Adolygiad Kate Crockett o Naw Mis gan Caryl Lewis. lOLFA. 拢8.95.
Rhwng dau fyd
Byddai'n hawdd credu, yn enwedig o wybod fod Caryl Lewis yn disgwyl baban union adeg cyhoeddi'r nofel hon, mai stori am feichiogrwydd yw Naw Mis. Ond nid y naw mis yn y groth sydd o dan sylw ganddi'r tro hwn ond y gred ei bod yn cymryd naw mis i ddygymod 芒 marwolaeth.
Stori mewn dwy haen yw hon: hanes diflaniad Cara, merch un ar bymtheg oed, ac ymdrechion ei theulu a'r gymuned i ddatrys y ddirgelwch; a hanes Cara'i hun yn ystod y naw mis hwnnw - serch ei bod wedi marw.
Yr Arhosfyd yw lleoliad yr elfen hon o'r stori: byd hanner ffordd rhwng marw a beth bynnag a ddaw wedyn. Ar gychwyn ei chyfnod yno nid oes gan Cara gof o'i bywyd ar y ddaear ond o dipyn i beth daw'r atgofion am ei theulu yn 么l ati ac yn raddol fach mae hi hefyd yn dod i delerau gyda'i marwolaeth sydyn.
Llyfr peryglus
Mae'r Arhosfyd hwn yn debyg ar sawl gwedd i'n byd ni: mae yma bobl yn gweithio, yn ffraeo, yn caru, ac yn cloncan mewn caffis. Ond mae hefyd yn llawn darganfyddiadau difyr: llyfrgelloedd o atgofion a breuddwydion, cofnodion o fywydau pob person a fu ar y ddaear erioed, a chop茂au gorffenedig o weithiau artistig a fu'n anorffenedig yn ein byd ni.
Un o amcanion yr Arhosfyd, mae'n debyg, yw rhoi cyfle i bawb i gofnodi eu bywydau. Ond mae yna lyfr peryglus yn bodoli yma hefyd: Llyfr yr Arwyddion, sy'n galluogi pobl i gysylltu 芒'r ddaear; ac mae Cara'n cael ei hudo i fynd ar drywydd y llyfr hwn a'r grymoedd dinistriol sydd ynghlwm wrtho.
Mae sawl tro trwstan i'r stori hon a rhai o'r golygfeydd melodramatig hyn yw elfen wannaf y nofel.
Llawer yn gryfach yw'r stori 'realaidd' am y teulu a'r gymuned ar y ddaear. Gwelwn ddylanwad digwyddiadau cyfoes fel hanes Shannon Matthews ar y stori, wrth i nifer o'r cymdogion ddod ynghyd i geisio ateb dirgelwch diflaniad Cara.
Ond mae naws fygythiol i'r protestio ac mae achos Cara'n cael ei ddefnyddio fel esgus i leisio rhagfarn yn erbyn rhai carfannau o'r gymdeithas.
Treigl amser
Un o elfennau mwyaf llwyddiannus y nofel hon yw'r ffordd y mae'n cyfleu treigl amser, gyda phob un o'r cymeriadau yn addasu i'w sefyllfa newydd ac yn cyrraedd penllanw naturiol ar ddiwedd y naw mis.
Mae'r portread o'r teulu yn eu galar yn sicr yn taro deuddeg. Disgrifiodd Caryl Lewis y nofel hon fel un am fywyd yn hytrach nag am farwolaeth, ac yn ystod ei chyfnod yn yr Arhosfyd mae cyfle i Cara ddod i werthfawrogi cariad ei theulu tuag ati.
Mae yna baralelau rhwng digwyddiadau'r Arhosfyd a'r hyn sy'n digwydd ar y ddaear, yn fwyaf arbennig fel arwydd o gryfder y berthynas rhwng y fam a'r ferch.
Mae hon yn nofel swmpus ac mae'r ysgrifennu'n llai telynegol nag mewn gweithiau eraill gan Caryl Lewis.
Mae'r syniad yn un uchelgeisiol ac mae'r arddull syml yn cuddio talent yr awdur i lunio nofel sy'n gweithio fel cyfanwaith.
Stori gref
Teimlais y byddai'r nofel yn gryfach o'i thynhau mewn mannau, ond mae iNaw Mis stori gref sy'n annog y darllenydd yn ei flaen, ac sy'n cyflwyno nifer o syniadau gogleisiol.
Mae Caryl Lewis yn un o'n hawduron mwyaf cynhyrchiol a gwreiddiol ni ac mae'n braf ei gweld yn mentro i gyfeiriad newydd gyda phob llyfr newydd o'i heiddo a ddaw o'r wasg.