Adolygiad Ian Gill o Hei-ho! gan Daniel Davies. Lolfa. 拢7.95.
Mae tre St Brieuc yn Llydaw wedi bod wrthi ers tro; ac ychydig yn 么l, dyma Esquel ym Mhatagonia yn gwneud yr un peth.
Y cwestiwn mawr ydi, "Pwy fydd nesa...?"
S么n ydw i am 'efeillio' 芒 thre Aberystwyth.
Wel, pe bai'r ffordd iddi gael ei phortreadu mewn nofelau'n ddiweddar yn digwydd bod yn ffactor yn y broses o efeillio, ga'i awgrymu mai dim ond mater o amser yn unig yw hi cyn y bydd Papa Lazarous a gweddill hynodion Royston Vaisey o'r gyfres deledu, League of Gentleman, ymlwybro heibio neuadd Pantycelyn i ddathlu'r undeb ddiweddara!
Yn ei gyfrolau Aberystwyth Mon Amour a The Unbearable Lightness of Being in Aberystwyth, mae Malcolm Pryce eisoes wedi agor cil y drws ar y tywyllwch sy'n ffrwtian dan y wyneb llonydd; ac er nad oes grotesgau eithafol fel Tubbs a Lazarous yn ymddangos yn Hei-h!o, mae'r syniad nad oes yna'r fath beth 芒 pherson 'normal' yn amlwg yn nofel ddiweddara Daniel Davies - yn arbennig os ydych chi'n digwydd byw you know where . . .
Heb waith
Yr hyn sy'n tynnu saith prif gymeriad Hei-ho! ynghyd yw eu bod yn ddi-waith, yn byw yn Aber ar ddechrau mis Awst, 2009 ac ... erm... dyna ni.
Maent yn adar brith; un 'di dotio ar griced, un arall 'di gwirioni 芒 ffilmiau Disney, tra bo'r enw 'Slick Willard' yn ddigon i godi'r felan ar swyddog y Ganolfan Rhaglenni, Nikkie Rouse.
I ambell un, mae ymuno 芒'r rhaglen adfer i waith yn ddihangfa rhag eu partneriaid anghefnogol ac i eraill yn gyfle i ddod o hyd i gariad yn hytrach na swyddi.
Oes, mae 'na lot yn digwydd yn y nofel yma - gormod, falle.
Peth wmbress o sefyllfaoedd
Tra'n barod i ganmol Daniel Davies am ei allu i ddychmygu a saern茂o peth wmbredd o sefyllfaoedd doniol, yn anffodus tydi'r ddawn honno'n unig ddim yn ddigon i warantu nofel gomedi sy'n taro deuddeg.
Os am lwyddo, rhaid i awdur nofel fel hon, sy'n trafod breuddwyddion a siomedigaethau y cast, fod yn barod i dorchi llewys a mynd i'r afael 芒'i chymeriadau hefyd - a mynd dan groen y rhai sy'n breuddwydio ac sy'n cael eu siomi.
Fel arall, y cwbwl sy' gennym ni fel darllenwyr yw rhestrau o enwau a chyfres o sgetsus.
Cofiwch i'r awdur David Renwick orfod datrus problem debyg ar 么l ei gyfres gynta' o One Foot in the Grave ac er mwyn i'r sefyllfaoedd swreal weithio, bu'n rhaid i Renwick wneud cymeriad Victor Meldrew yn fwy real.
Wrth i'r nofel yma garlamu at ei therfyn, mae'r peryglon o ddibynnu ar y plot, yn hytrach na'r cymeriadau, i yrru'r stori ymlaen, yn dod i'r amlwg.
Braidd yn frysiog
Yma, mae'r baich o blethu holl linynnau'r stori, a'r awydd i gau pen y mwdwl ar y cyfan, yn golygu fod y deugain tudalen olaf yn darllen braidd yn frysiog ac o ganlyniad yn ein gadael 芒 diweddglo fflat sydd, i mi, yn tanseilio cymaint o'r gwaith da oedd i'w ganfod yn nhri-chwarter cynta'r llyfr.
Fel yr awgrymais, mae Daniel Davies yn meddu ar y ddawn i greu sefyllfaoedd ffarsaidd, doniol; ond mae'r gallu ganddo hefyd i ddisgrifrio Bryn Yale yn gweld adlewychiad o'i wyneb ei hun, ac iddo weld: "gw锚n ddireidus i'w atgoffa o'i wyneb pan oedd yn ifanc."
Mae John Burton a'i wraig yn syllu mewn distawrwydd ar yr operau sebon, a John yn sylwi ar gymeriadau'n trafod eu problemau ffug: "gan gyfathrebu'n hawdd 芒'i gilydd, yn wahanol i bobl go iawn."
Rwyf yn mawr obeithio y cawn ni weld mwy o gyffyrddiadau fel hyn yng ngwaith yr awdur yn y dyfodol. Fel 'sa Nikkie Rouse yn dweud: Hunanhyder, Daniel bach. Hunanhyder.