18 Hydref 2011
Adolygiad o gyfrol Gwilym Lloyd Edwards, Iaith y Nefoedd. Dyfyniadau yngl欧n 芒'r Iaith Gymraeg. Gwasg Carreg Gwalch. 拢9.50.
Pan oedd protestiadau iaith ar eu hanterth yn y chwech a'r saith degau a thrafodaethau am ddyfodol y Gymraeg fel pe byddent yn ddiddiwedd daeth yn beth eithaf poblogaidd - yn bennaf ymhlith y rhai oedd yn teimlo'n anghyfforddus yngl欧n 芒'r gweithgarwch hwn - i ddweud y byddai dyfodol yr iaith yn sicrach pe byddai yna "lai o siarad amdani a mwy o siarad arni".
Yr oedd yn un o'r ystrydebau hynny a ymddangosai mor rhesymol ar yr wyneb ond nad oedd yn gwneud fawr o synnwyr o fewn cyd-destun y cyflwr ieithyddol ar y pryd.
Wn i ddim pwy ddywedodd hyn gyntaf a methais 芒 dod o hyd i hynny yng nghasgliad difyr Gwilym Lloyd Edwards o 1,226 o ddywediadau a sylwadau yn ymwneud 芒'r iaith Gymraeg, Iaith y Nefoedd.
Iaith y nefoedd i rai efallai. "Iaith fy ngh芒n, iaith fy ngeni" hefyd ond "native gibberish" i eraill - a dydy ni ddim eto wedi mynd ddim pellach na chlawr y llyfr!
Fesul awdur
Gair yn gyntaf am strwythur y llyfr. Un o'r casgliadau dyfyniadau hynny ydi o - niferus yn y Saesneg ond prin iawn yn y Gymraeg. Dydi hi ddim yn ffasiwn sydd fel pe byddai wedi cydio yma er mor ddifyr y gall fod.
Difyr, ie ond gall ystyried sylwadau allan o'u cyd-destun fod yn beryglus weithiau hefyd ond awn ni ddim ar 么l hynny yma.
Fesul awdur, yn nhrefn yr wyddor, y dewisodd Gwilym Lloyd Edwards lunio ei gyfrol ond y mae mynegai bwnc yng nghefn y llyfr a hefyd restr o'r bobl y gwelir eu henwau yn y gwahanol ddyfyniadau.
Mae gystal dull ag unrhyw un mae'n debyg er efallai y byddai rhai darllenwyr wedi hoffi gweld y dyfyniadau yn cael eu cyflwyno fesul pwnc; addysg, rhegi, darllen, y di-Gymraeg, Saeson ac yn y blaen. Corlannu'r tebyg gyda'i debyg fel petai.
Ond mae llunio geiriadur o'r math hwn ar sail pwy ddywedodd beth yn gwbl dderbyniol hefyd.
Un peth nad yw'r golygydd yn ei wneud fodd bynnag yw gosod enw'r cyntaf ac olaf i'w ddyfynnu ar ben y dalennau sy'n golygu weithiau bod angen troi dalennau yn 么l i weld pwy sy'n llefaru.
Er enghraifft o agor y llyfr ar ddalen 128 does dim i ddweud mai T Gwynn Jones biau'r pedwar dyfyniad cyntaf; rhaid troi'n 么l i ddalen 126 i ganfod hynny. Yr un modd dyfyniadau Morris Kyffin ar ddalen 130 (yn 么l i 129), Henry Lewis 133 (131) a sawl enghraifft arall.
Trafferthus, ond nid diwedd y byd, rhaid cydnabod, ac mae hwn yn ddiffyg - ac yn fwy o drafferth - yng ngwyddoniadur yr Academi hefyd.
Gyda'r dyfyniadau eu hunain mae'r awdur yn cynnwys rhai yn eu Saesneg - a Lladin - gwreiddiol gyda throsiad i'r Gymraeg ond dyw dyfyniadau Cymraeg ddim yn cael eu trosi i'r Saesneg gan y byddai hynny, mae'n debyg, wedi dyblu maint y llyfr - ac mae'n 259 dalen fel ag y mae.
Ni fydd yr un siaradwr Cymraeg yn cwyno am hyn ond mae'r di-Gymraeg ar eu colled.
Mewn steddfod
Mewn cyflwyniad i'r llyfr eglura'r golygydd mai casgliad buddugol o rhyw 400 o ddyfyniadau ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1989 oedd man cychwyn y gyfrol ond yn amlwg ychwanegwyd yn sylweddol ati hi ers hynny.
Ar wah芒n i fod yn gyfrwng gwerthfawr i ddod o hyd i wahanol ffynonellau dil茅it mawr y gyfrol ydi'r amrywiaeth sylwadau a gwahanol agweddau sydd ynddi. Mae'r golygydd yn nodi'r union beth hwnnw yn ei ragarweiniad:
"'Anghymarol famiaith', 'iaith y nefoedd', 'odrwydd rhanbarthol', 'native gibberish', 'barb'rous jargon', dyna'r fath amrywiaeth barn sydd yma yngl欧n 芒'r Gymraeg fel iaith," meddai gan ychwanegu:
"Mae yma hefyd ymagweddu gwahanol tuag ati o ran ei gwerth a'i defnyddioldeb: o fod yn rhodd Duw, y trysor pennaf a feddwn, yr allwedd i'n gorffennol cyfoethog, yr unig foddion i warchod ein personolrwydd fel cenedl, yr unig wrthglawdd rhyngom a diddymdra, i fod yn rhwystr i bob cynnydd deallol a moesol ymhlith y Cymry yn ogystal ag i'w llwyddiant bydol, yn rhwystr hefyd i undeb mewn byd ac eglwys."
Er ein bod yn ymwybodol o'r fath amrywiaeth barn yn ein byw bob dydd mae gweld y fath amrywiaeth safbwyntiau wedi eu corlannu fel hyn rhwng dau glawr yn gymysgedd o'r difyr a'r iasol.
Mwy iasol fyth yw sylweddoli pa mor ddwfwn mae rhai rhagfarnau wedi gwreiddio gan ddangos nad yw callio yn rhywbeth sy'n digwydd yn naturiol dros y blynyddoedd!
Y teitl
A'r teitl yna, "Iaith y nefoedd" o lle'n union y daeth hwnnw? Mae'r ateb yn y gyfrol; dyfyniad 384, englyn gan David Jones - Dewi Medi neu Dewi Dywyll - a fu byw rhwng 1803 a 1868:
Arddunol iaith barddoni - oludog,
Ni lwyda ei thlysni:
Iaith gwyddor, rhaith a gweddi,
Iaith y nef yw ein hiaith ni . . .
Tybed sawl un sydd mor barod i gyfeirio at ein hiaith fel iaith y nefoedd allai nodi'r ffynhonnell hon heb droi at y llyfr difyr hwn?
Glyn Evans