A minnau wedi fy magu ym Machynlleth ac yn adnabod y golygydd a'i bwnc yn dda, fe edrychais ymlaen at ddarllen y gyfrol hon - ac ni'm siomwyd ynddi, ychwaith, ar wah芒n i f芒n gwenc neu ddwy; a gwell trafod y rheini gyntaf, am wn i.
Y pennaf gwenc yw fod yn y gyfrol ambell erthygl hollol sownd a gymerai ei lle yn iawn yn Y Bywgraffiadur neu yn y Montgomeryshire Worthies.
Hynny yw, dyma erthyglau difyr am bobl ddifrifol nad ydynt o reidrwydd yn gym锚rs yn ein hystyr ni o'r gair.
Fe roddwn i yr erthyglau ar Pryce Pryce Jones a Demetrius Owen a Dafydd Wyn Jones yn y categori hwn.
Straeon a ddisgwyliwn
Ond y g诺yn waethaf, coelio, yw na welais straeon y disgywliwn eu gweld.
Beth am fabinogi cymeriadau megis Wil Bwtsiar ac Emyr Annwyl? A dyma ichi ddau hanesyn i brofi y pwynt:
Aeth Wil Bwtsiar a'i gyfaill mynwesol nad oes raid imi ei enwi i bobl Machynlleth, i Lundain ar sgawt. A dyna lle roedd y ddau yn eistedd yn sgw芒r Trafalgar yn edrych ar y merched yn pasio.
Gwelai'r cyfaill ogoniannau ond digon ffwrbwt oedd Wil a phan ofynnwyd iddo ei farn am un nodedig o esgyrnog, ei ymateb oedd, "De i'm byd, weles i fwy o gig ar fy mrat yn bore!"
Mae sawl stori am Emyr haeddai eu lle ond fy hoff un i yw'r un amdano yn cyfarfod y Puwiaid - chwech neu saith o frodyr yn Narowen ac aelodau o deulu a haedda lyfr iddo ei hun.
Rhyw fore Calan roedd y brodyr yn disgwyl y c诺n hela ond fe'u perswadiwyd gan Emyr mai mewn cyfeiriad arall yr oedd yr helfa - ac unig bleser Emyr oedd eu gweld yn symud gan wybod nad oedd angen hynny!
Gwn wrth y gwely
A dyna hanes William John gyda'r gwn wedyn. Yn 么l a glywais i, ac fe'i clywais o le da, yr oedd WJ yn poeni cymaint am wningod yn anrheithio ei letys yn blygeiniol fel iddo fynd 芒gwn i'r llofft ryw noson gan fwriadu rhoi cetrisen neu ddwy yn rhybudd yn y bore - sobr o beth iddo anghofio agor y ffenestr gyntaf . . .
A beth am y stori - ac mae hi yn County Times y cyfnod - pan adawodd G S Hughes i'w wraig yrru lori ddiffygiol adref am y tybiai y byddai hi yn derbyn llai o gosb pes delid hi?
Yr hyn a ddigwyddodd yn y diwedd oedd iddi hi gael ffein ond i'r g诺r gael pryd o dafod gan gadeirydd y fainc!
Ond chwarae teg i Hedd. Un gyfrol oedd ganddo nid 'enseiclopedia' a'r drwg efo straeon am gymeriadau yw eu bod yn medru bod mor ffans茂ol nes ymdebygu i gelwydd golau a hanfod cym锚r yw bod ei weithredoedd a'i ddywediadau yn hollol eithriadol i norm ei gymdeithas ond eto yn gwbl gredadwy.
Enghreifftiau eithriadol o'r hyn sydd yn normal i'r gymdeithas ydynt, pobl gyda'r X factor sydd yn ein difyrru ac, ar dro, yn dangos gwendidau eu pobl hefyd.
Dyna wna WJ wrth ddweud ar dudalen 102 fod t欧 yn lle da i fwyta cig gwyn - mae yna gic fwriadol at ddiffyg lletygarwch perchennog y t欧!
Mae'n gyfrol dda a'm gobaith i yw y bydd yn cyfoethogi dealltwriaeth pobl o Faldwyn a'i phobl, o'r fro y mae'r craic Gwyddelig yn fyw ac yn iach ynddi a lle y mae gan bawb amser i siarad a'i gilydd.
Pethau dirgel
A gwlad y dirgelion, hefyd, er efallai nad yn y gyfrol hon yr oedd y lle i s么n am fesurwyr yr edau a'u campau ond yr oedd angen gwneud yn rhywle cyn i'r arfer beidio.
A rhyfedd nodi fy mod yn gwybod yn iawn fod y peth yn gweithio, er mor od ac anhygoel hynny, a'i fod o yn gweithio hyd yn oed pan nad 诺yr y claf fod yr edau wedi ei mesur.
Ni fesurwyd yr edau erioed ar fy nghyfer i ond gwelais effeithiau clir ei mesur ar rywun arall nad oedd yn credu yn yr arfer nac yn gwybod ei fod yn mynd i dderbyn y driniaeth ei hun.
Rhimyn sy'n uno
Un peth y mae'n rhaid i weddill Cymru ei dderbyn yw mai'r rhimyn main o Gymreictod sydd ym Maldwyn sydd yn cadw unoliaeth y Gymraeg fel iaith genedlaethol, hebddo dwy Gaeltacht fyddai gennym - un yn y Gogledd a'r llall yn y De.
Mae mwynder Maldwyn a'i ffordd ffeind, ond cwbl ddi-ildio, o warchod ei Chymreictod yn hanfodol i'n parhad ni fel cenedl. Lona Jones.