成人论坛

Fflur Dafydd - adolygiad o'i nofel Y Llyfrgell

Rhan o glawr y llyfr

Adolygiad Kate Crockett o Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd. Lolfa. 拢8.95. Nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 2009.

Profiad brawychus yw ceisio adolygu nofel ag iddi gymeriad sy'n credu i'w adolygiadau beri i awdur ei lladd ei hun.

Clawr y llyfr

Faint o sylw mae awduron yn cymryd o adolygiadau? Ydy geiriau beirniadol yn brifo - allan nhw fod yn angheuol?

Neu a yw adolygwyr yn ddim ond pobl hunanbwysig sy'n lladd ar waith eraill er mwyn porthi eu henwogrwydd eu hunain?

Dyma un o nifer o them芒u sy'n gwau drwy'r gyfrol arobryn hon gan Fflur Dafydd - awdur sy'n cael ei hysbrydoli gan leoliadau go iawn.

Eisoes enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2006 gyda nofel am Ynys Enlli, a gwobr Oxfam yng Ng诺yl y Gelli eleni am fersiwn Saesneg yn seiliedig ar yr un gwaith.

Diddorol yw nodi hefyd bod ei halbwm newydd, Byd Bach, wedi'i ysbrydoli gan wahanol lefydd yng Nghymru.

Lle go iawn

A lle go iawn sydd yn ganolbwynt i'r nofel hon: y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a hynny ymhen un ar ddeg o flynyddoedd.

Bellach mae'r broses o ddigideiddio cynnwys y Llyfrgell bron yn gyflawn, ac e-ddarllenwyr, nid llyfrau papur, sydd gan y myfyrwyr a'r academyddion i'w darllen.

Mae diogelwch y sefydliad hefyd yn nwylo'r dechnoleg ddiweddaraf, a dyna sy'n galluogi'r efeilliaid Ana a Nan i gynllwynio trosedd feiddgar yn eu man gwaith.

Fesul dipyn y caiff y plot ei ddatgelu i ni, o safbwynt cymeriadau gwahanol: Dan, y porthor llwgr; Eben, y cofiannydd a'r adolygydd chwerw; a'r efeilliaid distrywgar eu hunain.

Mae nifer o gymeriadau llai hefyd sy'n dychanu teipiau'r Llyfrgell: yr academyddion hunandybus a'r staff sy'n gaeth i amserlen y baned ddyddiol.

'Llinyn stor茂ol cryf'

Mae cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn gofyn am nofel sydd 芒 "llinyn stor茂ol cryf", ac yn sicr mae Y Llyfrgell yn bodloni hynny: digwyddiadau un diwrnod yn unig a geir yn y nofel ac mae'r stori'n gwibio ar garlam a chwilfrydedd i wybod mwy am gynllwyn Ana a Nan yn annog y darllenydd i droi'r tudalennau.

Gellir mwynhau'r nofel ar y lefel honno: chwip o stori gyda digon o olygfeydd doniol yn gwneud hwyl am ben y sefydliad.

Ond fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan nofelydd o statws Fflur Dafydd, mae llawer mwy yma hefyd.

Trafod cof cenedl mae'r nofel hon hefyd, gan ofyn beth sydd o werth i ni ei drysori, a phwy sy'n penderfynu ar hynny.

Gwaith y merched sydd wedi'u heithrio o'r canon llenyddol yng Nghymru ar hyd y canrifoedd, ond yma, gwaith dynion sy'n cael eu hepgor gan y broses ddigideiddio o dan ofal y swyddogion benywaidd.

Mae nofel T. Gwynn Jones, Lona, yn cael ei sgubo i ebargofiant, ond mae copi ar gof a chadw o Deian a Loli gan Kate Roberts.

Elena Wdig

Yn ganolog i'r plot mae mam yr efeilliaid, Elena Wdig. Ei gwaith llenyddol hi oedd testun gwawd yr adolygydd Eben Prydderch; erbyn hyn mae'n bwriadu ysgrifennu cofiant iddi, ond wrth dwrio drwy ei dyddiaduron, mae'n darganfod nad yw'r cofnod swyddogol digidol bob amser i'w drystio.

Er mai edrych yn 么l arni wedi ei marwolaeth a wnawn, i fi dyma gymeriad mwyaf diddorol y nofel, a gwirionais ar y cyfeiriadau at ei gyrfa fel nofelydd ac at ei henwebiad am Oscar am yr addasiad ffilm o Miriwen yn fy Meddwl.

Ond ai nofelydd da neu nofelydd s芒l yw hi? A phwy sydd i benderfynu hynny?

Er mai ffars yw digwyddiadau'r nofel, mae'r portread o'r Llyfrgell a'r pwyslais cynyddol ar dechnoleg yn taro deuddeg. Hefyd, mae gosod y nofel yn y sefydliad hwnnw yn annog trafodaeth ar nifer o them芒u pwysig, ond wedi gorffen y llyfr, cefais fy mod am wybod mwy am Elena Wdig.

Wrth addasu Atyniad yn Twenty Thousand Saints, aeth Fflur Dafydd ati i ddatblygu rhai cymeriadau ymhellach - ac eisoes mae'r awdur wedi s么n ei bod yn bwriadu addasu'r nofel hon i'r Saesneg hefyd.

Wn i ddim a yw Fflur yn gwneud requests wrth ganu neu wrth ysgrifennu ond fy nghais pendant i yw cael clywed mwy am Elena Wdig.

Ond o gofio un o them芒u pwysicaf y nofel hon, pwy yw adolygydd i leisio barn?


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人论坛 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.