Haf Llewelyn: Llond Dr么r o Ddeinosoriaid
top16 Mawrth 2011
- Adolygiad Glyn Evans o Llond Dr么r o Ddeinosoriaid gan Haf Llewelyn. Cyhoeddiadau Barddas 拢5.
Casgliad o gerddi amrywiol eu hysbryd i blant gan Haf Llewelyn ochr yn ochr 芒 lluniau trawiadol gan Iola Edwards sydd yma.
Mae'n gyfuniad sy'n gweithio'n ddigon da i'r arlunydd hefyd haeddu cael ei henw ar y clawr. Bechod nad yw.
Ta beth, mae'n gyfrol o ran ei dyluniad gan Dafydd Llwyd sy'n debyg o apelio at blant - a'r oedolion hynny sy'n debyg o fod yn darllen y cerddi efo nhw.
Llyfr hwylus o ran maint hefyd ar gyfer dosbarth ysgol.
Yn y gerdd Pwy? ar ddalen 24 y cyfarfyddwn Ddeinosor y teitl.
Y fo sy'n cael y bai am bob math o ddrygau yn y cartref;
Yn swatio'n lliwgar yn y dr么r
mae Drycin Drwg y deinos么r
meddai'r byrdwn.
Ond fe wyddom ni'n wahanol wrth gwrs mewn cyfrol sy'n cyfleu yn hyfryd iawn fyd plant, teimladau plant, drygioni plant a dyheadau plant.
Mae yma gymysgedd o'r telynegol, y doniol a'r dwys ac weithiau'r gwallgof neu swreal.
Mae'r gerdd Cwmwl, lle mae plentyn yn gweld pob math o bethau yn amrywio o longau gwynion i gestyll cadarn a haid o wrachod, yng nghymylau'r awyr; ond oedolyn yn gweld dim ond cymylau, yn ein hatgoffa o Lle Bach Tlws T Gwynn Jones ers talwm.
Mae yma 19 o gerddi i gyd gan gychwyn gyda Gwyliau'r Haf digon hunllefus yn ei ffordd a thro bach taclus yn y gynffon.
Mae cerddi fel Chwilio a Bedwen yn yr Eira yn delynegion crefftus all apelio at rai o bob oed a'r un modd Hwyl Fach Las:
Hen 诺r y m么r yn syllu draw
Gan ddisgwyl gweld un hwyl fach las,
A rhywun yno'n codi llaw.
Hen 诺r y m么r yn syllu draw
Ond w锚l o ddim ond dagrau'r glaw
A meirch y m么r yn rhedeg ras.
Hen 诺r y m么r yn syllu draw
Gan ddisgwyl am un hwyl fach las.
Mae Sled Si么n Corn mewn cywair cwbl wahanol wedi ei sgrifennu gan yr " un sy'n gorfod hwfro / sled Si么n Corn wedi iddo barcio / a mynd i'r t欧 am flwyddyn arall" ac yn darganfod pob math o betheuach difyr yn y sled, o wifren Wii i flwch Nintendo a
Map o'r ffordd i Abwdabi
O Timbact诺, a dymi babi
Heb s么n am y "llond sach o bw-p诺 carw"!
Cael tipyn o hwyl efo enwau lleoedd Cymru mae Haf Llewelyn yn Enwau gan holi ai dim ond pobl denau gaiff groesi'r afon yn Rhydymain ac a yw pysgod Aberhosan "yn gwau sanau dan y d诺r" a faint o bobl ddoniol sydd yn Alltwalis er enghraifft.
Cerdd ddifyr a fyddai wedi bod ar ei hennill heb bregeth gwerslyfryddol braidd yn hunandybus y pedair llinell olaf:
Tyrd ar daith trwy Gymru gyfan
Chwilia'r ffyrdd o Benfro i L欧n,
Cofia'r enwau, maen nhw'n gyfoeth,
Pletha chwedl am bob un.
Ond drwyddo draw mae'r cyfuniad hwn o eiriau a lluniau yn gweithio'n dda gydag Ymson y Morfil lle mae'r geiriau yn effeithiol iawn wedi eu gweithio'n llythrennol yn rhan o'r llun.