成人论坛

Bronson - yn hudo ac yn anesmwytho

Tu l i'r dorau dur - Bronson yn y ffilm

Tu 么l i'r barrau dur

18Tair  seren

  • Y S锚r: Tom Hardy, Matt King, James Lance, Amanda Burton.
  • Cyfarwyddo: Nicolas Winding Refn .
  • Sgwennu: Nicolas Winding Refn a Brock Norman Brock.
  • Hyd: 90 munud

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Pan ddedfrydwyd Michael Petersen i saith mlynedd o garchar ym 1974 am ddwyn llai na degpunt ar hugain o swyddfa bost, disgwyliodd ei fam ei weld yn ddyn rhydd ymhen pedair blynedd.

Ychydig wyddai neb ar y pryd y byddai'n dal dan glo bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach - ond yno mae o hyd heddiw.

Mae'r biopic hwn, am y carcharor drwgenwog a aned yn Aberystwyth, yn astudiaeth o'r modd y cymerodd un dyn anhysbys enw vigilante enwoca sinema'r 70au a herio'r system ar ei delerau ei hun.

Carcharor anghyffredin

Yn sicr, nid pob carcharor fyddai'n dymuno ymestyn ei ddedfryd o wirfodd ond, fel y gwelir yn y ffilm sgitsoffrenig hon, dydy Mickey Petersen - neu Charles Bronson, fel y dewisodd alw'i hun ar 么l cyfnod dan glo - ddim yn garcharor cyffredin.

Caiff Bronson ei gyflwyno inni ar ffurf meistr seremoniau carismataidd, yn annerch cynnulleidfa theatr gyda hanes ei fywyd, ac er iddo ein tywys ar daith gronolegol o'i fywyd drwy'r ffilm, dychwelir yn gyson at y ddelwedd hon o'r dyn cadarn, moel, gyda mwstash cyrn beic, a siwt smart, fel petai'r cyfarwyddwr yn dymnuno inni ei ystyried yn un o ryfeddodau rhyw syrcas Edwardaidd.

'Mab annwyl ei fam'

Gwelwn bytiau o'i fywyd lliwgar ar 么l i'r teulu symud i ddinas Luton - fel mab annwyl i'w rieni ond yn ddisgybl gwrthryfelgar yn yr ysgol, yna'n weithiwr dygn ac yn 诺r a thad cydwybodol, nes iddo sylweddoli nad yw bywyd "digon da" yn ddigon da.

Pan gaiff ei ddedfrydu am ei ran mewn lladrad arfog ei ymateb cyntaf i'w gell ydy bodlonrwydd wrth iddo sylweddoli y gallai fod yn ddyn o bwys o fewn waliau carchar ac ennyn enwogrwydd di-ben draw .

O fewn dim, mae'n llwyddo i greu enw iddo'i hun trwy wrthryfela'n ffyrnig yn erbyn dwsinau o swyddogion ac ennill cymeradwyaeth fyddarol ei gyd-garcharorion ac arhosiad mewn dros gant o garcharau ledled Prydain dros y blynyddoedd - gan gynnwys sawl uned seiciatrig - gyda'r rhan fwyaf o'i gyfnod dan glo wedi'i dreulio dan amodau llym, a hynny ar ei ben ei hun.

Haeddu bod yn 18

Afraid dweud nad canu ac actio lwyddodd i ennyn ei enwogrwydd ond, yn hytrach, agwedd anifeilaidd o dreisgar, ac mae'r golygfeydd niferus ohono'n arfogi ei hun yn feddyliol ac yna'n cyflawni cyflafan waedlyd yn sicr yn cyfiawnhau'r dystysgrif 18.

Ond er hyd ei ddedfryd, mae'n werth nodi na laddodd Bronson yr un dyn erioed ac, fel y mae ef ei hun yn dadlau, mewn cyfrol o fyfyrdodau i'w chyhoeddi gan Y Lolfa fis Mai 2009, mae yna droseddwyr llawer gwaeth nag ef a'u traed yn rhydd.

Yn wir, dyma'r benbleth fwyaf sy'n wynebu'r cyfarwyddwr o Ddenmarc, Nicolas Winding Refn, a dydw i ddim yn siwr a lwyddodd i'n darbwyllo'n llwyr mai anghyfiawnder llwyr fyddai parhau i gadw dyn fel Bronson dan glo.

Yn wir, gorffen ar nodyn dychrynllyd wna'r ffilm yma, yn hytrach na'i ddangos fel y carcharor heddychlon sydd wedi tawelu tipyn dros y degawd diwethaf a hynny, mae'n siwr, er mwyn gadael argraff gofiadwy gyda'r gynulleidfa.

Ennyn cydymdeimlad

Mae'n amlwg mai ffilm wedi'i chyflwyno o safbwynt y carcharor yw hon ac, yn wir, ceir digon o adegau ynddi i godi crechwen, os nad ennyn cydymdeimlad llwyr ag ef.

Mae hynny, diolch yn bennaf, i berfformiad ysgubol gan y Sais ifanc Tom Hardy sydd yn llwyddo i'n swyno a'n hanesmwytho ar yr un pryd - camp yn wir.

Ond wedi dweud hynny, methais i'n l芒n a deall yn iawn pam y mynnodd y carcharor barhau i frwydro cyhyd yn erbyn "y system" er bod rhyddid o fewn ei gyrraedd o'r cychwyn cynta ond iddo barchu'r rheolau.

Poster 'Bronson'

Yn amlwg, dydy dyn fel Charles Bronson ddim yn un i barchu rheolau - tan yn gymharol ddiweddar, beth bynnag - ond rhaid dweud i'r methiant hwn i egluro'i resymeg - boed honno'n resymeg gwbl afresymol ai peidio - fy nieithrio i'n llwyr.

Yn anesmwytho

Er bod digon i'w ganmol yn Bronson - o'r actio gwych a'r trac sain, sydd yn cyfosod cynhesrwydd clasurol gyferbyn ag electro oeraidd yr Wythdegau, i ambell olygfa theatrig sy'n llwyddo i gynnal is-destun y sioe syrcas yn dra llwyddiannus - rhaid cyfaddef i'r hanner awr olaf fy anesmwytho gymaint nes i mi orfoleddu'n llwyr wrth adael y sinema a chefnu ar synnwyr swreal y dyn dan sylw.

Os mai taith dywyll i psyche'r carcharor oedd n么d y cyfarwyddwr wrth ddechrau ar y prosiect hwn, yna ar lefel hollol arwynebol, mae wedi cyflawni hynny i'r dim - ond rhaid pwysleisio nad ffilm garchar gonfensiynol mo hon, ac rwy'n ansicr at ba gynulleidfa y mae'r cyfarwyddwr wedi ceisio apelio, p'run ai torfeydd y Multiplex ynteu meddylwyr yr Art-House.

Arbrawf diddorol

Os am brofi astudiaeth arswydus o effeithiau eithafol carchar ar un dyn, mae Bronson yn arbrawf ddiddorol ond, yn fy marn i, does dim cymhariaeth rhwng Bronson a Hunger - y ffilm sy'n dilyn hanes ympryd Bobby Sands ar ddechrau'r Wythdegau ac a fydd ar gael ar DVD cyn bo hir.

  • Cyhoeddir y gyfrol Diaries From Hell - casgliad o fyfyrdodau, cerddi a lluniau Charles Bronson gan Y Lolfa fis Mai 2009.

Mwy

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.