Cael a chael oedd hi i Carlin wrth iddi frwydro yn y 10 metr olaf yn y ras 400m dull rhydd i gyrraedd y nod modfeddi o flaen Anne Bochmann o Loegr. Ac roedd hi'n agosach fyth yn y 50m dull cefn wrth i Davies rannu'r trydydd safle gyda'r ffefryn Emily Seebohm wrth orffen gydag union yr un amser. Dyma oedd ail lwyddiant Carlin yn y pwll ar 么l i'r ferch 20 oed gipio'r fedal arian yn y ras 200m ddydd Llun, wrth orffen tu 么l i Kylie Palmer ac o flaen Rebecca Adlington. A'r dair yna hawliodd y medalau dros 400m, ond roedd y drefn yn hollol wahanol. Adlington ddaeth i'r brig y tro yma, wrth i'r bencampwriaeth Olympaidd greu record newydd yn y Gemau wrth orffen mewn amser o bedwar munud 05.68 eiliad. Gorffennodd Palmer bron i ddau eiliad yn ddiweddarach, gyda Carlin yn ymestyn i'r eithaf i sicrhau medal arall. "Roeddwn yn teimlo'n ofnadwy bore 'ma," meddai Carlin wedi'r ras. "Felly mae ennill medal arall yn wych." Sophie Edington o Awstralia a Gemma Spofforth o Loegr oedd o flaen Davies yn y 50m dull cefn. Gorffennodd David Roberts yn bedwerydd yn rownd derfynol 100m yr S8 dull rhydd - categori gwahanol i'r hyn y mae'n arfer cystadlu. Ac fe orffennodd Marco Loughran hefyd yn bedwerydd yn rownd derfynol y 100m dull cefn. Ond roedd ymdrechion Ieuan Lloyd i gyrraedd rownd derfynol y ras gymysg unigol dros 200m yn aflwyddiannus. Mae David Davies wedi sicrhau ei le yn rownd derfynol yn 1500m dull rhydd ar 么l gorffen yn bedwerydd yn ei ragras ddydd Gwener.
|