Adolygiad John Stevenson o Y Cawr o Rydcymerau: Cofiant DJ Williams gan Emyr Hywel. Y Lolfa: 拢14.95.
Gofyn wnaeth Emlyn Richards i'r gynulleidfa yn y Babell L锚n, faint ohonyn nhw oedd yn cofio'r bowlen wen fyddai Nain yn ei defnyddio erstalwm i wneud bliwmonj.
A barnu wrth yr ymateb hwyliog, roedd pawb yn cofio'r bowlen wen ac ynddi grac du i lawr yr ochor.
Ac o dywallt y bliwmonj byddai 么l y crac i'w weld yn eglur i lawr ymyl y bliwmonj.
Ergyd cwestiwn Emlyn Richards oedd fod cynefin fel y bowlen wen yn gadael ei farc yn glir a chwbwl eglur ar y sawl a fagwyd yno!
Mae'n eglur ddigon i unrhyw un sy'n darllen cyfrol Emyr Hywel, i'r bowlen bliwmonj gael dylanwad ar D J Williams hefyd.
Mae'r awdur ei hun yn nodi fod DJ wedi ei fowldio gan yr ardal y bu'n byw ynddi nes cyrraedd pymtheg oed a bod 么l y crac ddu i'w weld arno'n eglur am weddill ei oes.
"Ffynhonnell yr ysbrydoliaeth a'i cynhaliodd gydol ei oes o frwydro dygn," meddai Emyr Hywel "oedd ei ddelfryd o sefydlu yng Nghymru genedl ar batrwm y bywyd delfrydol a'i profodd yn Rhydcymerau ym mlynyddoedd ei ieuenctid," meddai.
O hirbell
Teg dweud mai cofio o hirbell a wnaeth D J Williams.
Gadawodd Yr Hen D欧 Fferm ganol ei arddegau ac mae'n bwysig nodi mai llinell fregus iawn yw honno rhwng cofio a gor ramantu am "yr hen ffordd Gymreig o fyw".
Hon yw'r ail gyfrol gan Emyr Hywel sy'n ymdrin 芒 DJ, un o sefydlwyr Plaid Genedlaethol Cymru.
Roedd y gyfrol gyntaf yn sicr yn werth ei darllen gan iddi godi cwr y llen ar wir gymeriad rhai o geffylau blaen y mudiad cenedlaethol cynnar ac o ddarllen y llythyrau gallai dyn gofio mai pobol o gig a gwaed oedd rhai fel Kate Roberts a Saunders Lewis.
Y perygl bob amser i unrhyw un sy'n cael ei ddyrchafu i fod yn 'eicon' neu 'drysor cenedlaethol' yw anghofio'r elfennau meidrol o gig a gwaed.
Dwy ran
Mae cyfrol newydd Emyr Hywel wedi ei rhannu yn ddwy gydag adran hynod ddefnyddiol o droed nodiadau.
Trafodir yn y rhan gyntaf gefndir a phersonoliaeth D J Williams. Mae adrannau eraill yn trafod ei gyfraniad i grefydd, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth Cymru.
Detholiad difyr yw'r ail ran o'i ddyddiaduron rhwng 1913-1966 ac yn codi cwr y llen ar enaid sy'n amlwg yn un hynod o gymhleth.
Mae'r dyddiaduron yn ddadlennol ac yn llawn o bytiau digon blasus.
Pwy wyddai, er enghraifft, mai uchelgais gynnar 'Y Cawr y Rhdcymerau' oedd cael bod yn rancher yn yr America?
Uno'r ffeithiau a achosodd syndod mawr oedd deall na chyfarfu Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams ond unwaith wedi llosgi Penyberth yn 1936 ac yr oedd hynny ddeg mlynedd ar hugain wedi'r llosgi - yng Ngorffennaf 1968.
O am fod yn bry ar y wal y noson honno.
Pedigri gwleidyddol
Rhan hynod o ddifyr o'r gyfrol, i mi sy'n ennill ei fara menyn yn y byd gwleidyddol, yw'r drafodaeth am bedigri gwleidyddol DJ Williams.
Y cwestiwn sy'n cael ei godi gan Emyr Hywel ydi, a oedd DJ Williams yn genedlaetholwr "o'r crud".
Dywed yn blwmp ac yn blaen mai "di-sail yw'r hyn a gredai Waldo Williams, sef ei fod yn hwyr iawn yn cofleidio cenedlaetholdeb ac na allai yn deg hawlio iddo fod yn genedlaetholwr o'r crud".
Mae Emyr Hywel hefyd yn dyfynnu o waith yr Athro TJ Morgan, tad Prif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad, Rhodri Morgan.
Roedd TJ Morgan o'r un farn a Waldo Williams ond Emyr Hywel yn wfftio'r amheuwyr.
"Mae TJ Morgan yn cyfeiliorni," meddai gan fynegi'n gwbl ddiamau mai "cenedlaetholwr oedd o ran ei deithi meddwl a'r weledigaeth wleidyddol."
Ond howld on am funud: lle mae'r dystiolaeth i gefnogi gosodiad mor bendant?
Ar dudalen 15 o'r gyfrol dywed Emyr Hywel ; "fel llawer a'i dilynodd i Aberystwyth, deffrodd fflam cenedlaethol yn DJ".
Ond ar y dudalen sy'n dilyn, dywed yr un mor bendant:
"Ei nod oedd creu cymdeithas sosialaidd heb ddefnyddio dulliau chwyldro a bu'n gysylltiedig a ffurfio'r Blaid Lafur yn 1906."
A oedd y weledigaeth honno gan DJ Williams yr un math o weledigaeth genedlaetholgar a Saunders Lewis?
Go brin.
Mae'r drafodaeth hon yn mynd i galon gwleidyddiaeth y Gymru Gymraeg yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif ac yn wir mae'n rhan o'r tyndra sy'n bodoli o hyd rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.
A dydi o ddim yn helpu i ddeall gwleidyddiaeth y cyfnod cynnar yma i wadu a chamddehongli ffeithiau i bwrpas gwleidyddol yr oes bresennol.
Siomedigaeth
Siom y gyfrol yw nad oes ganddi, hyd y gwelaf i, unrhyw beth newydd i'w ddweud na'i ddatgelu am losgi'r Ysgol Fomio.
Byddai wedi bod yn hynod werthfawr cael dadansoddiad gwrthrychol o un o weithredoedd gwleidyddol mawr cenedlaetholdeb Cymreig yr ugeinfed ganrif.
Serch hynny, mae llawer i'w ganmol am gyfrol Emyr Hywel.
Un o wendidau mawr cyhoeddi yn y Gymraeg yw diffyg cydnabod ffynonellau. Mae'n bosib mai ceisio torri costau sy'n gyfrifol am hynny ond os yw cyfrol i'w chymryd o ddifri, mae'n bwysig gwybod o ble y daeth y blawd ddefnyddiodd yr awdur i bobi'r dorth.
Yn y gyfrol hon, mae'r awdur wedi cynnwys yr holl ffynonellau mewn adran yn y cefn ac o'r herwydd llwyddodd Emyr Hywel i bobi cyfrol hynod o flasus.