22 Awst 2011
Adolygiad o Bron Haul - Y Tyddyn ar y Mynydd / The Croft on the Moors gan Catherine Owen, Lloyd Jones a'r Dr Eurwyn Wiliam. Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.50.
Cawn olwg ar yr un lle o dri gwahanol safbwynt yn y gyfrol ddwyieithog hon.
Yr olwg hunangofiannol draddodiadol Gymraeg gan Catherine Owen, atgofion mwy ysgytwol, a brawychus yn eu ffordd, y nofelydd Lloyd Jones ac yn olaf y safbwynt hanesyddol ysgolheigaidd gan y Dr Eurwyn Wiliam awdur y gyfrol Y Bwthyn Cymreig ac arbenigwr cydnabyddedig yn ei faes.
Byr yw'r cyfraniadau oll a'r gyfrol - er yn ddwyieithog ac o'r herwydd yn ddwbl ei maint go iawn - ond yn 152 o ddalennau.
pam mae hi'n ddwyieithog ac nid yn ddwy gyfrol ar wah芒n dydw i ddim yn si诺r - yn union fel nad yw rhywun yn si诺r gyda'r rhan fwyaf o gyfrolau o'r fath.
Ta waeth am hynny, mae cwestiwn arall yn codi yma yngl欧n 芒'r dwyieithrwydd. Er bod yr hanner Saesneg yn gyfangwbl Saesneg dyw'r hanner Cymraeg ddim a phan yn dyfynnu o ffynhonnell Saesneg cynhwysir y dyfyniad yn Saesneg yn hytrach na'i gyfieithu i'r Gymraeg.
Mae sawl achos o hyn yng nghyfraniad y Dr Wiliam - nid ymhell o chwe dalen Saesneg mewn cyfraniad o 22 dalen.
Dyw e ddim yn gwneud dim sens pan yw'r ffynonellau Cymraeg yn cael eu cyfieithu ar gyfer y fersiwn Saesneg.
Annifyrrwch ydi hyn, wrth gwrs, yn hytrach na rhyw ddiffyg mawr - ond annifyrrwch serch hynny.
Ar y mynydd
Tyddyn diarffordd ar gorsdir anial uwchlaw Gwytherin ar Fynydd Hiraethog ydi Bron Haul ac yno ar ddydd Nadolig 1900 y ganwyd Catherine Griffiths awdur y cyfraniad cyntaf i'r llyfr wedi ei sbarduno gan yr hen gyfres radio honno, Y Llwybrau Gynt i gofnodi ei hatgofion hithau.
Cyfres o nodiadau byrion yw'r cyfraniad a than wahanol benawdau yn darlunio yn ddifyr ac yn ddiffwdan le a chyfnod yn hanes Cymru.
"Bwriedir i Bron Haul, y Tyddyn ar y Mynydd fod yn deyrnged i ddarn hollol gyffredin o dir corslyd yn ucheldiroedd Cymru. Er nad chafodd Brion Haul le yn ein llyfrau hanes, mae stori'r tyddyn bychan hwn yn adlewyrchiad o frwydr ein cyndeidiau i gynnal a gofalu am eu teuluoedd yn wyneb caledi ac amgylchiadau anodd a dweud y lleiaf," meddir mewn cyflwyniad i'r gyfrol gan rywun nas henwir.
Fel y dywedir yn aml mewn achosion o'r fath crynhoad sydd yma o hanes cymdeithasol eangach a ninnau wrth ganolbwyntio ar y lleol yn dod i werthfawrogi'r eang.
Ac y mae atgofion Catherine Owen am fywyd teulu o 13 o blant gyda'i gymysgedd o galedi a diwylliant ac o arwedd a thynerwch yn gwneud hynny i'r dim.
Profiad gwahanol
Yng nghyfraniad Lloyd Jones yr ydym yn camu i fyd tywyllach mewn cyfnod diweddarach. Byd bachgen a adawyd yng ngofal tad alcoholig pan chwalodd priodas ei rieni.
Mae'n ddarlun ysgytwol ac yn un, fyddwn i'n tybio, y byddai sawl sgwennwr Cymraeg yn amharod siarad mor agored amdano. Yn fywyd y byddai ein seice yn fwy tueddol o'i frwsio dan garped. Y mae i'w edmygu am rannu ei brofiadau 芒 ni.
Mae ei gyfraniad hefyd yn fwy 'llenyddol' - yn yr ystyr orau - ei arddull nag un Catherine Owen gyda rhai disgrifiadau telynegol eu naws ymhlith y gerwinder.
Ac o ddod drwy'r cyfan - profi'r un clefyd 芒'i dad a'i drechu hefyd - daw i'r casgliad ar ddiwedd ei gyfraniad
"Onid oeddwn i'n lwcus fy mod wedi fy ngeni yng Nghymru yn y 1950au ac wedi profi cymaint o ryddid, a harddwch, ac wedi blasu profiadau mor rhyfeddol.
"Y profiadau hynny ddaru fy ffurfio i; ddaru fy siapio i fel Lloyd Jones: cyw digon od, ond cyw y medra i fyw efo fo r诺an yn reit hapus o ddydd i ddydd," meddai.
Ein braint ni yw cael ymuno ag ef ar y llwybr caregog arweiniodd at y cyflwr boddhaus hwnnw.
Glyn Evans