Un parti mawr hwyliog
Adolygiad Gwyn Griffiths o Y Crwydryn a Mi. Ail Ran Hunangofiant Meic Stevens (Y Lolfa, 拢9.95)
Rwy'n cofio fel pe bai'n ddoe ymddangosiad record Gymraeg gyntaf Meic Stevens, Yr Eryr a'r Golomen, ei hadolygu yn Y Cymro, a'i gyfweld yng nghefn y llwyfan yn un o'r nosweithiau pop mawr hynny ddaeth i fri ddiwedd y Chwedegau.
Rywbryd tua'r adeg honno hefyd, rwy'n cofio bod ar wyliau yn Morgat, Llydaw, pan welais boster yn hysbysebu gig yn Crozon, y pentre nesa ac ar ben y rhestr mewn llythrennau bras roedd enw Youenn Gwernig ac ar y gwaelod, mewn llythrennau llawer llai, Meic Stevens.
脢s yno gan obeithio cael sgwrs ac i gefn y llwyfan a mi. 'Doedd dim s么n am Meic ond cefais sgwrs hir - y gyntaf o lawer gyda'r cawr gwyllt aml ei ddoniau, y diweddar, bellach, Youenn Gwernig.
Treuliodd Youenn flynyddoedd yn Efrog Newydd lle daeth yn gyfaill agos iawn i Jack Kerouac a'r tro dwethaf i ni gwrdd dywedodd wrthyf mai Kerouac a'i hanogodd i gyfieithu nifer o'i gerddi o'r Llydaweg i'r Saesneg - cerddi a gyhoeddwyd yn ei gyfrol olaf Un Dornad Plu (Dyrnaid o Blu).
Yn ymddangos droeon
Nodaf hyn o atgofion personol oherwydd bod enwau Youenn Gwernig a Kerouac yn ymddangos droeon yn y rhannau o'r gyfrol Y Crwydryn a Mi sy'n ymwneud 芒'r cyfnodau a dreuliodd Meic yn Llydaw.
Yn wir mae i'r gyfrol lawer iawn i atgoffa darllenydd oedd o gwmpas yn y Pumdegau a'r Chwedegau o glasur Kerouac, On the Road. Neu'n fwy perthnasol Satori in Paris, sy'n disgrifio taith Kerouac i Lydaw oddeutu 1966 i chwilota'i wreiddiau Llydewig.
Mae llawer o egni ac asbri carlamus Kerouac yng nghyfrol Meic Stevens. Sgrifennu disgrifiadol teilwng o'r Americanwr. Disgrifiadau meddwol, mewn mwy nag un ystyr, fel y rheini o Ty Michou yn Kemper a Fest-noz awyr-agored uwchlaw Douarnenez.
Felly hefyd y disgrifiad sy'n gampwaith llenyddol o Tavarn Ty Elize yn Plouye - oherwydd dyna'r fan er nad yw'n ei henwi - fel ag yr oedd, ac am wn i, fel y mae.
Y dirgelwch yw, sut y medrai gofio'r lle cystal os oedd wedi yfed cymaint ag a y mae'n honni iddo wneud! Wn i ddim 'chwaith be ddywed Bernard Walters, o Ferthyr gynt, os digwydd iddo ddarllen y bennod hon, ac os ydy e'n dal i redeg y dafarn.
Dan ei lach
Nid bod Meic yn un boeni am dramgwyddo pobol a phan yw'n chwipio, 'does dim trugaredd gyda C芒n i Gymru ac S4C yn dod dan ei lach mewn lle arall.
Heb son am ryw Norman Florence a Chyngor y Celfyddydau. Er y bu'r sioe a ysgogwyd ganddynt - Dic Penderyn - y bu Meic a Rhydwen Williams yn cydweithio arni yn llwyddiant mawr.
Un parti mawr hwyliog yw'r gyfrol garlamus hon, boed yng nghwmni Llydawiaid o Sant Malo i Douarnenez, ac yng Nghymru boed yn Conway Road, Caerdydd, gyda physgotwyr Solfach, neu ymysg brawdoliaeth y dringwyr yn Eryri.
Difyr a phleserus
Cydnabyddir cymorth Annes Gruffydd i sgrifennu'r gyfrol ac y mae'n si诺r iddi wneud cyfraniad sylweddol er efallai iddi gael trafferth weithiau'n cadw fyny 芒 Meic Stevens.
Yr un person yw Alain Cochevelou ag Alan Stivell, gyda llaw!
Mae yma awgrym fod Youenn Gwernig yn cydymdeimlo 芒'r Almaenwyr a wedi bod yn ymosod ar Lywodraeth Vichy. Yr oedd Llydaw dan reolaeth uniongyrchol Yr Almaen. Yn ne Ffrainc yr oedd Llywodraeth - byped - Vichy.
Ond petai Gwernig wedi ei gyhuddo o fod 芒 chydymdeimlad 芒'r Almaenwyr buasai wedi gorfod dianc dipyn cyn 1957 sef yr adeg yr ymfudodd i Efrog Newydd.
Mae'n bosib iddo fod a rhan mewn llosgi swyddfa heddlu yn ddiweddarach, er na chlywais i mohono'n s么n am y peth ond bu llawer o derfysg yn Llydaw yn erbyn yr awdurdodau Ffrengig yn y 50au a wedi hynny.
Ond wedi hyn'na o feirniadaeth, dyma gyfrol ddifyr a phleserus iawn sy'n cynnwys darnau gwerthfawr o wybodaeth, hefyd, fel y bennod ar gerddoriaeth Llydaw.
Edrychwn ymlaen, nawr, am y drydedd gyfrol o atgofion Meic Stevens.
- Ers cyhoeddi'r adolygiad hwn anfonodd Bernard Walters i ddweud: "Dwi'n dal yn rhedeg y bar; Tavarn Ty Elise" y mae Gwyn Griffiths yn cyfeirio ato gan dynnu sylw hefyd at