24 Tachwedd 2011
Adolygiad o Hiwmor y Preseli gan Eirwyn Jones. Cyfres Ti'n Jocan. Lolfa. 拢4.95.
Dyw William Williams Pantycelyn ddim yn un y byddech chi'n disgwyl dod ar ei draws mewn cyfrol o'r enw Hiwmor Y Preseli
Ond gyda W R Evans, Waldo ac eraill llai adnabyddus y tu allan i'r ardal, mae o yma yn y gyfrol ddiweddaraf hon o'r gyfres Ti'n Jocan gan y Lolfa.
Yr awdur y tro hwn yw Eirwyn George - prifardd a'i wreiddiau'n ddwfn yn ardal y Preseli wedi ei eni a'i fagu yn ardal Twffton, gogledd Sir Benfro.
Casgliad o ddiddanion yn amrywio o j么cs, i straeon celwydd golau a cherddi a rhigymau am gymeriadau'r fro sydd yma.
A Williams Pantycelyn? Wel, does ganddo ddim j么c at yr achos ond y mae gan Eirwyn George ddwy stori a gambriodolwyd i achlysur cyfansoddi rhai o'i emynau.
fel honno amdano yn cael ei demtio i dafarn gan gyfaill a chae ei ysbrydoli, wrth gerdded allan yn sigledig ac ansicr ar ei goesau, i gyfansoddi y llinellau:Dal fi fy Nuw, dal fi i'r an
'N enwedig dal fi lle rwy'n wan.
Cyhoeddi straeon doniol, j么cs, un ar 么l y llall yw tuedd y gyfres hon ond yn achos Hiwmor Y Preseli mae Eirwyn George yn rhagymadroddi cryn dipyn a gosod y cefndir a pheintio lluniau bach geiriol o'r unigolion mae'n s么n amdanynt - rhai fel Joseph James, gweinidog mawr o ran corffolaeth a phregethwr emosiynol sydd fel pe byddai byth a hefyd yn pasio tafarn ar adegau addas megis y noson honno y daeth llymeitiwr allan a cherdded yn syth i'r clawdd yr ochr arall i'r ffordd a James yn holi;
"Mae'n noson dywyll. D'ych chi ddim yn gweld yn dda?" a chael yr ateb, "Wdw, dw i'n gweld yn iawn. Ond dw i'n methu mynd y ffordd dw i'n gweld."
mae'r gyfrol wedi ei rhannu yn nifer o benodau gan gychwyn gyda straeon o lwyfan steddfodau oedd mor boblogaidd - ac aml - ar un adeg yn yr ardal.
"Yn wir, roedd 'na ddeg steddfod fach mewn rhyw gylch o bum milltir pan own i'n blentyn," meddai'r awdur.
Yn ogystal 芒 goglais mae'r straeon, wrth eu gwau drwy'i gilydd, yn rhoi inni ddarlun o ardal ac o ddiwylliant a ffordd o fyw hefyd a hynny'n gwneud iawn am ambell i stori gwantan ei hergyd.
Blasus hefyd yw'r cyflwyniad i dafodiaith unigryw - ac ambell i air yn achos diddordeb arbennig i un o'r tu allan megis haid o "gylion" a chanfod mai pryfed yw y rheini.
Fel y byddai rhywun yn disgwyl mewn llyfr am yr ardal hon y mae mwy nag un cyfeiriad at y bardd a'r ymgyrchydd gwleidyddol Waldo Williams.
Un amdano'n cyfansoddi englyn yn y fan a'r lle pan gyrhaeddodd ef a dau arall gyfarfod etholiad gan Blaid Cymru a chanfod na ddaeth yr un copa walltog yno i'w clywed:
I mewn heb s么n am enaid - i glywed
Y glewion wroniaid;
O Dduw! Tydi a ddywaid
Ai ni'n tri yw'r blydi blaid?
Tebyg oedd y sefyllfa yn Cosheston pan gyrhaeddodd Waldo, yr ymgeisydd seneddol, D J Williams ac Eirwyn Charles yn neuadd - dim ond un dyn yn eistedd yn y sedd gefn a'i ben i lawr.
"Mae'n werth inni geisio achub un," meddai Waldo gan fynd rhagddo i draethu am hanner awr a chael cryn hwyl arni ers nad oedd ganddo enw o fod yn siaradwr tanllyd iawn fel rheol.
"Ni chododd y dyn ei ben i edrych arno o gwbl. Ond wedi i Waldo eistedd, cododd y dyn ar ei draed gan ddod mla'n at Waldo a gofyn, 'Have you finished now? I'm the caretaker and I've come to lock up," meddai Eirwyn George.
Cyfrol ddiddan a difyr yn nhraddodiad y gyfres.
Glyn Evans