- Adolygiad Glyn Evans o Hugh Griffith gan Hywel Gwynfryn. Gwasg Gomer. 拢9.99.
Hyw Griffith gan Hugh Gwynfryn?
Ai dyma, tybed, lyfr mwyaf mentrus y Nadolig - os nad y flwyddyn?
Mae'n sicr yn torri tir newydd. Y tro cyntaf i hunangofiant gael ei sgrifennu wedi i'r gwrthrych farw!
Gyda Huw Griffith a Hywel Gwynfryn yn cyfuno mae'n debyg y dylem fod wedi disgwyl rhywbeth gwahanol i'r cyffredin.
Mae Hywel yn egluro yn y llyfr sut yr aeth o ati, i ddechrau, i lunio cofiant yn y ffordd arferol i'r actor mawr o F么n. Yna, daeth y weledigaeth o'i sgrifennu yn y person cyntaf. Rhoi'r llwyfan i Huw Griffith ddweud ei stori ei hun - a does dim amheuaeth nad oedd hwnnw'n ddyn i lenwi llwyfan.
Newid tac
Deall ei bod yn fwriad gan Huw Griffith sgrifennu ei hunangofiant, ond iddo fethu dod i ben a hi, wnaeth i Hywel Gwynfryn newid ei dac o lunio cofiant arferol.
"Gwyddwn y byddai'n rhaid i Hugh gael y cyfle i wireddu'i fwriad, a dyna oedd fy nyletswydd i - gadael iddo fo sefyll ar ganol y llwyfan o dan y llifoleuadau a minnau'n ei wylio, o'r cysgodion ar ochr y llwyfan," meddai.
Ac felly y tyfodd pethau. Hywel yn dweud y stori fel pe byddai Hugh yn ei dweud gan ddefnyddio'r holl ddeunydd a gasglodd am yr actor dros bum mlynedd a mwy o ymchwil trwyadl i greu'r cymeriad.
Tipyn o fenter. "Gambl," ydi gair Hywel ei hun. Ydi hi'n gweithio? Gyda rhywfaint o betruster ar y cychwyn deuthum i'r casgliad ei bod - er gwaethaf anhawster weithiau i benderfynu llais pwy mae rhywun yn ei glywed; un Hugh ynteu Hywel fel Hugh. Amhendantrwydd na fyddai'n cael ei achosi gyda chofiant gwrthrychol arferol neu hunangofiant go iawn.
Ond mae Hywel yn sicrhau nad oes dim yn y llyfr nad yw'n ffeithiol gywir.
Stori dda
Beth bynnag am hynny, yr unig ffordd i fwynhau'r llyfr yw gwthio anesmwythyd felly o'r neilltu, bwrw iddi ac anwybyddu yr hyn a dybiwn weithiau sy'n Wynfryneb. Ac y mae yma andros o stori dda gan fod Hugh Griffith yn gymeriad mor lliwgar a chymhleth.
Yr holl haenau yna 芒 berthyn iddo. Yr actor a'r gallu i lenwi llwyfan a sgrin, y Cymro pybyr, yr yfwr rhonc a'i iselder yn bla. Y dringo i uchelfannau ei broffesiwn a'r cwympo wedyn yn ddyn toredig ar adegau. Yr ysfa Gymreig yna tuag at hunan ddistryw.
Y g诺r a gyflawnodd gymaint yn gorfod cyfaddef; "Wrth edrych yn 么l ar fy mywyd . . . gallwn innau fod wedi cyflawni llawer mwy taswn i wedi cymryd mwy o ofal o fy iechyd" gan gyfeirio at ei oferedd 芒'r botel a'i trodd at y diwedd yn 诺r toredig.
Mae'r cyfan yma gan gyrraedd terfyn mewn penodau teimladwy iawn a chynhebrwng unig.
Cyfaill neu ddau a'm cofiant,
Prin ddau, lle roedd gynnau gant.
Diolch byth yr erys ei fawredd ar ffilm - y llygaid mellt, y llais caregog a'r presenoldeb mawr a achubodd gymaint o ffilmiau cyffredin.
Ysbeidiau llachar
Ac fe fu ysbeidiau llachar ar lwyfan ac ar sgrin megis y rhan a enillodd iddo ei Oscar yn Ben Hur.
Oedd, yr oedd y bachgen o Farian-glas a ddechreuodd fel clerc mewn banc ysgwydd ag ysgwydd ag actorion mawr eu dydd, Burton, Olivier, O'Toole, Peck, Edith Evans, Guinness, Hepburn, Heston a Brando - actor na allodd ddod ymlaen o gwbl ag ef:
"Mewn gair, bwli oedd Brando, ar y set ac yn ei fywyd preifat," meddai.
Gydol y cymysgu mawr arhosodd yn driw i'w Gymreictod ac y mae llythyr a anfonodd yn ymateb i wahoddiad gan y Barmmouth Literary and Debating Society yn glasur.
Ond mae llythyrau eraill, dwysach, y dyfynnir ohonynt megis rhai briwedig rhyngddo ef a'i wraig Gunde.
Mae'n rhyfeddod sut y gallai bywyd mor gyfoethog fod 芒 chymaint o dlodi ynddo hefyd. Yr holl loes a gogoniant yn gorgyffwrdd.
Ydi, y mae hon yn stori y mae rhywun yn cael ei dynnu iddi. Yn stori fyddai'n ffilm ynddi ei hun - ond pwy i chwarae'r arwr a oedd yn actor y gellir ei ddisgrifio'n unigryw heb lurgunio'r gair fel y gwneir mor aml.
Mae'n drychineb nad erys ei berfformiadau arwrol ar lwyfannau ond mewn ambell gof a rhwng llinellau y llaweroedd o adolygiadau edmygus bellach - heb eu cadw i neb eu gweld. Trysiorau a gollwyd yn 么l yr hyn mae rhywun yn ei ddarllen yma
Ond erys y ffilmiau, diolch byth.
Cael ei hudo
Oes, y mae cystal stori yma i'w dweud mae rhywun yn cael ei hudo ganddi a'r amheuon am droi yr hyn fwriedid yn gofiant yn hunangofiant yn cilio - er nad efallai'n llwyr ond yn ddigon i gyfiawnhau'r gambl.
Ydi, rhwng popeth, mae hwn yn llyfr teilwng o athrylith Hugh Griffith.
Thal hi ddim tewi heb s么n hefyd am y casgliad rhagorol o luniau yng nghanol y llyfr - ac am y tro cyntaf mewn hanes, mi fentra'i ddweud, lun gan David Bailey ar glawr llyfr Cymraeg!