Hunangofiant athro a meistr cerdd dant
Adolygiad Elin Angharad o Pwyso ar y Gi芒t gan Aled Lloyd Davies. Gwasg y Bwthyn. 拢7.99.
Byddaf yn mwynhau darllen cofiannau a hunangofiannau - yr elfen fusneslyd yndda i mae'n si诺r. Mae'n brafiach fyth darllen cyfrol pan fo rhywun yn meddwl ei fod yn adnabod yr awdur neu'r gwrthrych.
Y teimlad hwnnw o chwilfrydedd oedd gen i wrth edrych ymlaen at gael darllen Pwyso ar y Gi芒t gan Aled Lloyd Davies.
. Mae'r awdur yn un sydd wedi chwarae rhan allweddol dros y blynyddoedd nid yn unig ym mywyd Cymraeg Yr Wyddgrug ond hefyd ym mywyd diwylliannol Cymru gyfan.
Petai gofyn imi ei ddisgrifio i chi, byddwn yn meddwl amdano fel blaenor, codwr canu ac aelod ffyddlon yng Nghapel Bethesda Yr Wyddgrug; cyn brifathro Ysgol Maes Garmon; Eisteddfodwr; dyn cerdd dant; awdur caneuon a sioeau cerdd.
Dyn diwylliedig.
A braf oedd darllen y gyfrol a chael cipolwg ar yr hyn a fu'n ddylanwad arno a chipolwg ar y meysydd y bu'n ymwneud 芒 hwy.
Mae Pwyso ar y Gi芒t yn ategu yr hyn yr oeddwn yn ei wybod eisoes; fod ei fywyd yn un llawn a phrysur tu hwnt a bod y teulu yn bwysig iawn iddo.
A does dim syndod fod ganddo ddiddordeb yn 'Y Pethe' o ddod i wybod am ei achau.
Yr hyn sy'n bwysig
Yn ei ffordd ei hun mae'n adrodd straeon a hanesion a digwyddiadau dros y blynyddoedd sydd wedi creu argraff arno.
Er ei fod yn cychwyn y gyfrol gyda hanes ei deulu - a difyr oedd darllen y penodau hynny a chael cipolwg ar pwy di pwy yn hanes y Llwydiaid a'r Dafisiaid - mae'n mynd drwy ei fywyd yn gronolegol, ond nid yn llafurus flwyddyn wrth flwyddyn.
Mae'r gyfrol wedi ei rhannu'n benodau penodol am yr hyn sy'n bwysig iddo. O fyd yr eisteddfodau i fyd addysg, ei gyfnod yn ystod y rhyfel a chyfnod Meibion Menlli a'r sioeau cerdd.
Ond mae darllen ei atgofion yn rhoi mwy inni na golwg ar fywyd un dyn. Mae'n gofnod o hanes cyfnod, hanes bro a hanes diwylliant. Mae'n wers am hanes cerdd dant a sut i fynd ati i osod darn - gan gofio bod gan yr awdur ddoethuriaeth yn y maes.
Cawn hanes cymdeithasol a hanes Bro Edeirnion heb s么n am y cyfle i ddarllen peth o ganeuon a cherddi'r awdur ei hun.
Efallai yr hoffwn fod wedi cael gwybod mwy am rai pethau megis ei waith a'r cyfnod yn ystod y rhyfel a dwi'n si诺r y byddai ganddo lawer mwy i'w ddweud am dref Yr Hen Ddaniel a'r bywyd Cymraeg yn Yr Wyddgrug heb s么n am goridorau'r ysgol.
Mae ei atgofion, serch hynny, o ddysgu ym Mhenbedw yn ddifyr iawn.
Amrywiaeth o hanesion
Drwy'r straeon a thrwy'r atgofion cawn gipolwg y tu 么l i'r dyn cyhoeddus sy'n manteisio ar y cyfle yn awr ac yn y man i fynd ar ei focs sebon, am gerdd dant a'r eisteddfodau lleol. Materion sy'n agos at ei galon.
Oes, mae yma amrywiaeth o hanesion ac atgofion difyr iawn. Dychmygwch yr awdur yn beicio'r holl ffordd adref o dde Lloegr gyda ffrindiau er mwyn bod mewn pryd i gael ei ganlyniadau arholiad Lefel A!
Neu'n arwain ac yn beirniadu yn Eisteddfod y ffagots; yn cael ystlym fel aelod o gynulleidfa!
A doeddwn i ddim, hyd yn oed fel cyn ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon, yn ymwybodol bod y Prif Weinidog Margaret Thatcher wedi ymweld 芒'r ysgol. Mae rhywun yn dysgu rhywbeth bob dydd!!
Dyma gyfrol sy'n llawn atgofion melys, neu fel y dywed yr awdur ar y diwedd "atgofion hapus a llawen" ac addas iawn yw'r teitl sy'n adlewyrchiad o awdur yn cael hamdden a seibiant i edrych yn 么l dros ei fywyd.
Megis cyffwrdd
Efallai nad yw'r cyfnod diweddar o fyw yn Yr Wyddgrug, magu'r plant a'i gyfraniad i Gapel Bethesda yn amlwg yn y gyfrol, rhyw gyffwrdd 芒 hwynt y mae ac 芒'r bywyd Cymraeg mewn tref ar y ffin a'r gwaith diweddar o arwain t卯m i gynnal y Brifwyl yno ond mae'n gyfrol llawn darluniau sy'n creu jig-so a llinynnau llinach y Llwydiaid a'r Dafisiaid hyd at ei blant a'i wyrion.
Ie, trwy gofnodi bywyd y dyn mae'n cofnodi hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn ogystal.