成人论坛


Explore the 成人论坛

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
成人论坛 Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人论坛 Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sant John Roberts Pwy oedd John Roberts?

Hanes rhyfeddol y sant o'r Traws

25 Hydref 2001
Dydio ddim yn enw y byddai rhywun yn disgwyl ei weld ar sant - felly, pwy oedd John Roberts?

• Ganwyd John Roberts yn Rhiw Goch, Trawsfynydd ym 1577. Mae鈥檔 debyg iddo gael ei fedyddio yn Eglwys St. Madryn, Trawsfynydd. Credir iddo fyw wedyn naill ai yn y Gelli Goch neu Dyddyn Gwladys, Trawsfynydd.

• Ef oedd mab hynaf Robert ac Anna Roberts. Roedd yn frawd i Ellis, Cadwaladr, Gwen, Margaret ac Ellen.

• Mae ei linach yn mynd yn 么l i Cunedda ac ymysg rhai o鈥檌 hynafiaid uniongyrchol mae
Maelgwn Gwynedd,
Rhodri Fawr,
Hywel Dda,
Gruffydd ap Cynan
Owain Gwynedd.

• Ymysg ei hynafiaid anuniongyrchol mae
Dewi Sant,
Uthr Pendragon,
y Brenin Arthur,
Owain Glyndwr,
Llewelyn Fawr
Llewelyn ein Llyw Olaf.

• Mae鈥檔 debyg mai mab fferm oedd o. Ond rhaid cofio mai鈥檙 system gyntaf-anedig oedd yn gweithredu yn y cyfnod. Rhiw Goch oedd fferm y teulu ac fe aeth honno i ewythr John Roberts, nid i鈥檞 dad.

• Yn Rhiw Goch y magwyd Robert Lloyd, aelod seneddol cyntaf Meirionydd a chefnder John Roberts.

• Ond mae鈥檔 amlwg fod teulu John Roberts yn eithaf cefnog gan iddo gael y cyfle i fynd i鈥檙 coleg.

• Credir iddo gael ei addysg gynnar gan hen fynach a ddifeddiannwyd o Abaty Cymer, wedi i Harri鈥檙 VIII gau鈥檙 mynachlogydd.

• Magwyd John Roberts yn Brotestant ac aeth i Goleg St. Ioan, Rhydychen ar Chwefror 26, 1595, i gael ei addysg ond gadawodd a mynd i Furnival鈥檚 Inn i astudio鈥檙 gyfraith.

• Bu'n teithio'r Cyfandir a thra ym Mharis trodd yn Babydd yn eglwys gadeiriol N么tre Dame.

• Aeth i Bordeaux ac wedyn i鈥檙 Coleg Saesneg yn Valladolid, Sbaen. Wedi blwyddyn yma aeth i Abaty St. Benedict, Valladolid, ac wedyn i wneud ei nofyddiaeth yn Abaty St.Martin yn Santiago de Compostella.

• Wedi iddo gael ei ordeinio aeth i genhadu yn Lloegr. Ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd i Loegr wedi i Harri鈥檙 VIII ddiddymu鈥檙 mynachlogydd.

• Er bod ysb茂wyr y llywodraeth yn ei ddilyn llwyddodd i lanio yn Lloegr.

• Daliodd yr awdurdodau ef bedair neu bum gwaith - unwaith ym mis Tachwedd 1605 yn ystod Brad y Powdr Gwn.

• Ar bob achlysur wedi cyfnod byr o garchar dedfrydwyd ef i alltudiaeth.

• Yn ystod y cyfnod pan oedd y Pla Du yn ymledu trwy Gymru a Lloegr bu John Roberts yn gweini ar gleifion yn Lundain.

• Yn 1610 dychwelodd i Loegr am y tro olaf er ei fod yn gwybod mai dienyddiad fydda鈥檙 gosb pe caffai ei ddal. Un diwrnod tra'r oedd yn ei urddwisg ac yn gorffen yr Offeren aethpwyd ag ef i Newgate.

• Cafwyd ef yn euog o uchel frad ac fe鈥檌 dienyddiwyd ar Ragfyr 10, 1610, trwy ei grogi, ei ddadberfeddu a鈥檌 chwarteru. Ymgasglodd tyrfa enfawr yn dyst i'r digwyddiad gan iddo ddod mor boblogaidd ymysg y tlodion yn ystod cyfnod y pla.

• Er mai'r arfer oedd i ddadberfeddu person tra'r oedd yn dal yn fyw ni chaniatawyd hynny gan y dorf yn achos John Roberts gan fod ei garedigrwydd yn dal yn fyw yn eu cof.

• Traddodiad arall oedd bod y dadberfeddwr wedi鈥檙 weithred yn dal y galon i fyny gan ddatgan "Wele galon bradwr!". Byddai鈥檙 dorf wedyn yn ateb "Hir oes i鈥檙 Brenin". Ond y tro hwn roedd y dorf yn fud.

• Roedd John Roberts yn 33 oed pan gafodd ei ddienyddio gydag un offeiriad arall a 16 o ffelwmiaid.

• Ond nid yw鈥檙 stori鈥檔 diweddu 芒鈥檌 farwolaeth.
Wedi鈥檙 dienyddiad aeth y mynachod â鈥檙 corff i Douai yn Ffrainc. Ond roedd un goes wedi disgyn i ddwylo鈥檙 gelyn. Aethpwyd â rhannau o'i gorff i Goleg St Gregory, coleg yr oedd ef yn un o鈥檌 brif sefydlwyr ym 1606-7. Roedd y coleg yn hyfforddi offeiriaid i鈥檙 genhadaeth Saesneg.

• Aethpwyd â rhannau eraill o鈥檌 gorff i Valladolid a Santiago de Compostella ond diflannodd y rhain yn ystod y Chwyldro Ffrengig a鈥檙 Chwyldro Sbaenaidd.

• Mae bys iddo yn Eglwys Gatholig Blaenau Ffestiniog ac un arall mewn lleiandy yn Tyburn a thrydydd yn Taunton.

• Darganfuwyd un o鈥檌 freichiau鈥檔 ddiweddar ym meddiant teulu brenhinol Sbaen. Erbyn hyn mae hwn yn Santiago de Compostella.

Gellir gweld dau lun gwahanol o John Roberts yn Eglwys Gatholig Gellilydan ac mae llun ohono newydd ei osod yn Valladolid.

• Yn ddiweddar gosodwyd cerflun ohono mewn eglwys ym Mhortiwgal.

• Mae dau gerflun yn Abaty Downside ger Caerfaddon, prif ganolfan Benedictaidd Prydain. Yma hefyd ceir llawer o wybodaeth ysgrifenedig amdano ac mae un o dai鈥檙 ysgol wedi ei enwi ar ei 么l.

• Cynhelir gwasanaeth i鈥檞 goff谩u ar ddiwrnod ei ferthyrdod, Rhagfyr 10, bob yn ail flwyddyn yn Eglwys Gatholig Gellilydan ac Abaty Cymmer.

• Ddiwedd y 1950au a dechrau鈥檙 60au daeth nifer o Wyddelod ar bererindod i Drawsfynydd gan ymgasglu yn neuadd y pentref i鈥檞 drafod.

• Ar Orffennaf 21, 1960, dathlwyd ei fywyd yn Rhiw Goch a daeth dros fil o Gatholigion o bob rhan o ogledd Cymru yno.

• Enwyd Eglwys Gatholig ar ei 么l yng Nghorwen ond erbyn hyn mae wedi ei chau a'i gwerthu.

• Ar hyn o bryd mae archifydd yn Santiago de Compostella yn paratoi bywgraffiad Sbaeneg ohono.

 
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant



Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy