- Adolygiad Gwyn Griffiths o Canu Caeth- - Y Cymry a'r Affro-Americaniaid. Golygydd Daniel G Williams. Gwasg Gomer. 拢9.99
Rywbryd, dipyn dros 30 mlynedd yn 么l, cyfarf没m 芒 Derek Walcott, enillydd, maes o law, Gwobr Nobel am Lenyddiaeth.
Darllenais rai o'i weithiau cynnar a rhyfeddu fel y gallai ddathlu cymysgaeth ddiwylliannol ei ynys enedigol, St Lucia. Diwylliant gyda'i etifeddiaeth Amerindaidd, Affricanaidd ac Ewropeaidd - Sbaeneg, Ffrangeg a Saesneg.
Mae gen i gof amdano'n dweud rhywbeth i'r perwyl fod rhaid iddo anghofio hanes a chychwyn o'r foment hon.
I mi, y Cymro, yr oedd y syniad yn ysgytwol. Gwyn fyd na fedrwn ninnau, yn ein caethiwed i'r gorffennol, deimlo'r un fath. Neu felly y meddyliais ar y pryd.
Anghofiais fy niddordeb yn Walcott nes gweld y gyfrol Canu Caeth - y Cymry a'r Affro-Americaniaid a olygwyd gan Daniel G. Williams.
Mae Dr Williams yn ei Gyflwyniad yn trafod llawer ar bwnc benthyg a chroes ffrwythloni diwylliannau gan gychwyn gyda dyfyniad o gerdd Gwenallt sy'n gresynu at y dyn gwyn yn troi yn ei anniwylliant at gerddoriaeth y dyn du.
Yna, mae'n dyfynnu o ap锚l Paul Robeson ar i'r dyn du ymatal rhag dynwared y gwyn. Tra yr ymlafniai'r dyn du gyda Beethoven a Brahms, yr oedd Stravinsky'n cymryd ei ysbrydoliaeth o alawon y Negro.
Tyndra
Ceir tyndra o fewn y gymdeithas Affro-Americanaidd. Dadl Frederick Douglass, a frwydrai am gydraddoldeb cymdeithasol i'r Affro-Americaniaid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd fod yn rhaid cymhathu hil a diwylliant. Dadleuai fod y Cymry a'r Albanwyr wedi eu dal yn 么l drwy gadw purdeb eu hil!
Credai eraill, fel Martin Delany, mewn cenedlaetholdeb diwylliannol, fod rhaid ymfudo os am barhad eu diwylliant a'u tras unigryw. Yr un fath a Michael D. Jones.
Yn ddiddorol, gwyddai Douglass yn dda am Gymry'r Unol Daleithiau ac am gefnogaeth rhai cyhoeddiadau Cymraeg i'r frwydr i ddiddymu caethwasiaeth.
Ffaith a'm synnodd oedd bod cynifer o lenorion du America yn deall sefyllfa'r Cymry. Ralph Ellison, a ddefnyddiodd ei brofiadau pan oedd yn Abertawe gyda'r llynges fasnach.
A James Baldwin wedyn a oedd yn gyfarwydd a The Corn is Green Emlyn Williams.
Dysgodd y Cymry o ddiwylliant a dulliau'r Affro-Americaniaid - dylanwad "black power" ar Gymdeithas yr Iaith fel y nodir gan sawl un a gyfrannodd i'r gyfrol.
A dylanwad llenorion duon. Nodaf yn arbennig bennod Helen Mary Jones am ddylanwad Alice Walker arni hi a ffeministiaid eraill.
Caethwas ar ffo
O blith y penodau a roddodd y mwynhad mwyaf i mi rhaid enwi Caethwas Ffo毛dig yng Nghaerdydd gan Bill Jones a David Wyatt - stori ryfeddol llyfryn a gyhoeddwyd yng Nghaerdydd gyda'r teitl, Slavery in the United States of America: Personal Narrative of the Sufferings and Escape of William A Hall fugitive slave,now a resident in the town of Cardiff.
Argraffwyd y gyfrol gan James Wood, Stryd Bute, gyda chefnogaeth Wesleaid Saesneg Caerdydd.
Dadansoddir cynnwys y llyfryn gan fwrw goleuni diddorol am gaethwasiaeth tra'n ceisio darganfod pwy oedd William Anderson Hall a beth ddigwyddodd iddo wedyn.
Pennod arall ddiddorol a thu hwnt o ddifyr yw eiddo Jerry Hunter, Ymestyn Ffiniau'r 'Bau Gyhoeddus' Ddiddymol; hanes Robert Everett, Oneida, Efrog Newydd, sefydlwr a golygydd Y Cenhadwr Americanaidd, ac un a ymgyrchodd dros ddeugain mlynedd yn erbyn caethwasiaeth.
Paul Robeson
Ceir cryn drafod ar ddylanwad a phwysigrwydd Paul Robeson yn y gyfrol. Mae pennod Hywel Francis ar gysylltiad Robeson 芒 glowyr Cymru, cysylltiad a gychwynnodd ym 1929 ar Sgw芒r Trafalgar adeg un o orymdeithiau'r di-waith.
Nodir iddo ganu mewn cyngerdd yn Aberpennar ym 1938 i gofio'r Cymry a laddwyd yn Sbaen. (Cofiaf Lance Rogers yn s么n wrthyf iddo gyfarfod Robeson yn Rhyfel Sbaen ac iddynt gysgu ochr yn ochr dan y s锚r.)
Y mae'r hanes amdano'n canu i lawr y teliffon i gynulleidfa Eisteddfod y Glowyr, 1957, ym Mhorthcawl, yn rhan o'n chwedloniaeth fel Cymry. Ac yn canu'n Eisteddfod Glynebwy 1959 wedi cael ei basport yn 么l a chael yr hawl i deithio eto.
Yn naturiol, ceir yma lawer o drafod ar y ffilm Proud Valley (1939). Ynddi, am yr unig dro, cafodd Robeson gyfle i ddarlunio dyn du oedd fwy neu lai'n gyfartal 芒'r dyn gwyn a chyfle i ddyrchafu cymuned y glowyr Cymreig a edmygai gymaint, meddai Gwenno Ffrancon.
Noda Daniel Williams yn ei bennod Tu 脭l i'r Llen fod Cymru, tra'n dyrchafu rhyng genedlaetholdeb Robeson, wedi anwybyddu ei genedlaetholdeb.
Cyfeiria hefyd at gymhlethdod agwedd Robeson at yr Undeb Sofietaidd a'i ddiddordeb yng nghenhedloedd Asiaidd y wlad.
Anodd derbyn
Dylswn gyfeirio at ddwy bennod arall o'r gyfrol. Un ddiddorol gan E Wyn James ar Morgan John Rhys a Chaethwasiaeth Americanaidd.
Er fy mod yn ei chael yn anodd derbyn ei osodiad na fuasai Cymru Radicalaidd 1868 wedi digwydd oni bai am yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth a daniwyd gan Morgan John Rhys dros 70 mlynedd cyn hynny.
Ceir clamp o ddadansoddiad o weithiau Gwyn Thomas, y bardd Cymraeg amlycaf ei ymateb i'r diwylliant Affro-Americanaidd gan Simon Brooks. Y gerdd a ddadansoddir ganddo yw Du Gwyn (1946), am fachgen du mewn cymuned Gymraeg yn y gogledd yn y cyfnod wedi'r rhyfel.
Y cyfan fedraf ddweud amdani, fel un a fagodd ddau o blant rhannol o dras Affro-Americanaidd yw diolch nad wyf yn fardd nac yn debyg o sgrifennu cerdd am y profiad.
Felly ni chaiff y Dr Brooks na'r un beirniad llenyddol y pleser o ddadansoddi fy agweddau i gyda'r fath drylwyredd.
Efallai mai Derek Walcott oedd yn iawn. Rhown y gorau i'r dadansoddi, anghofiwn hanes - a byw. Fawr o siawns o hynny, 'chwaith. Dadansoddi yw gwaith ysgolheigion. Gwyn Griffiths
Cynnwys y gyfrol
- Cyflwyniad: Daniel G. Williams
- E. Wyn James, 'Morgan John Rhys a Chaethwasanaeth Americanaidd'
- Jerry Hunter, 'Heddychiaeth Gymreig a Diddymiaeth Filwriaethus: Robert Everett'
- Bill Jones a David Wyatt, 'Caethwas ffoedig yng Nghaerdydd: Hanes Williams A. Hall a Diddymiaeth Gymreig 1861-65'.
- Hywel Francis a Daniel G. Williams, 'Paul Robeson: Cymru, Cenedlaetholdeb a'r Rhyfel Oer'
- Gwenno Ffrancon, 'Affro-Americaniaid a'r Cymry ar y Sgrin Fawr'.
- Simon Brooks, ''Caradog Wyn' Gwyn Thomas; Cymro Cymraeg 'du gwyn' ym Mlaenau Ffestiniog.'
- Harri Pritchard Jones, Cyfieithu Ann Petry
- Menna Elfyn, O Soledad i Harlem
- Gareth Miles, Cas谩u Shakespeare o'r Sedd Fawr
- Helen Mary Jones, Ffeminyddiaeth, Cenedlaetholdeb ac Alice Walker
- Owen Martell, Jazz a'r Awdur Cymraeg
Y golygydd
Mae'r Dr Daniel G. Williams yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe.
Mae'n darlithio ar gyrsiau is-raddedig ac 么l-raddedig ym meysydd llenyddiaeth Gymraeg, Gwyddelig ac Affro-Americanaidd. Ef yw Cyfarwyddwr CREW (Centre for Research into the English Literature and Language of Wales). Enillodd ei gyfrol Ethnicity and Cultural Authority: From Matthew Arnold to W. E. B. Du Bois (Edinburgh University Press, 2006), wobr Llyfr y Flwyddyn gan y Times Literary Supplement ac fe'i henwebwyd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yr Academi Gymreig yn 2007.