14 Tachwedd 2011
Adolygiad Janice Jones o Cerddi Bob Lliw gan Olwen Canter. Y Lolfa. tt. 155. 拢6.95
Cerddi Bob Lliw yw cyfrol gyntaf Olwen Canter o farddoniaeth.
Dywed y bardd, sy'n enedigol o Ynys M么n ond sydd bellach yn byw yn Wrecsam, mai mynychu dosbarthiadau Gwynne Williams am farddoniaeth Cymru a'i hysbrydolodd i ddechrau ysgrifennu barddoniaeth ei hun.
Mae diwyg deniadol i'r llyfr, er mai di-dda, di-ddrwg ydi cynllun y clawr ac mae'r gyfrol yn cynnwys dros 100 o gerddi yn y mesurau rhydd a phenrhydd, wedi eu rhannu'n saith adran gyda theitlau megis Pobl a Natur.
Mae'r adran gyntaf ,Pobl, yn cynnwys cerddi megis Y Clwb Nos, Y Ferch Fodern, ac Y Llanc Modern ond gwaetha'r modd, mae nifer o'r cerddi hyn yn ddigon cyffredin eu syniadaeth.
Serch hynny, mae'r gerdd Mam a'i Baban yn un swynol a diffuant ym mhatrwm yr hen benillion:
Bob wythnos fel pythefnos
Ond diwedd ddaeth i'r aros,
Does debyg iti dan y s锚r,
Caf bleser wrth dy ddangos.
Mae'r gerdd Cof yn yr adran hon yn cynnig golwg newydd ar drefn bywyd, a'r gerdd Genynnau yn dwyn i gof athroniaeth T.H. Parry-Williams ac yn wir, Rousseau, fel y'i gwelir yn y llinellau clo wrth drafod: "y rhyddid ffug/ sy'n gaeth/ yng ngwe dy enynnau."
Teimladwy yw'r gerdd Hwylio Te gyda merch yn dod i hwylio te i'w mam oedrannus, yn hytrach na bod y fam yn hwylio te i'r ferch fel ag y bu.
Cerddi'r Misoedd yw'r drydedd adran, gyda'r adran hon, yn anorfod, yn dwyn cymhariaeth 芒 Thelynegion y Misoedd Eifion Wyn. Mae'r cerddi hyn yn amlygu ymdeimlad y bardd tuag at fyd natur a'r holl liwiau sydd i'w canfod ynddo. yw'r gerdd i fis Awst, ac mae'r bardd yn disgrifio ysbryd y mis:
Mis y gwyliau
a phawb ar eu ffordd
o drobwll eu byw
i'r man delfrydol.
Eto yn adran pedwar, sef Natur, cawn gerddi amrywiol megis Llwyn Rhododendron, Yr Heffer Lwyd a Storm.
Yn sicr, mae'r cerddi hyn hefyd yn fynegiant o'r pleser a'r ysbrydoliaeth mae'r bardd yn eu darganfod ym myd natur, ond anodd yw canfod fawr sydd yn ffres ac yn newydd yma.
Carolau ac ati yw cynnwys pumed adran y gyfrol ac yn yr adran hon ceir sawl cerdd sydd yn ymdrin ag agweddau annymunol ar y Nadolig.
Yn y gerdd Yr Archfarchnad, er enghraifft, disgrifir ein gwanc a'n gwastraff:
Trannoeth y dathlu,
saif y biniau
yn feichiog o sborion y drin.
Carol gyfoes ond oesol yw Heno a cherdd dreiddgar a gogleisiol yw Y Bocs 'Sgidiau.
Amrywiol yw adran chwech, ac ynddi ceir cerdd am Anghenfil yr Wylfa, yn ogystal 芒 cherddi sy'n cofnodi digwyddiadau personol o bob math megis Haddon Hall a Pen-blwydd yn Sbaen.
Cerddi Hir sydd yn cloi'r gyfrol, gan gynnwys y gerdd Gerddi, a luniwyd er cof am David Williams, nai y bardd, a laddwyd ar y Sir Galahad, un o "feibion mud/ yr enwau aur."
Naws hiraethus sydd i'r gyfrol: hiraeth am blentyndod, am fyd ac am fywyd a oedd, yn ymddangosiadol o leiaf, yn well ac yn symlach na'r byd heddiw. A breuder bywyd a difaterwch pobl, ynghyd 芒 pharhad a gogoniant byd natur yw prif themau'r gwaith.
Mae'r iaith yn hygyrch a gl芒n ond mae'r dull a ddefnyddir o osod nifer fawr o'r cerddi ar y dudalen gyda dechrau'r llinellau'n symud ar draws y dalen yn tueddu at fod yn syrffedus.
Er mai cyfrol anwastad ydi hon, gyda nifer o'r cerddi'n dilyn hen rigolau cyfarwydd yn nhermau mynegiant a gweledigaeth mae rhai cerddi yn sicr yn amlygu fflachiadau o ddyfeisgarwch, ac yn dangos bod y bardd yn berchen ar ei llais unigryw ei hun.
Janice Jones.