|
|
Llythyr:
'Mwy o gyts na sens' gan Sant?
7 Tachwedd 2001
|
Llythyr oddi wrth Aled Edwards
Annwyl Gyfeillion,
Dim ond gair bach i ddiolch i Gymru'r Byd am roi sylw teilwng i ymdrechion
trigolion Trawsfynydd i gofio un o hogia' amlycaf y pentref.
Fel un a gafodd ei fagu yn yr ardal, gallaf ond rhyfeddu i ni fod
mor amharod i roi'r lle priodol i Sant John Roberts ym mywyd y fro
a'r genedl. Efallai i gymeriad ymneilltuol yn yr ardal gadw鈥檙 hanesion
dan ryw fath o orchudd.
A ninnau'n byw bellach mewn byd sy'n fwy parod i ddwyn Cristnogion
at ei gilydd, gellir ond gobeithio y bydd Cymru gyfan yn cynorthwyo
bobl Traws yn eu hymdrechion i godi cofeb deilwng i un o gewri mwyaf
yr ardal.
Bydd y traddodiad Catholig yn parchu John Roberts fel rhyw fath o
ail Awstin. Ef oedd y sant a ddaeth yn 么l i Brydain wedi'r diwygiad
Protestannaidd i adfer y ffydd Gatholig yn y tir.
Gobeithiaf yn fawr erbyn hyn, y gall holl Gristnogion Cymru hawlio
tystiolaeth gadarn a diffuant John Roberts a'i debyg. Mae ei hanes
yn perthyn nid yn unig i un gymuned ffydd, ond i genedl gyfan.
Wedi dweud hyn i gyd, fel un o hogia' Traws, rhaid cyfaddef bod stori
John Roberts yn peri syndod. Cafodd ei garcharu sawl tro a'i rybuddio'n
aml cyn ei ddienyddiad erchyll. Maddeuwch y dweud lleol anffodus,
ond o ystyried dull ei farw, bum yn meddwl yn aml iawn bod gan y boi
llawer mwy o gyts na sens.
Yr eiddoch,
Aled Edwards
Caerdydd.
Beth yw eich barn chi? Ebostiwch
i ddweud.
|
|
|
|
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru |
|
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
|
|
|
|