Daw'r newyddion ychydig oriau wedi i swyddogion T卯m Cymru yn India er gwaethaf y gofid yngl欧n 芒 safon glendid a diogelwch y cyfleusterau. Ond yn 么l Thomas, oedd yn un o'r ffefrynnau yn nh卯m Cymru i ennill medal aur, mae'r posibilrwydd o gael ei daro gan salwch wrth gystadlu yn Delhi yn ormod o risg i'w gymryd. Yr afiechyd deng, sy'n cael ei gario gan fosgitos, yw'r prif bryder. "Roeddwn am fod yna am amser hir yn cystadlu ar y trac ac ar y ffordd ac mae yna siawns uchel o fynd yn s芒l," meddai Thomas, sy'n 24 mlwydd oed. "Mi fydd yna dipyn o bwysau ar ben yr holl rasio a 'dw i ddim yn meddwl bod modd i unrhyw un berfformio i'w lawn botensial mewn amgylchiadau felly." Roedd Thomas wedi penderfynu peidio 芒 chystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Awstralia er mwyn canolbwyntio ar ei uchelgais o ennill medal aur i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad. Ond dywed y g诺r o Gaerdydd bod hi'n bwysicach sicrhau ei fod yn holliach er mwyn hyfforddi yn drylwyr dros y gaeaf er mwyn paratoi yn drylwyr am y tymor nesaf. "Mi roedd hi'n benderfyniad anodd ei wneud felly mi wnes i drafod y peth gyda swyddogion t卯m Prydain - ond fe mhenderfyniad i yw e," ategodd Thomas, ennillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing. "Roeddwn yn awyddus iawn i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad oherwydd dim ond unwaith bob pedair blynedd mae cyfle i mi gystadlu dros Gymru. "Ond wrth ddweud hynny, mae yna bethau pwysicach i'w hystyried."
|