成人论坛

Bethan Gwanas - cofio Neiniau /Mamau-cu

Rhan o glawr y llyfr

13 Rhagfyr 2010

  • Adolygiad Janice Jones o Nain/Mam-gu. Awduron amrywiol, golygydd Bethan Gwanas. Gwasg Gwynedd tt. 138 拢5.95.

Casgliad o ysgrifau ac ambell ddarn o waith creadigol a geir yn y gyfrol hon gan Wasg Gwynedd, dan olygyddiaeth Bethan Gwanas, sydd yn dathlu perthynas wyrion a wyresau 芒'u neiniau.

Tir estron oedd hwn i'r adolygwraig hon, gan na chefais erioed mo'r fraint o adnabod fy neiniau na'm teidiau.

Cynhwyswyd cyfraniadau gan 14 o wyrion a wyresau yn y gyfrol, y ddwy ieuengaf yn wyth a 10 oed a rhai o'r lleill, wel, tipyn h欧n na hynny.

Egyr y gyfrol gyda soned ddi-fai gan Mererid Hopwood, cyn bwrw iddi gydag atgofion Lyn Ebenezer am Mam-gu Ffair-rhos ac un o gyfraniadau mwyaf diddorol y gyfrol, gan ei fod yn cynnwys nid yn unig hanes Mam-gu Ffair-rhos, J锚n Williams, ond yn ogystal, dogn o hanes cymdeithasol ei hardal yn ystod ei bywyd.

Roedd Mam-gu Ffair-rhos, a aned yn 1862, yn '[f]ydwraig y fro', gwraig a 'ddaeth 芒 dwsinau o blant ucheldir Ffair-rhos i'r byd.'

Dyma un o hen arferion cymdeithas sydd wedi diflannu o'n broydd, gyda'r stoiciaeth a'r gwytnwch oedd yn gymaint rhan o gymeriad y cenhedloedd a fu.

Adfyd i nifer

Daeth adfyd i ran nifer o'r neiniau yn y gyfrol, gan gynnwys Evelyn Mary Charles Williams (nain Marged Esli) a Morfydd Llywelyn (nain Sharon Morgan). Yn sicr mae ymdrech y merched hyn, nifer ohonynt wedi dechrau gweithio yn ystod eu harddegau cynnar, yn ddigon i godi cywilydd arnom ni a'n cwyno parhaus.

Mae nifer o'r cyfraniadau yn y gyfrol hon yn ymdebygu at ei gilydd, er bod ffocws yr awduron yn amrywio, gyda rhai yn canolbwyntio ar atgofion personol, eraill ar atgofion, neu 'chwedlau' teuluol, tra bo eraill fyth yn cynnwys elfennau o hanes cymdeithasol yn eu hysgrifau.

Canfod rhuddin

Yn ogystal 芒 chyfraniad Lyn Ebenezer, roeddwn yn teimlo mai ysgrifau Meleri Wyn James a Sharon Morgan oedd yn cydio orau, oherwydd bod y ddwy yn ceisio canfod rhuddin eu neiniau, yn hytrach na dim ond adrodd stribed o straeon neu atgofion amdanynt.

Mae cyfraniadau Meg Elis a Sian Northey yn clymu eu hatgofion 芒'u profiad hwy eu hunain o fod yn neiniau, gan athronyddu dros y cysylltiad rhwng y cenhedloedd wrth fynd heibio.

Mae Sian Northey yn disgrifio ei theimladau wedi geni ei h诺yr: "y teimlad o ailddechrau, o aileni bron, y mae genedigaeth Jac wedi'i roi i mi."

Byddai wedi bod yn braf cael ychydig mwy o amrywiaeth yn y gyfrol drwyddi draw, er bod y neiniau i gyd yn ymddangos yn 'gym锚rs' unigryw a diddorol yn eu ffyrdd eu hunain.

Roedd cyfraniad Ffion a Betsan Angell Roberts yn chwa o awyr iach, wrth iddynt ddisgrifio te yn nh欧 Nain a Taid: "Spaghetti Bolognese Nain yw'r neisiaf yn y byd." A "[h]off bethau Nain yw Coronation Street a chaws glas."

Byddai rhagor o gyfraniadau mwy cyfoes gan blant a phobl ifanc wedi ychwanegu elfen o ffresni i'r gyfrol.

Stori fer

Roedd stori fer Lleucu Roberts Nerys a Non sy'n cloi'r gyfrol yn ogleisiol ac yn cynnig rhywbeth i ddarllenydd gnoi cil arno.

Mae'r ffaith bod nifer o luniau o'r neiniau wedi eu cynnwys yn y llyfr yn ychwanegu at y darluniau geiriol a gr毛ir a deniadol hefyd yw'r clawr a gynllunwyd gan Dorry Spikes.

Efallai nad oeddwn i'n gallu llwyr uniaethu 芒 chyfranwyr y gyfrol hon: heb gael adnabod yr un nain na thaid, doedd gen i ddim adnabyddiaeth bersonol o'u profiadau ond, yn sicr, bydd y gyfrol hon o ddiddordeb i eraill sydd 芒 pherthynas gl貌s gyda'u neiniau, a'r rhai sydd yn neiniau eu hunain.

A jyst y peth i roi yn hosan nain yn anrheg gan Si么n Corn! Janice Jones


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人论坛 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.