafodd yr albwm cyntaf ei greu yn defnyddio hen dechnegau recordio i sichrau dilysrwydd cyfnod cerddoriaeth 'syrff' gyda'r peiriannydd uchel ei barch, David Wrench, (British Sea Power, Hot Chip ac eraill), yn cynhyrchu. Yn anghyffredin iawn hefyd mae'r caneuon oll wedi eu henwi ar ffurf 'rhifau'.
Ym mis Mai 2011 cyhoeddodd y band sengl newydd, Undegsaith/Undegchwech . Yn yr un flwyddyn, enillodd 'Y Niwl' Wobr Roc a Phop 成人论坛 Radio Cymru am y Band Byw gorau, yn dilyn llwyddiant yng Nghwobrau RAP 2010, pan enillodd Y Niwl Wobr 'y band a ddaeth i amlygrwydd'.
Yn 2011, defnyddiodd y rhaglen deledu, 'Football Focus' y g芒n Undegpedwar fel ei cherddoriaeth thema.
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
成人论坛 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.