Er gwaetha'r tristwch o fod heb Dic Jones yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yr oedd ei 'bresenoldeb' yn amlwg iawn ar y maes serch hynny.
Gyda dwy o'n gweisg wedi cyhoeddi llyfrau o'i eiddo yr oedd y w锚n a'r cetyn yn ein cyfarch mewn sawl stondin.
Ar gyfer yr Eisteddfod yr oedd Gwasg Gwynedd wedi sicrhau diweddariad o'i hunangofiant Os Hoffech Wybod . . . a Gwasg Gomer ddetholiad o'i farddoniaeth, Cerddi Dic yr Hendre.
Trefnwyd noson arbennig i ddathlu'r gyfrol hon yn Neuadd y Dref, Aberteifi, am hanner awr wedi saith Medi 17, 2010.
Os Hoffech Wybod . . .
Cyhoeddwyd Os Hoffech Wybod . . . yng Nghyfres y Cewri ugain mlynedd yn 么l yn 1989 ac ar gyfer yr argraffiad newydd ychwanegwyd pennod gan ei ddwy ferch, Delyth a Rhian, i "gau pen y mwdwl".
Tusw bach hyfryd o atgofion personol gydag ambell i sylw treiddgar.
"Nid dweud yr ydym eio fod yn gollwr gwael ond yn hytrach ei fod yn wael am golli!"
A hynny'n arwain at y sylw ffraeth gan Dic Ei hun pan drechodd C么r Aberteifi G么r y Mochyn Du yn Eisteddfod Caerdydd dair blynedd yn 么l, "Ches i rioed gymaint o bleser wrth ladd mochyn."
Maen nhw'n cloi eu sylwadau gyda'r geiriau:
"O Fryn yBriallu i'r Faenor, o Baris i Batagonia ac o Rydychen i Ryd-y-fuwch, un o nodweddion anwylaf Dad oedd ei barodrwydd i gymdeithasu 芒 thywysogioon a rhychwyr fel ei gilydd."
Ac yn wir fe'i anrhydeddwyd a thei a roddwyd gan y Tywysog Charles a Medal arlywyddol Cymdeithas Rychio Cymru!
Pan gyhoeddwyd Os Hoffech Wybod . . . gyntaf yn 1989 argraffwyd chwe mil o gopiau a gwerthu pob un ohonyn nhw yn 么l y cyhoeddwyr - ar wahan i un a gadwyd ganddynt hwy.
Olrhain y mae'r gyfrol hanes bywyd Dic Jones o'i blentyndod ym mhentref Blaen-porth yng Ngheredigion gyda gwrogaeth i'w gefndir a'r fro a fu'n gymaint o ddylanwad arno.
"Mae'r gyfrol yn fwy na hanes bywyd cyfoethog Dic ei hun - mae hefyd yn gofnod gwych o fywyd mewn ardal ddiwylliedig, ac o gyfnod sydd bellach yn rhan o hanes ein cenedl.
"Roedd yr hunangofiant gwreiddiol allan o brint ers blynyddoedd, a theimlem fel cyhoeddwyr ei bod hi'n ddyletswydd arnom i roi cyfle i ddarllenwyr newydd mewn cyfnod newydd gofio Dic trwy ddarllen hanes ei fywyd a'r gymdeithas a fu'n gymaint o ddylanwad arno," meddai Alwyn Elis, perchennog Gwasg Gwynedd.
Cyfle i genhedlaeth newydd ddod i wybod am yr hyn fu'n gyrru un o'r hynotaf o'n beirdd.
Cerddi Dic yr Hendre
Partneres anhepgor i'r hunangofiant yw argraffiad hyfryd Gwasg Gomer o gerddi'r bardd.
Dyw e ddim y casgliad cyflawn y byddai llawer wedi ei ddymuno ond llwyddodd Ceri Wyn Jones yn rhyfeddol i gasglu ffrwyth athrylith awen Dic Jones i sgubor teilwng gan adlewyrchu gallu'r bardd "i ysgrifennu cerddi cofiadwy a oedd yn apelio at bawb".
Mae Ceri Wyn Jones yn disgrifio ei ddetholiad fel "dathliad" o ddawn, direidi a chalon fawr ymhlith y pennaf o'n beidd..
"Yn sicr, os oedd hierarchiaeth ym myd beirdd, Dic oedd ar ben yr ysgol honno," meddai gan nodi mai un o'i nodweddion oedd ei fod yn gwybod "fel pob talyrnwr da, 'You-re onl;y as good as your last englyn'."
Teyrnged un sydd yma i fawredd cyfaill "fel personoliaeth ac fel bardd".
Y meysydd y bu Ceri Wyn Jones yn cynaeafu ynddyn nhw yw saith cyfrol a gyhoeddwyd gan Dic Jones; Agor Grwn - 1960,Caneuon Cynhaeaf - 1969, Stoerom awst - 1978, Sgubo'r Storws - 1986, Golwg Arall - 2001, Golwg ar G芒n - 2002 a Cadw Golwg - 2005 ac y mae dros 400 o gerddi yma i gyd mewn cyfrol o 300 tudalen.
"Y bwriad gwreiddiol oedd gwneud detholiad gweddol gryno er mwyn sicrhau bod goreuon cerddi Dic ar gof a chadw i ddarllenwyr hen a newydd. Ond wrth i fi fynd ati, fesul cyfrol unigol, i ddewis y cerddi hynny, fe ddaeth yn amlwg bod angen casgliad mwy swmpus er mwyn cynrychioli'n deg waith Dic dros hanner can mlynedd o gyhoeddi," meddai CeriWyn Jones wrth s么n am y gyfrol.
"Gan fod ystod mor eang o bynciau a dulliau a chyweiriau yng ngherddi Dic, roeddwn am sicrhau hefyd fod yr amrywiaeth honno'n cael ei hadlewyrchu yn y detholiad. Dyna pam fod y penillion bychain bachog a'r englynion comig yn cadw cwmni'n ddiddig 芒'r cerddi marwnad dirdynnol a'r awdlau eisteddfodol mawr," eglurodd.
"Wedi'r cwbwl, roedd Dic ei hun, fel personoliaeth a chwmn茂wr, yn symud o'r naill pegwn i'r llall yn gwbwl naturiol a didrafferth. Mwy na hynny, roedd e'n gallu cyfuno'r dwys a'r digri yn yr un gwynt," ychwanegodd.
Talodd deyrnged iddo hefyd am lwyddodd i gynnal safon ei waith dros gyfnod o hanner can mlynedd.
Cyfrol braf i'w thrafod braf i'w darllen.