- Y S锚r: Tom Hanks, Ewan MacGregor, Ayelet Zurer, Stellan Starsg氓rd.
- Cyfarwyddo: Ron Howard
- Sgwennu: David Koepp ac Akiva Goldsman, yn dilyn nofel Dan Brown.
- Hyd: 138 munud
Gwrth-fater yn fater o bryder
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Pan gyhoeddwyd y nofel Angels and Demons gynta yn 2001, chafodd hi ddim llawer o effaith ar ddarllenwyr nes i'w dilyniant, The Da Vinci Code - yn "datguddio" cyfrinach fawr y Greal Sanctaidd - gipio yn nychymyg miliynau o folaheulwyr yn chwilio am rywbeth i'w ddarllen ar draethau ledled y byd.
Yn dilyn llwyddiant torfol The Da Vinci Code, felly, trodd yr un darllenwyr at ei rhagflaenydd, Angels and Demons; nofel oedd yn cynnig yn union yr un fformiwla ac yn cynnwys antur lled-hanesyddol gyda cliffhanger cyffrous ar ddiwedd pob pennod, stynts anghredadwy, a naratif oedd yn dweud pethau mawr am Gristnogaeth, gyda'r stori'n canolbwyntio'n bennaf ar y tensiwn rhwng y byd gwyddonol a'r Eglwys Gatholig.
Cymdeithas gyfrin
Dair blynedd yn dilyn ffilm Ron Howard o The Da Vinci Code - gyda'i dewis dadleuol o Tom Hanks yn y brif ran- dyma gyflwyno'r rhagflaenydd ar ffurf dilyniant, wrth i heddwas o Ddinas y Fatican alw ar yr Athro Robert Langdon (Hanks) ym Mhrifysgol Harvard, yn dilyn bygythiad i'r Eglwys Gatholig gan yr Illuminati - cymdeithas gyfrin o wyddonwyr a deallusion sydd wedi gwrthwynebu grym yr Eglwys ers cael eu herlid ganddi ganrifoedd ynghynt.
Mae'n debyg bod Robert Langdon - Athro sy'n arbenigo mewn symbolau hanesyddol arwyddocaol - yn enw sy'n hysbys i'r Eglwys ers yr helbul cynharach gyda'r Greal Sanctaidd, a chan ei fod yntau'n awyddus i barhau 芒'i ymchwil ei hun i weithgareddau hanesyddol yr Illuminati, mae'n derbyn y gwahoddiad i fod o gymorth i'r Fatican wrth iddi wynebu cyfnod o argyfwng; marwolaeth amheus un Pab, a chyfnod cyffrous o etholiad, neu Conclave, i ddewis y Pab nesaf.
Sefydlir hefyd ladrad difrifol a llofruddiaeth erchyll yn labordy Dr Vittoria Vettra (Ayelet Zurer) yng nghanolfan wyddonol CERN - cartre'r Hadron Collider ger Genefa- yn dilyn arbrawf llwydiannus i greu 'gwrth-fater' - anti-matter - tu hwnt o ddadleuol, sydd yn medru achosi dinistr di-ben-draw.
O fewn dim, darganfyddwn mai'r Illuminati sy'n gyfrifol am y llofruddiaeth a'r lladrad a'u bod yn dal pedwar uwch-esgob yn wystlon, ac yn debygol o ffrwydro'r botel golledig o wrth-fater sydd bellach yn eu meddiant rywle ger y Vatican.
Ras enbyd
Dyma fan cychwyn y ffilm a'r hyn a geir dros y ddwyawr nesaf yw ras enbyd yn erbyn y cloc i achub yr esgobion rhag artaith erchyll ac i ddifa'r "bom" gwenwynig cyn iddo ffrwydro a dinistio Dinas y Fatican a miloedd o ddilynwyr Pabyddol sy'n disgwyl am gyhoeddiad y Pab newydd yn Sgw芒r Sant Pedr.
Yn bennaf gyfrifol am geisio datrys y dirgelwch y mae'r Athro Landon a Dr Vettra, dim diolch i amrywiaeth o unigolion digon sinistr, gan gynnwys pennaeth heddlu'r Vatican, Commander Richter (Stellan Starsgard), a dirprwy'r Pab a fu farw, y Camerlengo Patrick McKenna (Ewan MacGregor).
Cerddoriaeth gyffrous
Rhaid dweud bod yna ymdeimlad o gyffro gydol y ffilm ond y prif reswm am hynny yw'r gerddoriaeth gyffrous gan Hans Zimmer sydd yn gefnlen barhaol i'r helfa drysor hunllefus.
Heb y gerddoriaeth hon - a golygfa wirioneddol wefreiddiol wnaeth fy ngadael i'n gegrwth tua diwedd y ffilm - yr hyn a geir gan fwyaf yw llawer iawn o drafodaethau lled-academaidd tra'n rasio ar hyd milltiroedd o goridorau hynafol amrywiol eglwysi Rhufain.
Serch ymdrechion y cyfarwyddwr Ron Howard i geisio creu Indiana Jones newydd - yn seiliedig ar arbenigedd mewn symbolau a chynllwyniau crefyddol yn hytrach nag archaoleg - mae na rywbeth mawr ar goll.
Yn wir, er i'r nofelau cyntaf gael eu dylanwadu'n fawr gan gonfensiynau Hollywood, i blesio darllenwyr sy'n mynnu tro yn y gynffon bob pum munud, gellid dadlau'n gry bod sgwenwyr y ffilmiau wedi anwybyddu'r elfennau mwyaf anghredadwy o anturus - a Hollywoodaidd - i gymeriad Robert Langdon y nofelau, a heb hynny, mae e'n academydd canol oed heb r么l arbennig ond i ymffrostio'i wybodaeth eang am y ffeithiau hanesyddol dan sylw.
Efallai mai annheg fyddai cymharu Angels and Demons 芒 chyfres lwyddiannus Indiana Jones ond rhaid pwysleisio na lethodd Spielberg a Lucas erioed eu cynulleidfaoedd gyda gormod o'r hanes, dim ond sefydlu cymeriad cofiadwy a ffurfio cyfres o olygfeydd anturus wedi'u fframio mewn perspectif hanesyddol, a chreu stori serch i ychwanegu'r emosiwn angenrheidiol i gadw'r ddysgyl yn wastad.
Arwres ddeallus
Yn achos y cymeriad Dr Vittoria Vettra mae'n braf iawn gweld "arwres" ddeallus mewn ffilm fawr fel hon sydd ddim yn gorfod troi at yr arwr am y gusan anochel rywle tua diwedd y ffilm - ond rhaid dweud bod angen elfen o ramant mewn ffilm mor Hollywoodaidd fformiwlaeg.
Yn anffodus, does yna ddim calon emosiynol i'r ffilm hon ac o ystyried iddynt gastio'r nesaf peth at Nigella Lawson, a dewis lleoliad mor ramantus 芒 Rhufain, alla i ddim maddau i'r cynhyrchwyr am fod mor rhyfygus 芒 hepgor yr elfen hanfodol honno!
Ar y cyfan dyma ddwyawr ac ugain munud digon difyr ond, fel y nofelau niferus sydd bellach yn llechu ar silffoedd siopau elusennau ac arwerthiannau cist ceir ledled y wlad, bydd y ffilm hon wedi'i lluchio o'ch cof cyn pen dim!
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
'Gwael ac arwynebol' - meddai llenor a Phabydd
- Ar gyfer rhaglen Radio Cymru, Bwrw Golwg, bu'r llenor, beirniad llenyddol a Phabydd, Harri Pritchard Jones, yn gweld Angels and Demons.
Ond ni chafodd ei blesio rhyw lawer gan ei disgrifio fel ffilm wael, arwynebol a senitmental ar adegau sy'n dibynnu'n llwyr bron ar stynts.
Dywedodd ei bod fel "fersiwn gwael" o'r ffilmiau James Bond ac fe'i cyhuddodd o "fychanu" dadleuon oesol rhwng gwyddoniaeth a ffydd ac o fethu gwneud drama ohonyn nhw.
Gellir gwrando ar ei sgwrs yn llawn gyda John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg trwy glicio ar y dde.