Ond roedd yn cydnabod bod angen rhagor o waith i sicrhau bod pentref y cystadleuwyr yn barod. Fe fydd y Gemau yn dechrau yn swyddogol ar 3 Hydref gyda chystadlu mewn 17 o gampau gwahanol. "Mae 'na dipyn o waith yn weddill i'w wneud a rhagor o waith i'w wneud yn y pentref. Dyw hi ddim drosodd eto," meddai Fennell. "Fe ddylai'r gwaith sydd yn cael ei wneud nawr fod wedi cael ei wneud o'r blaen. "Ond yn awr ry' ni'n canolbwyntio ar sut i gwblhau pethau fel gall yr athletwyr fwynhau'r amodau gorau cyn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad. "Ry' ni'n awyddus bod yr ymdrech a'r momentwm yn parhau nid yn unig tan fydd y timau'n cyrraedd ond drwy gydol y Gemau." Bydd aelodau cyntaf t卯m Cymru, gan gynnwys t卯m hoci merched a'r t卯m bowlio, yn gadael am India y penwythnos hwn. Dywed rheolwr t卯m Cymru Brian Davies ei fod yn fodlon bod y llety sydd wedi darparu ar gyfer cystadleuwyr Cymru yn barod.
|