Bu mynd mawr ar lyfrau "bwrdd coffi" ac yn arbennig felly yr adeg hon o'r flwyddyn wrth i bobol feddwl am anrhegion ar gyfer y Nadolig.
Mae'r gyfrol ddifyr hon yn gyfuniad o bethau. Oes mae yma elfennau o'r llyfr bwrdd coffi ond mae hefyd yn gyfrol swmpus o ran gwybodaeth ar gyfer y rhai sydd am wybod mwy am hanes pensaern茂ol Cymru.
Mae hefyd luniau i ddangos cyfoeth yr hanes hwnnw.
Ar un ystyr, nid cyfrol wreiddiol mohoni gan y dywed broliant y clawr cefn ei bod yn "seiliedig" ar waith gafodd ei gyhoeddi yn Saesneg n么l yn 1975.
Mae ynghlwm hefyd a chyfres S4C: Cartefi Cymru.
Teg gofyn, felly, ai cawl eildwym yw hwn ond wedi darllen drwyddi nifer o weithiau fe'm argyhoeddwyd bod llawer o'r gyfrol yn ffres a newydd.
Mae yna fapiau gafodd eu cynhyrchu ar gyfer y gyfres deledu ac, yn bwysicach na hynny, mae'r gyfrol yn cynnig dehongliadau newydd gan ddileu'r camsyniad sydd gan lawer fod hanes yn rhywbeth statig, digyfnewid. Mae dehongli a dadansoddi yn rhan annatod o grefft yr hanesydd.
A dyna un o gryfderau'r gyfrol.
Mae'r awduron ill dau yn haneswyr proffesiynol; Greg Stevenson yn hanesydd pensaern茂ol a Richard Suggett yn Ymchwilydd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Beth, felly, am gynnwys y gyfrol? Yr hyn a gawn yw arolwg o ddatblygiad tai Cymru gan gychwyn yn y Canol Oesoedd gan gyfuno crandrwydd lle fel Plas-ucha yn Sir Feirionnydd a thai mwy cyffredin megis hwnnw yn Hem Uchaf yn Forden, Sir Drefaldwyn.
Tai fferm a thai hir, tai godwyd wedir chwalfa'r abatai a'r mynachlogydd. Mae'n rhyfeddod bod y fath amrywiaeth ar gael yng Nghymru.
Un nodyn llai positif. Oes, mae cyfoeth o wybodaeth ac o luniau yn y gyfrol hon am blasdai, ffermdai ac anedddau y Gymru Wledig - ac i fod yn deg, dyna ei theitl 'Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru - bydd yn werth disgwyl felly am y gyfres deledu a chyfrol yn cyflwyno icartefi y Gymru ddiwidiannol i gwblhau y darlun.
John Stevenson