Adolygiad Janice Jones o Cerddi Evan James - Awdur Hen Wlad fy Nhadau gan Gwyn Griffiths. Gwasg Carreg Gwalch. tt. 256. 拢8.50.
Rydw i'n fodlon cyfaddef bod Evan James, i mi, fel sawl ffigwr arall yn hanes Cymru megis Hywel Dda, William Morgan a Griffith Jones, yn adnabyddus yn sg卯l un weithred yn unig.
A bod gweddill eu bywydau wedi eu neilltuo, o'r herwydd, i'r dirgel.
Camp Gwyn Griffiths yw ei fod wedi rhoi cnawd ar rith awdur ein hanthem a'i ddarlunio fel g诺r amlochrog o gig a gwaed.
Mae'r gyfrol hon yn ychwanegiad gwerthfawr at y gyfrol Gwlad fy Nhadau a gyhoeddwyd gan Gwyn Griffiths yn 2006.
Cyhoeddwyd dwy fersiwn ar y gyfrol honno: un Gymraeg ac un Saesneg. Cyfrol ddwyieithog drwyddi draw yw'r ddiweddaraf hon a gobeithio y bydd hynny'n ysgogiad i'r rhai nad ydynt yn rhugl yn iaith y nefoedd i bori yn y gwaith difyr hwn.
Digon o wybodaeth
Mae'r rhagymadrodd helaeth a gynhyswyd yn y gyfrol yn cynnwys st么r o wybodaeth am deulu Evan James a hefyd am fywyd yn un rhan o dde ddwyrain Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif a'r bymtheg.
Roedd Evan ei hun, yn ogystal 芒 bod yn fardd toreithiog, yn wehydd, yn dafarnwr ac yn wneuthurwr telynau a diddorol, er enghraifft, yw darllen am y digwyddiad oedd yn dwyn yr enw Pastai'r Bont ac, wrth gwrs, mae gwerth mawr mewn cofnodi arferion cymdeithasol fel y rhain, cyn i'r cof amdanynt fynd i lwyr ddifancoll.
Mae sawl tudalen o luniau du a gwyn yn y rhagymadrodd hefyd.
Mae'r awdur wedi dosbarthu'r cerddi'n grwpiau megis 'Cerddi Gwladgarol', 'Cerddi Natur', 'Cerddi Cymdeithasol a Diwydiannol', 'Cerddi Teuluol', 'Cerddi Serch' a 'Cerddi Doniol'.
Yn amrywio
Yn ogystal 芒 chynnig amrywiaeth o safbwynt testun a thema, mae'r cerddi eu hunain yn amrywio o ran eu mesur a'u cywair ac yn gofnod hanesyddol a chymdeithasol o ardal arbennig mewn cyfnod arbennig.
Mae yma dros 80 o gerddi caeth a rhydd gyda nifer ohonynt wedi eu cyfansoddi ar gyfer cystadlaethau mewn eisteddfodau.
Ceir yma gerddi digon aruchel eu bwriad, megis y rhai a luniwyd i gyfarch Urdd yr Iforiaid, ochr yn ochr 芒 cherddi y gellir eu disgrifio fel gwaith bardd gwlad.
Un o'r rhain yw'r gerdd sy'n dwyn y teitl bendigedig, 'C芒n am Bren Afalau, Mari fy Chwaer, Bargod', i'w chanu ar yr alaw Highland Mary ac sy'n gorffen fel a ganlyn:
O boed i'w phren gael chwarae teg
Drwy deilwng iawn feithriniaeth
Fel dygo eto aeron chweg
Yn berlau'i choffadwriaeth.
Cydwybod cymdeithasol
Daw cydwybod gymdeithasol Evan i'r amlwg hefyd mewn cerddi megis 'I Gaethwasanaeth', cyfres o englynion sy'n dadlau'n huawdl dros ddiddymu caethwasanaeth, ac 'Y Degwm', tribannau protest yn erbyn y dreth arbennig honno.
Serch hynny, mewn cyfres arall o englynion, mae Evan James yn condemnio John Frost, arweiniwr y Siartwyr, oherwydd ei fod yn credu bod y mudiad hwnnw yn barod i ymroi i ddulliau treisgar o weithredu.
Amhosibl crybwyll yr amrywiaeth eang o bynciau a ddaeth dan chwyddwydr barddol Evan James mewn hyn o eiriau: mae rhychwant ei waith yn rhyfeddol, wrth ystyried ei holl ddyletswyddau eraill.
Ar yr un llaw, gellir dadlau mai dyn ei filltir sgw芒r ydoedd, ond yn sicr roedd ei orwelion yn eang.
Mae safon y cerddi'n amrywio mae'n wir, ond mae yma olion dawn a chrefft. Addas ar hyn o bryd, dyfynnu'r englyn hwn, 'Y Gaeaf', a luniwyd ar y diwrnod byrraf, 1837:
Yn gauad tymor y Gaeaf - y daeth
Eto y dydd byraf;
Drwy'i ystod aml gawod gaf
A naws oer ei nos hiraf.
"Os bydd g诺r marw a fydd efe fyw drachefn?"
Dyma'r adnod o Job, yn 么l rhagymadrodd Gwyn Griffiths, y cododd y Parchedig Edward Roberts ei destun ohoni yn angladd awdur ein hanthem.
Addas yn wir.