成人论坛

Dafydd Islwyn - 'Cant o Englynion'

Rhan o glawr Cant o Englyn Dafydd Islwyn

Adolygiad Glyn Evans o 100 o Englynion gan Dafydd Iswlyn. Barddas. 拢5.

  • Lle i enaid gael llonydd
  • Y wyrth o rannu'r torthau.
  • Ni ddaw i neb ddoe yn 么l
  • A lleufer dyn yw llyfr da
  • O! Dad yn deulu dedwydd
  • A hir yw pob ymaros
  • Henaint ni ddaw ei hunan
  • Rhed ataf yn rhad eto
  • Adeiladwyd gan dlodi
  • Segurdod yw clod y cledd
  • Mieri lle bu mawredd
  • Hysbys y dengys y dyn
    O ba radd y bo'i wreiddyn
  • Englyn a thelyn a thant

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Grym yr englyn

Arwydd o rym yr englyn yw bod cymaint o linellau englynol mor gyfarwydd nes bod bron yn ddywediadau.

Gyda chymaint grym dim rhyfedd ei fod felly yn fesur y mae cymaint yn gwirioni arno - a go brin bod edmygydd selocach na Dafydd Islwyn, golygydd y gyfrol hon ac ysgrifennydd y gymdeithas gerdd dant, 'Barddas'.

Ar gyfer y gyfrol dewisodd gant o'i hoff englynion gan gant o feirdd a llunio ysgrif fer yn egluro ap锚l pob un - ac weithiau rwydo ambell i englyn ychwanegol, sy'n golygu bod dipyn mwy na chant o englynion yn cael eu dyfynnu yn y pen draw.

Mae'n ymarferiad sydd wedi esgor ar gyfrol drybeilig o ddifyr.

Gwell rhoi rhywfaint o gardiau ar y bwrdd cyn canmol ymhellach a datgan diddordeb personol.

Ychydig a dybiais i ar y pryd y byddai'r cyd-ddisgybl 芒 mi yn Ysgol David Hughes, Biwmares, yn awdur cyfrol o'r fath. Go brin, hefyd, y byddai yntau wedi tybio y byddai un o anwariaid y blynyddoedd is yn ei hadolygu - a siawns nad oes yna destun englyn yn y fan yna yn rhywle!

Dros y blynyddoedd daeth Dafydd Islwyn yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd Pabell L锚n yr Eisteddfod Genedlaethol ac i gymhwyso geiriau un o englynwyr y gyfrol hon mae awen y babell honno yn rhan o haearn Dafydd Islwyn a ph诺er ei hiaith yn faeth ac yn fendith cyson iddo.

Mwy na chasgliad

Mae pob dalen o'r gyfrol hon yn adlais o'r ymlyniad a'r mwynhad hwnnw wrth iddo draethu'n ddifyr am ei gant o englynion a chodi a dilyn sawl sgwarnog yn sgil hynny.

A hynny sydd i'w gyfrif fod hon yn gryn dipyn mwy na chasgliad o gan englyn gan fod y golygydd hefyd yn gymaint rhan ohoni wrth draethhu'n ddiddan am eu hap锚l a'u harwyddoc芒d personol.

Yr englyn cyntaf un i'r "Hen Efail" - gan d卯m Ymryson y Beirdd Sir Aberteifi 1953 - er enghraifft yn atgof o'i blentyndod yntau yn fab i of ac yn cael ei atgoffa "o ddeffro yn llencyn ar foreau gwyliau ysgol a s诺n fy nhad wrth ei waith, a fy nain yn fy annog i godi gyda'r sylw: 'Mae dy dad wrth ei waith ers oriau'."

Yn nes ymlaen mae englyn gan Mathonwy Hughes i'r gof hwnnw o dad ymlith yr ychwanegiadau at y cant o englynion sylfaenol:
Y ring yn nur ei engan - adwaenid
Unwaith gan fro gyfan
A dur seiniol dwyfol d芒n
Fu'i enaid ef ei hunan.

Englyn da yw . . .

Mae'r gyfrol, yn naturiol, yn gyfle i gyfeirio at ragoriaethau'r englyn fel mesur barddonol. Mae'n dyfynnu sylwadau un o englynwyr mwyaf arloesol y cyfnod diweddar, T Arfon Williams, a ddywedodd nad oes angen bardd i wneud englyn cywir:

". . . mater o amynedd ydyw, ac ar ben hynny mater o ymarfer," meddai gan brysuro mlaen i ychwanegu mai'r hyn sy'n rhoi rhagoriaeth i englyn yw "rhyw nerth neu b诺er" sy'n ei droi o fod yn "englyn peiriannol" yn farddoniaeth.

"Newid y talp o oerni yn rhywbeth byw, hardd . . . [ac] ar 么l cyrraedd y stad yma sylweddolir bod englyn yn rhywbeth anrhaethol fwy na mater o sodro geiriau mewn rhyw drefn arbennig."

A'r p诺er hwnnw a'r ddawn honno, heb os, sy'n cyffwrdd 芒 Dafydd Islwyn.

"Yma yng Nghymru," meddai, "mae'r gynghanedd gennym i roi sglein ar ein cofnodi mewn englynion cofiadwy. Cyn sicred ag y bydd y wawr yn torri, bydd gair yn galw ar air rywle yng Nghymru, a bydd yr englynwyr, mewn deg sill ar hugain, yn cael trefn ar eu myfyrddodau."

Ffordd o arddel Cymreictod

I Ddafydd Islwyn hefyd mae'r englyn yn fodd i arddel ein Cymreictod a dangos ein bod yn fyw.

"Mae'n ddyletswydd ar englynwyr Ctymru o dro i dro i'n hatgoffa am ein hetifeddiaeth gyfoethog a'i chyflwyno'n fyw i'r oesoedd a dd锚l," meddai.

A pha un o englynion y Gymraeg sy'n cyflawni'r holl bethau hyn orau? Wel, yn 么l Dafydd Islwyn enwodd R Williams Parry Feddargraff Tad a Mab ym mynwent Llanycil ger Y Bala "yr englyn gorau yn yr iaith Gymraeg".

Yr eiddilaidd ir ddeilen - a syrthiodd
Yn swrth i'r ddaearen,
Yna y gwynt, hyrddwynt hen,
Ergydiodd ar y goeden.

Englyn meistraidd ei ddelweddau gyda'r "ir ddeilen" y mab, y "goeden" y tad a'r "hyrddwynt hen" yn angau.

Gwrthod un waith

Tra'r ydym yn Y Bala mae'n werth oedi gydag englyn a fethodd ag ennill gwobr cystadleuaeth yr englyn yn Eisteddfod Genedlaethol 1967 yno.

Yr oedd hwn yn un o ddau englyn i'r Ddraenen anfonodd J Lloyd Jones i'r gystadleuaeth.

Lleian addfwyn y llwyni - hafwisg
Mehefin amdani;
Ond un waith y daw'r dinoethi
Ar y gwrych oer, gwrach yw hi.

"Er mawr syndod i'r englynwyr fe ataliwyd y wobr a bu trafod ar y feirniadaeth am flynyddoedd wedyn," meddai Dafydd Islwyn gan egluro i hynny ddigwydd oherwydd i'r beirniad, J Eirian Davies, feirniadur'r awdur "am hollti'r gair 'unwaith' [yn y drydedd linell] yn 'un waith'," meddai.

Mewn fersiwn diweddarach newidwyd y llinell gan y bardd yn; "Ond yn heth y dinoethi".

Dweud yn groyw

Heb os, naws a natur bersonol y dewisiadau sy'n anwylo'r gyfrol hon i rywun ac y mae Dafydd Islwyn yn barod i fynegi'n ddigon croyw ei ddaliadau yntau ar wahanol bynciau.

Yn ei nodiadau ar englyn adnabyddus Gwilym R Jones i'r rhai "Anhyddysg mewn trin oeddynt" ar gofeb rhyfel Ysgol Dyffryn Nantlle - "A'r un hedd sy'n rhan iddynt / 脗'r 'gw欧r aeth Gatraeth' gynt - cyfeiria at gefnder ei dad yntau a laddwyd yn y Rhyfel Mawr:

"Roedd fforch garthu yn fwy esmwyth yn ei law na gwn. Er ein crefydda ffuantus ers dwy ganrif, dal i sgyrnygu ei ddannedd mae'r Diafol. Hynny a'n gyrrodd i ryfela ym 1914 hyd at 1918 ac wedyn ar 么l y blynyddoedd ansicr yn nhir neb eilwaith rhwng 1929 ac 1945. Mae s诺n rhyfel yn dal yn ein clyw. Mae uffern Catraeth yn cael ei hailadrodd a'r milwyr ieuanc yn dal i gael eu lladd. A'r hen gwestiwn oesol i'w glywed uwch y ffrwydradau: i beth?"

Nid yw'n syndod o gwbl bod Rhyfel gan Dic Jones ymhlith ei gan englyn:

Bydd dial o'r anialwch - yfory
Nes adferir tegwch
I atal llid plant y llwch,
Ni all lladd ennill heddwch.

Oes, yn y gyfrol ddifyr hon mae digon o wybodaeth i'w chywain a digon hefyd i gnoi cil arno.
Diolch Dafydd Islwyn am gyfrol erchwyn gwely werth chweil.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人论坛 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.