Ei holi ar 'Stiwdio' gan Kate Crockett
Mae'r actor o Gymru, Julian Lewis Jones, wedi derbyn cryn ganomliaeth yn dilyn ei ymddangosiad yn y ffilm Invictus 2010.
Ar y rhaglen Stiwdio ar 成人论坛 Radio Cymru, nos Iau Chwefror 4, 2010, bu'n s么n wrth Kate Crockett am y ffilm a sut cafodd ran capten y gwarchodwyr gwynion sy'n cydweithio 芒'r gwarchodwyr duon i edrych ar 么l Mandela..
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
N么l yn Nhachwedd 2008 ar adeg pan oedd yn ffilmio ar gyfer cyfres S4C, Caerdydd, a dwy bennod o'r Bill y derbyniodd wahoddiad i glyweliad.
O d欧 tamp ym Mhenarth
"Mi roeddwn i'n ffilmio yn y t欧 eithaf tamp ma ym Mhenarth pan gefais i alwad yn dweud fod gynnai gyfweliad i ffilm newydd Clint Eastwood a'i bod yn rhan Dde Affrig ac y buasai raid imi wneud yr acen a gweithio'n eithaf caled i gael hynna'n iawn ac os baswn i'n cael y rhan bod y ffilmio draw yn Ne Affrica yn y gwanwyn," meddai.
"Felly, fe es i ffwrdd a gweithio ar yr acen ac mi gefais i'r clyweliad ma ac mi aeth hi'n dda a tri mis wedyn, wythnos gyntaf mis Chwefror, ges i alwad yn dweud mod i ar y rhestr fer a pum diwrnod wedyn ces i wybod bod yr hen Clint Eastwood wedi mhigo i. Roeddwn i'n hapus iawn," ychwanegodd.
Gyda Morgan Freeman
Bu'n s么n hefyd am weithio gyda Morgan Freeman.
"Yn ddyn tal iawn. Mi ges i dipyn o sioc. Mae'n dalach na Clint Eastwood a minnau. Roedd lot fawr ar ei 'sgwydda fo i chwarae rhan Mandela. Lot fawr o bwysau ond mae o'n gwneud job wych ac yn wir ar 么l pum munud ti'n anghofio mai Morgan Freeman ydi o; ti rili yn credu dy fod ti'n gwatsiad Nelson Mandela. Mae'n anhygoel," meddai.
Matt Damon
Am Matt Damon dywedodd iddo ddatgelu mai'r unig a wyddai am rygbi oedd trwy fachgen yn rhannu stafell ag ef yn y coleg yn dod n么l a'i drwyn wedi torri ac yn mynd allan am beintyn wedyn!
"Ond nath o daflu'i hun i mewn i'r rhan ac wedi gwneud yr ymarfer a'r hyfforddi efo Chester Williams cyn asgellwr De Affrica," meddai.
"Mae o'n actor sydd jyst yn gweithio'n galed iawn. Mae o'n hen foi iawn. Y math o foi y cei di beint efo fo nos Sul. Ac er yn un o s锚r mwyaf y byd mor down to earth."
Caerfyrddin
Fel actor dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi rhannu ei fywyd rhwng premier gyda Clint Eastwood a bywyd yng Nghaerfyrddin lle mae'n awr yn byw:
"Faswn i'n methu byw yn y byd yna trwy'r amser. Mae'n neis d诺ad adref ond mae cael yr enw Clint Eastwood ar dy CV . . ."