成人论坛

Joanna Davies - Mr Perffaith

Rhan o glawr Mr Perffaith

15 Awst 2011

Adolygiad Janice Jones o Mr Perffaith gan Joanna Davies. Gwasg Gomer. tt. 232. 拢7.99.

Weithiau, mae rhywbeth yn gwneud i chi sylweddoli eich bod - waeth pa mor daer y byddwch wrthi'n perswadio'ch hun mai un ar bymtheg ydych chi y tu mewn - yn (os nad wedi) mynd yn hen!

Ac yn sicr mi wnes i sylweddoli hynny wrth ddarllen y nofel hon!

Fel y mae'r teitl yn ei awgrymu, mae Mr Perffaith yn nofel ogleisiol gan Joanna Davies, awdur Ffreshars. Ac mae'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn ar glawr y gyfrol - "Ydyn ni'n dewis ein ffawd, neu ydi ffawd yn ein dewis ni?"- yn awgrym o'r hyn sydd i ddod.

Mae'r gyfrol yn dilyn hynt a helynt carwriaethol Mari ac Owen am gyfnod o un flynedd ar bymtheg, gan ymestyn o droeon trwstan chweched dosbarth hyd at gyfnod eu tridegau cynnar.

Dau'n dyfalu

Yn wir, egyr y gyfrol gyda'r ddau brif gymeriad yn dri deg a thair ac yn ceisio dyfalu, yn annibynnol ar ei gilydd, pam eu bod yn ei chael hi'n anodd canfod y cymar 'perffaith', neu'n wir unrhyw "[g]readur truenus sy'n ddigon addas at bwrpas o fewn daearyddiaeth gyfyng ein milltir sgw芒r".

Mae'r stori'n cael ei chyflwyno o safbwynt y ddau brif gymeriad, trwy gyfrwng penodau am yn ail yn adrodd hanesion am dd锚ts chwithig a sawl 'perthnas' sy'n cychwyn yn llawn gobaith ond yn dod i ben, gan amlaf, gyda'r chwarae'n troi'n chwerw.

顿锚迟蝉

Mae bywyd carwriaethol Mari'n ymestyn o 'Mr C诺l, Y Crysh Cyntaf', mewn parti deunaw yn 1992, heibio 'Mr Despret' a 'Mr Manig' yn 2000, a 'Mr Toi-boi' yn 2007, nes cyrraedd 'Mr Perffaith?' yn 2008.

Yn yr un modd, mae Owen 芒 d锚t gyda 'Miss Pin-up' yn 1992, ac yn cael perthynas gyda 'Mrs Robinson' yn 1999, a 'Mis-t锚c' yn 2007, nes iddo yntau ganfod 'Miss Perffaith?' yn 2008.

Clawr y llyfr

Dau ddiwedd

Ni fydd datgelu bod dau ddiweddglo posib i'r gyfrol yn difetha'r darllen i unrhyw ddarpar ddarllenydd. Yn bersonol, mi fyddwn i wedi bod yn hapusach gydag un diweddglo - ychydig yn fwy amwys, efallai - fyddai'n gadael i'r darllenydd ddefnyddio rhywfaint ar ei [d]dychymyg ei hun.

Mae iaith y gyfrol yn hygyrch, yn gyfoes ac yn ei gwneud yn nofel hawdd i'w darllen. Iaith sy'n ychwanegu at naws ac awyrgylch y gyfrol gyda bywyd dinesig cyfoes yn cael ei bortreadu mewn modd sy'n argyhoeddi.

Mae cymeriadau'r gyfrol yn gredadwy ar y cyfan ac mae Joanna Davies wedi cyflawni tipyn o gamp wrth adrodd hanesion y d锚ts a'r perthnasau amrywiol sy'n dod i ran y ddau brif gymeriad heb i'r darllen fynd yn syrffedus o undonog.

Yn ddyfeisgar

Mae'r strwythur yn ddyfeisgar, ac mae'r modd y mae bywydau Mari ac Owen yn cyffwrdd ei gilydd yma ac acw gydol y gyfrol yn ogleisiol ac yn arwain yn anorfod at y diweddglo (neu ddau!).

Nid nofel ar gyfer y gwangalon mo hon - mae tipyn o drafod a disgrifio rhyw ynddi, ond llwydda'r awdur i wneud hyn gan droedio'r tir canol hwnnw rhwng Cyfres y Fodrwy a Cosmopolitan yn dra llwyddiannus.

Ceir digonedd o '[f]abolgampau cnawdol', ond llwyddwyd i gyfleu'r cwbl mewn modd realistig (o'r hyn y medra i gofio yn fy henaint!), heb ffrils a heb ormodiaeth.

Mwy na 'chick-lit'

Petai'n rhaid gosod y gyfrol hon mewn categori, mae'n debyg mai fel nofel chick-lit y byddai hi'n cael ei disgrifio.

Ond mae tipyn mwy na hynny'n perthyn i'r gwaith a'r awdur wedi llwyddo i greu darlun o fywyd dinesig cyfoes sy'n argyhoeddi a chynnal stori y byddai wedi bod yn hawdd iawn iddi droi'n syrffedus trwy ddyfeisio cymeriadau a sefyllfaoedd doniol a difyr.

Cyfrol sy'n herio'r hen ystrydeb mai cariad rhamantus sydd ar ferched ei eisiau a bod dynion 芒'umeddyliau ar un peth, ac un peth yn unig!
Janice Jones .


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人论坛 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.