Y golwg yn mynd
Bu'r actor, Huw Ceredig, yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd am y ffordd y mae ei olwg yn dirywio oherwydd Clefyd Siwgr a sut mae hynny yn effeithio ar ei fywyd.
Ar Raglen Dewi Llwyd fore Sul, Chwefror 22 2010, dywedodd ei fod yn disgwyl colli ei olwg yn llwyr maes o law.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
"Mae'n glefyd dieflig," meddai am Glefyd Siwgr, "ac yn glefyd sy'n gallu effeithio ar eich traed chi, ar eich llygaid chi falle'n fwy na dim byd.
Wn芒i ddim dweud mod i'n prysur colli ngolwg ond yn y pen draw dwi'n meddwl [mai] dyna fydd. Colli ngolwg yn gyfan gwbl.
"Roeddwn i'n ddarllenwr brwd, papurau newydd, llyfrau, barddoniaeth, unrhyw beth a dwi ddim yn gallu darllen dim rhagor. Dwi'n gorfod defnyddio sbienddrycvh gref i fynd yn araf deg ar hyd llinell.
"Mae e'n lladdfa [ond] fedrwch chi wneud dim byd amdano fe ac felly dwi'n gwrnado mwy nawr ar lyfre - ar dapiau - a dwi'n cael Margaret [ei wraig] i ddarllen ambell i erthygl imi o bapurau newydd," meddai.
"A'r broblem fwy yw nad ych chi'n gallu gwneud pethau. Dwi ddim yn gallu gwneud y pethau oeddwn i'n gallu wneud yn yr ardd ar y cyflymdra oeddwn i'n arfer wneud ond rwy'n trio ngorau peidio 芒 gadael iddo gael fi lawr er byddai'n cael ambell i foment ddu a gwylltio da fi'n hunan," meddai.
Dywedodd mai gwaith trosleisio mae'n ei gael yn bennaf ar hyn o bryd gyda'r sgriptiau mewn teip bras.
Gyda'r hyn a ddisgrifiodd fel "cof rhyfeddol" i eiriau mae'n eu dysgu'n sydyn cyn mynd i stiwdio i berfformio.
. "Ond pe byddwn i'n cael cynnig drama lwyfan fe fyddai'n rhaid imi feddwl o ddifri allwn i gerdded o un ochr i'r llwyfan heb gwympo dros y ford neu beth bynnag sy na," meddai.
Ysgwyd ei gred
Yn un o s锚r amlycaf Pobol y Cwm ar un adeg bu Huw Ceredig yn s么n wrth Dewi Llwyd hefyd sut y mae'n treulio ei ddyddiau Sul a sut y siglwyd ei gred.
"Dwi ddim yn mynd i'r capel. Mae'r wraig yn mynd i'r capel a mae'r wyrion yn mynd i'r Ysgol Sul a dwi'n falch iawn o hynny ond rhyw gweryla wnes i efo crefydd flynyddoedd yn 么l - sawl digwyddiad, fel colli plentyn a gweld yn ddu," meddai.
Ond ychwanegodd; "Dwi'n ystyried fy hun yn ddyn crefyddol . Dwi'n dweud fy mhader bob nos - dwi ddim yn si诺r at bwy - ac fe af i'r capel ond, yn rhyfedd iawn, mi ai i'r capel os dwi bant yn rhywle."
Dywedodd iddo fod yn trafod y pethau hyn gyda'i dad a oedd yn weinidog:
"Y drafodaeth fwyaf ges i da fe oedd pan gollais i'r plentyn. Hynny yw, mae dyn yn mynd trwy rhyw emosiynau sydd, mae'n si诺r, yn newid agwedd meddwl person - at Dduw, o bosibl - hynny yw, at y creawdwr ffeind, neis ma sy'n caniat谩u i bethau fel'na ddigwydd i bobl ac fe ges i sgwrs hir da fe sut gallai unrhyw un adael i hyn ddigwydd," meddai.
Hiraeth am Reg?
Wrth s么n am Reg Harris a chwaraeodd am 29 mlynedd ar Pobol y Cwm dywedodd nad oes ganddo hiraeth ar ei 么l.
"Ond allai mo'i anwybyddu," meddai gan ychwanegu ei fod yn siomedig na allai fod wedi cwblhau 30 mlynedd yn chwarae'r rhan a chyhuddodd berson arbennig nad oedd yn hoff ohono am rwystro hynny.
Bu'n s么n hefyd am ei ddiddordeb mewn chwaraeon ond ei fod wedi pwdu at rygbi oherwydd ei fod yn credu bod yn ffordd y mae'n cael ei redeg yng Nghymru yn "hollol, hollol, anghywir".
"A dwi'n rhagweld amser ymhen wyth, deg, mlynedd y byddwn ni'n crafu i gael t卯m cenedlaethol at ei gilydd oherwydd dyw'r strwythur ddim yna i ddod a phobl ifainc drwyddo," meddai.
Bu'n siarad hefyd am ei ymweliadau ag Old Trafford ac am fagu ceffylau rasio.
Plesio a gwylltio
Ynglyn 芒'r pethau sy'n ei blesio a'i wylltio am y Gymru gyfoes cyfeiriodd at y twf mewn addysg Gymraeg a'r siom a achosa "cyndynrwydd a styfnigrwydd pwyllgorau addysg i beidio cydnabod hyd yn oed yn 2010 bod y galw am addysg Gymraeg gymaint yn fwy na'r galw am addysg drwy gyfrwng y Saesneg."
"Mae'r ysgolion Cymraeg yn byrstio a wnan nhw ddim mynd o'u ffordd i adeiladu rhai newydd neu gau rhai o'r ysgolion hanner gwag Saesneg," meddai.