成人论坛

Haf Llewelyn: adolygiad o'i chyfrol 'Llwybrau'

Rhan o glawr y llyfr

04 Medi 2009

Adolygiad Lowri Rees-Roberts o Llwybrau gan Haf Llewelyn. Cyhoeddiadau Barddas 拢6.00.

Achosodd darllen y gyfrol Llwybrau gan Haf Llewelyn don o emosiwn ac awydd angerddol i fod eisiau darllen mwy o'i gwaith.

Gall darllen y gyfrol godi croen g诺ydd arno chi!

Credwn ar y cyntaf i'r gyfrol gael ei rhannu'n ddwy gan i Haf ei hunan roi terfyn gyda llun ac wedyn y pennawd Llwybr i gychwyn yr 'ail ran'.

Ond er y rhaniad trafod yr un math o bynciau mae'r ddwy ran; pobl, ardal, digwyddiadau, newyddion.

Clawr y llyfr

Mae yma gerddi'n cofio cymeriadau hanesyddol fel Gwenll茂an a Siwan. Mae'n edrych ar fannau o bwys iddi fel Castell Harlech, Capel T欧'n Drain, Capel Cwm Nantcol a Llwybr y Pererinion ger Gellifechan, Ardudwy ac wrth gwrs gwelir hi'n ysgrifennu cerddi am bobl ac emosiynau gan gynnwys un am Baby P - Angel.

Yn y gyfres mae 49 o gerddi i gyd ac ymhlith y rhai a darodd ddeuddeg gyda mi, gan fy mod yn gallu uniaethu a theimladau'r plentyn a'r rhiant ynddi, yw Cerydd lle mae merch yn gollwng llaw ei thad ar y mynydd, ac yntau'n chwilio amdani yn y niwl:

Yntau'n galw i'r niwl
a'i lygaid yn ceisio olion
y camau bychan
yn y rhedyn.

Wedi ei chanfod
cwyd hi i'w freichiau a'i gwasgu eto
ac yn ei gofleidio ef
diflanna'i chwerthin hithau
i'r niwl
am iddi ddeall
y dychryn yn ei lygaid.

Mae'n wir dweud mai yn y cerddi teimladwy, emosiynol, y gwelir Haf ar ei gorau gyda'i dull unigryw o ddefnyddio geiriau i gyfleu a chyffwrdd ag emosiynau yn rhoi'r gyfrol yma ymhell ar y blaen i gyfrolau eraill tebyg.

Medda'r ddawn hefyd i gyrraedd pob oedran.

Yn y gerdd Angel, a ysgrifennwyd yn dilyn marwolaeth Baby P, mae Haf yn dewis geiriau i gyfleu ein galar ninnau gan gyfleu yn y drydedd a'r bedwaredd pennill y llygedyn bach hwnnw o gysur mewn gofid.

Si Hei Lwli
blentyn gwyn,
mae'r angel heno'n brysur
nac wyla - paid,
bydd dawel, bach,
rhag codi crach hen ddolur.
Shsh, tewa, cuddia, blentyn tlws,
i'r bore gael dod at y drws.

Si Hei Lwli
blentyn gwyn
o ganol llwch y gornel
daw siffrwd plu
ond' welest ti
mo'r wawr na'r weddi dawel.
Cysga, cysga, blentyn tlws
Daw bore arall at ryw ddrws.

Ceir hefyd nifer o atgofion plentyndod gan gynnwys cofio ei thad - rhyw bethau bach, fel Nain yn llnau'r capel, Cwrlid, Crud (Grisial yn ddeunaw oed) a Lliw.

Er imi fwynhau pob un o'r cerddi y rhai personol a apeliodd ataf fi fwyaf - efallai am fod mwy o emosiwn sy'n cydio'n y galon yn perthyn iddyn nhw neu'n syml am fy mod innau yn gwybod am rai o'r digwyddiadau a rhai o'r bobl.

Ond heb os, mae pob un ohonyn nhw yn cyfleu dawn Haf i greu cerddi apelgar iawn.

Yn y rhagair mae'n diolch i'w chyfaill Iola Edwards am ddeall ei meddwl ar gyfer creu lluniau ar gyfer y gyfrol. Mae chwe llun i gyd a'r rheini'n ychwanegu at wefr y gyfrol. Cyfrol, yn wir, a fu'n brofiad gwych!!


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人论坛 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.