Adolygiad Lowri Haf Cooke o Atgofion Hen Wanc gan David R Edwards. Y Lolfa. 拢6.95.
Mae hunangofiant David Rupert Edwards yn chwa o awyr iach i ddarllenydd sy'n chwil gorn ar holl eiriau cyhoeddiadau'r haf diwethaf.
Mae cyfraniad trigain dalen cryno ond coeth yr awdur i'w gyfrol ei hun wedi'i frechdanu'n ddestlus rhwng discograffeg gynhwysfawr gan yr Archifydd Pop a Roc Cymraeg, Gari Melville, a rhagarweiniad ffantastig gan Emyr Glyn Williams.
Teg dweud nad cyfrol ddiweddara Cyfres y Cewri yw hon - ond pwy ar wyneb daear fyddai eisiau darllen cyfrol wedi'i sgwennu ar ran yr athrylith o Aberteifi fel yn achos rhai o'r rheini?
Beth bynnag, i genedlaethau o bobol ifancish Cymraeg, mae 'Dave Datblygu' yn parhau i fod yn Fendigeidfran o foi, yn broffwyd coll a lwyddodd i gyfathrebu yr hyn yr oedd miloedd yn ei feddwl ond yn methu 芒'i fynegi dan orthrwm eu gwaith, treftadaeth a morgeisi.
Yn dawel
Ag eithrio lawnsio'r sengl gignoeth C芒n y Mynach Modern, a'r ffilm fer ysgytwol gan Pete Telfer a ryddhawyd i gyd-fynd 芒 hi y llynedd, bu'r dyn ei hun yn gymharol dawel er 1995, yn fodlon byw bywyd 'normal' tra'n brwydro 芒'i broblemau iechyd meddwl a'i or hoffter o alcohol
Mae'n wir iddo ganiat谩u sgwrs wych gyda'r Frenhines ei hun, Beti George, a'r droad y mileniwm, ac i Hefin Wyn sgwennu gwerthusiad o'i gyfraniad ar gyfer ei gyfrol yntau Blerwytirhwng yn 2006.
Ac, wrth gwrs, darlledwyd astudiaeth lawn bwriadau da ond hynod anghyfforddus ar S4C yn gynharach eleni. Pawb ar d芒n i darfu ar ei encil wirfoddol ac yntau wedi hen ddweud beth roedd e eisiau'i ddweud.
Wel ein braint ni yn awr yw i David gytuno i sgwennu'r gyfrol hon, er mor gywasgedig yw hi, gan ei bod yn cyflwyno cyfrif cwbl onest a dirodres o'i fywyd tan nawr.
'Dim darnau boring'!
Llwyddodd yn sicr i gyflawni ei weledigaeth ar gyfer yr hunangofiant yn union fel a ddatgelir gan Emyr Glyn Williams yn y rhagarweiniad;
"No flim flam, dim ailadrodd, dim darnau boring sydd yn neud i chi ddisgyn i gysgu."
Yr hyn a geir yn blwmp ac yn blaen, ac yn wahanol iawn i nifer o gofiannau roc blonegog, yw penodau cryno sy'n gwibio drwy'r 45 mlynedd diwethaf ym mywyd dyn cyffredin a gafodd - yn sylfaenol - ei barlysu gan psychosis.
Yn naturiol, ceir cyfeiriadau at y gigs, at y merched, at y doss-houses di-ri ac, wrth gwrs, y cyffuriau neu, efallai'n fwy arwyddocaol yn achos Edwards, yr alcohol.
Pob carreg filltir
Cyfeirir at bob carreg filltir unigol i lawr yr allt anochel i alcoholiaeth a hynny'n gwbl onest a di-ffwdan.
Does dim esgusodion.
Ond efallai mai'r peth mwyaf trawiadol am y gyfrol, yw'r ffaith y down i adnabod Cymro hynod normal mewn gwirionedd a diymhongar. Cymro a gafodd fagwraeth gyffredin iawn ac a lwyddodd i oroesi gyrfaoedd dros dro fel myfyriwr disglair, gweinyddwr garej hynod hamddenol, office monkey a hyd yn oed athro ysbrydoledig, gan brofi'i hun yn gydweithiwr rhadlon a phoblogaidd ar adegau, yn sgwennwr a chyd gyfansoddwr toreithiog, a chyfaill mynwesol i nifer fawr o bobol
Daw yn glir fod y 'Dave Datblygu' chwedlonol yn berson hynod annwyl mewn gwirionedd. Yn ddyn ei filltir sgw芒r, yn fab ac yn gyfaill triw, yn hael iawn ei ganmoliaeth ac yn barod bob amser i roi credit i eraill.
Rhanantyudd rhonc
Mae hefyd yn rhamantydd rhonc ac yn foi sy'n teimlo i'r byw. Yn teimlo gormod efallai ond yn un sy di derbyn hynny ers tro ac sydd wedi hen dderbyn ei ffawd.
Mae'r gyfrol wedi'i phupuro 芒 datguddiadau hynod annisgwyl. Trist, er enghraifft, oedd darganfod i brif llais yr Oes Cyn Cynulliad fethu 芒 phleidleisio ar ddiwrnod Reffernedwm 1997 gan iddo fod "dan glo" mewn ysbyty meddwl ar y pryd
trywanu'r darllenydd
Mae cynildeb cyffredinol y gyfrol yn golygu bod ambell i frawddeg yn llwyddo i drywanu'r darllenydd ar adegau cwbl annisgwyl. Does dim dwywaith fod darllen hwn yn brofiad a hanner.
Cefais hefyd fy atgoffa, trwy ddyfyniadau niferus o ganeuon Datblygu yn rhagair Emyr Glyn Williams, nad penci o bencerdd mohono, ond bardd disglair a lwyddodd i fynegi gwirioneddau mawrion heb orfod dibynnu ar drosiadau a geirfa gor flodeuog.
Mae darllen geiriau ei ganeuon yn dal i fod yn brofiad ysgytwol yn yr un modd ag y mae gwrando ar gerddoriaeth Datblygu a braf oedd cael fy atgoffa iddynt gyhoeddi llyfryn gorlawn i gyd-fynd 芒 rhyddhau'r casgliad Wyau Pyst a Libertino yn 2004.
Estynnais yn syth am fy nghopi innau ar 么l cwblhau'r gyfrol hon.
Trafod ffilm
Ceir awgrym yn ystod y gyfrol i Edwards ac Emyr Glyn Williams fod yn trafod syniadau ar gyfer sgript ffilm bosib o'r enw Y Teimlad, yn dilyn arwr o'r enw Celf, "... wrth iddo weithredu 'one man class and sex war' mewn pentref ger y lli".
Rhaid dweud i mi gyffroi'n llwyr wrth ddarllen hynny ond y peth olaf fyddwn i eisiau'i wneud fyddai disgwyl unrhyw beth yn ormodol ac yntau'n dal i grefu'r cydbwysedd mae eraill yn ei gymryd yn ganiataol.
Yn wir, ar 么l darllen y gyfrol ddirdynnol ond hynod ddifyr hon, yr unig beth dwi'n ei ddymuno ar gyfer David R Edwards yw iechyd da a phob lwc yn y dyfodol.