21 Tachwedd 2011
Adolygiad Glyn Evans o Gwres y Gegin gan Heulwen Gruffydd. Lluniau gan Ll欧r Gruffydd a Sion Jones. Lolfa. 拢19.95. Tud. 272.
Ar adeg pan fo llyfrau coginio Saesneg yn teimlo drafft technoleg newydd, wele'r Lolfa yn cyhoeddi clamp o lyfr coginio newydd yn y dull clasurol.
Cyrhaeddodd tua'r un adeg ag erthygl yn y wasg am ffyrnigrwydd y gystadleuaeth rhwng llyfrau coginio Saesneg gyda'r Hairy Bikers, Nigel Slater, Heston Blumenthal, Lorraine Pascale, Rick Stein, Gordon Ramsey ac eraill yn brwydro i lenwi'n boliau y Nadolig hwn.
Ond nid cystadlu 芒'i gilydd yn unig maen nhw erbyn hyn ond 芒'r dulliau newydd o drosglwyddo gwybodaeth.
Ymddengys bod yn well gan anturiaethwyr y gegin y dyddiau hyn ddilyn cyfarwyddiadau apps ymhlith y sosbenni yn hytrach na stachu efo llyfrau sydd, yn naturiol yn fwy anhwylus mewn cegin gyfyng.
Yn bersonol, fel un sy'n euog o stwna gryn dipyn yn y gegin, cadw'n driw i lyfrau a dalennau wedi eu rhwygo o gylchgronau fydda i a dyna pam yr oeddwn mor falch o weld cyfrol hardd Heulwen Gruffydd, Gwres y Gegin yn cyrraedd y siopau.
Ac mae hi'n cychwyn gyda rhywbeth yr ydw i'n ystyried fy hun yn dipyn o giamstar arno sef pobi bara - er mae'n rhaid cyfaddef nad ydw i'n bobwr selog ond yn cael rhyw bycsiau o bobi diwyd wrth ddiflasu ar fara siop.
Er bod digon o lyfrau o'r fath - yn wledd o luniau trawiadol o'r safon uchaf - ar gael i borthi pum mil, bum mil o weithiau yn y Saesneg maes cymharol dlawd ydi hwn yn y Gymraeg a phan ydych chi'n cael cyfrol mor hardd, moethus ac amrywiol a hon y mae'n dipyn o ddigwyddiad.
Y syndod yw na chyhoeddodd Heulwen Gruffydd gyfrol cyn hyn gan iddi fod yn gogydd swyddogol yr hen raglen radio Helo Bobol am bron i ugain mlynedd fel mae Hywel Gwynfryn yn ein hatgoffa mewn cyflwyniad hwyliog i'w llyfr.
Daeth hynny i fod wedi i Heulwen ennill cystadleuaeth ar y rhaglen i greu pryd o fwyd i ddathlu achlysur arbennig a chael gwahoddiad yn sgil hynny i ymweld 芒'r stiwdio yn wythnosol.
"Y llais oedd ei hatyniad i rai, y llais a newidiai'n rhwydd iawn yn chwerthiniadiach, ac yn wir, yn aml iawn yn ffit o chwerthin afreolus," meddai Hywel Gwynfryn.
Wrth gwrs allwn ni ddim clywed y chwerthin hwnnw yn Gwres y Gegin ond mae'r arbenigedd coginio a'r profiad helaeth o wneud bwyd i'w gweld ar bob dalen.
Rhanwyd 190 resip茂au dan naw pennawd; bara, tamaid i gychwyn, cig, pysgod, prydau llysieuol, pwdin, bwyd Nadolig, cacennau a picls a jam.
Briwsion
Wedyn, mae yna amrywiaeth o nodiadau difyr dan y pennawd 'Briwsion', wedyn geirfa ac i gloi, fynegai i'r "risetiau".
Fe gefais i yr adran Briwsion yn arbennig o ddifyr - a defnyddiol.
Yma, er enghraifft datgelir sawl rheswm pam bod fy sgons i yn llai na pherffaith ar adegau - er bob amser yn ddigon blasus.
Yn 么l Heulwen ymhlith y cerrig milltir ar y llwybr tuag at lwyddiant y mae:
- Peidio defnyddio blawd codi fel mae rhai'n ei awgrymu ond blawd plaen gyda charbonad soda a hufen tartar.
- Y toes i fod yn dri chwarter modfedd o drwch.
- Torri'r toes trwy bwyso'r torrwr i lawr yn syth ac yn gadarn ar ei ben a pheidio 芒'i droi a'i sgriwio wrth wneud hynny.
Mae 'briwsion' hefyd am bethau fel atal croen ar gwstard (er, mi fydda i wrth y modd efo croen cwstard!), cadw caserol yn gynnes, gogru blawd; toddi siocled, rhewi cacen a plicio tomatos - "gwaith, ar yr olwg gyntaf, sy'n anos na chneifio chwannen," meddai!
Am y resip茂au, er nad yw rhywun wedi cael cyfle i roi cynnig arnyn nhw hyd yn hyn, mae'r cyfarwyddiadau yn glir ac yn eglur a phwysau defnyddiau yn y mesurau traddodiadol (ownsus) yn ogystal 芒'r newydd (grams - wel, maen nhw'n dal yn newydd i mi!) diolch i'r drefn ac mae'r awdur yn dweud y byddai hi yn gwneud y resipi cyn ei darllediadau radio.
Yn haeddu eu crybwyll hefyd mae Ll欧r Gruffydd a Sion Jones a dynnodd y lluniau rhagorol.
Llyfr sydd, wrth fynd a ni i wres y gegin, yn mynd i arbed lot o chwysu ddywedwn i.
Glyn Evans