Gorffennodd y ferch 18 mlwydd o'r Fenni mewn amser o 35.236 eiliad - ei amser gorau erioed i sicrhau'r trydydd safle. Dwy ferch o Awstralia, Anna Meares a Kaarle McCulloch, gipiodd yr aur a'r arian. "Doeddwn i ddim yn si诺r os oeddwn am ennill medal ond mae cipio efydd yn fy Ngemau cyntaf yn anhygoel," meddai James. "'Dwi mor hapus ac yn methu canfod y geiriau i ddisgrifio sut 'dwi'n teimlo. 'Dwi wrth fy modd. "Mae'r merched o Awstralia wastad yn gryf ac i fod yn onest doeddwn i ddim yn disgwyl i'w curo." Efydd James yw'r ail fedal i Gymru sicrhau yn Delhi wedi i Jazz Carlin gipio medal arian yn 200m dull rhydd yn y pwll nofio.
|