01 Medi 2011
Adolygiad Janice Jones o Y Stor茂wr gan Jon Gower. Gwasg Gomer. tt. 366. 拢8.99
Mae nofel newydd Jon Gower, Y Stor茂wr, yn un swmpus sy'n cynnwys dros dri chant a hanner o dudalennau. Mae clawr Adam Fisher yn drawiadol, gyda'i waith celf awgrymog.
Hanes Gwydion McGideon a gawn yn y gyfrol hon, bachgen a aned mewn pentref bychan Cymreig ar ddiwedd y Pumdegau, a chanddo ddawn arbennig i adrodd stor茂au.
Mae'r plentyn hynod hwn yn creu tipyn o benbleth i'w rieni wrth iddynt geisio ymdopi 芒 gallu rhyfeddol eu mab. Caiff fagwraeth sydd, ar yr un llaw, yn ddigon cyffredin ac, ar y llaw arall, yn gwbl rhyfeddol.
Ond nid yw pawb yn edmygu dawn Gwydion, ac wedi bywyd yn llawn cynnwrf, mae'n rhaid iddo wynebu ei elyn pennaf.
Mae nifer fawr o gymeriadau yn y gyfrol, ond digon hawdd, ar y cyfan, yw dilyn trywydd yr unigolion hyn.
Cymeriadau megis rhieni Gwydion a'i gyfnither Dwti yw'r rhai mwyaf annwyl a'r rhai sy'n malio fwyaf yn ei gylch.
Yng nghanol y cymeriadau dychmygol hyn ceir cyfeiriadau at gymeriadau o'r byd go iawn megis Max Clifford a Margaret Atwood. Nid yw dadlennu bod sawl cymeriad od, ynghyd ag ambell un tu hwnt o greulon, yn mynd i amharu ar fwynhad darllenydd. Ond wrth ddisgrifio rhai gweithgareddau a digwyddiadau ffiaidd yn y nofel, mae yna duedd o dro i dro i bentyrru erchylltra ar ben erchylltra.
Gellir dadlau, wrth gwrs, bod hyn yn ychwanegu at yr awyrgylch sinistr sy'n cael ei ddatblygu wrth i'r nofel fynd rhagddi, ac at y tensiwn cynyddol.
Ychydig o blot sydd yna yn y nofel mewn gwirionedd: mae un llinyn stor茂ol sy'n cydio'r cwbl at ei gilydd, ond anecdotaidd yw'r penodau. A phetai'n rhaid, neu'n fuddiol, gosod y gwaith o fewn genre penodol, yna mae'n debyg mai fel nofel realaeth hudol y gellir ei disgrifio orau.
Toreth o gyfeiriadaeth
Efallai mai'r elfen fwyaf trawiadol o'r nofel yw'r toreth o gyfeiriadaeth a gynhwyswyd ynddi hi. Go brin bod y ddarllenwraig hon wedi deall a dilyn yr holl gyfeiriadau yn y gwaith ond, yn sicr, mae yma fwy na digon i gnoi cil arno.
Ganed Gwydion ar noson stormus - fel Dewi Sant; mae wedi'i eni ar drothwy'r Chwedegau - cyfnod o newid aruthrol, er efallai na welwyd cymaint 芒 hynny o olion uniongyrchol y newid hwnnw yng nghefn gwlad Cymru ar y pryd; mae ganddo fan geni sy'n ymdebygu i ddraig.
A hyn i gyd ym mhennod agoriadol y gyfrol! Sylwer hefyd ar enw'r prif gymeriad - Gwydion McGideon - gyda'i gyfeiriadaeth Gymraeg amlwg: "Yntau, Gwydion, gorau cyfarwydd yn y byd oedd."
Ac, wrth gwrs, g诺r a weithiodd yn ddiflino dros ei Dduw oedd Gideon. Anodd yn wir yw anwybyddu'r gyfeiriadaeth grefyddol sy'n britho'r gwaith (er, rhaid cydnabod ei bod hi'n gwbl bosibl y byddai darllenydd arall yn anghytuno'n llwyr!): gellir dadlau bod Gwydion yn ryw lun ar broffwyd, un sydd "yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ym mhlith ei genedl ei hun"; ymneilltuodd y g诺r ifanc i Ynys Enlli, er go brin y byddai'r ugain mil o sant yn cymeradwyo ei chwant am Mrs Lockheart, "Salome Enlli, ei Mata Hari bersonol".
Ar ddiwedd y nofel
Ond efallai mai ar ddiwedd y nofel, wrth i dynged Gwydion gael ei ddadlennu y daw'r gyfeiriadaeth fwyaf amlwg i'r golwg ond byddai rhyddhau'r gath honno o'r cwd yn amharu ar fwynhad y darpar ddarllenydd, felly taw piau hi!
Ac eto, wrth edrych ar y dyfyniad ar glawr y gyfrol - "Ambell waith, y stor茂wr yw'r stori" - gellir gweld cysylltiad rhwng bywyd Gwydion a bywyd Crist.
Mae iaith y nofel hon yn llifo, a chyda'i holl haenau a'i holl ddarlleniadau posibl, mae'n gyfrol fydd yn plesio darllenydd mewn modd personol ac unigryw.
Janice Jones