Dydw i ddim yn un o'r rhai hynny sy'n cofio'n union lle'r oedd o 'pan saethwyd Kennedy' Tachwedd 22, 1963.
Ond er nad ydw i'n cofio'r union ddyddiad yr ydw i'n cofio'n iawn clywed telyneg Eifion Wyn, Cwm Pennant, am y tro cyntaf erioed.
Yr oedd y gerdd yn un o'r rhai mewn gwerslyfr ysgol gynradd ac rwy'n eithaf sicr mai cwpled olaf yna - "Pam, Arglwydd y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws, / A bywyd hen fugail mor fyr?" - oedd yr ysgytwad barddol cyntaf yn fy hanes.
Rwy'n cofio s么n am y darganfyddiad ar 么l cyrraedd adref.
Dydw i ddim yn mynd i ddadlau, felly, gyda David Williams pan ddywed i'r gerdd a ymddangosodd gyntaf yn 1927 gydio "yn nychymyg y genedl".
"Mae poblogrwydd y penillion wedi parhau hyd heddiw a'u heffaith ar hunaniaeth y Cymry'n dystiolaeth i ddawn arbennig y bardd," meddai.
Yn sicr, oherwydd y gerdd yr ymwelais i 芒'r cwm gyntaf erioed flynyddoedd wedi'r pnawn hwnnw dadlennol hwnnw yn yr ysgol gynradd.
A'r gerdd yn un o'm heiconau cenedlaethol personol i yr oedd yn rhywfaint o syndod sylwi mai dim ond drwy groen ei dannedd y mae'n ennill ei lle mewn cyfrol arall gan Wasg Gomer, Hoff Gerddi Cymru a gyhoeddwyd yn y flwyddn 2000.
Rhif 99 yw Cwm Pennant yn y casgliad hwnnw a luniwyd yn dilyn pleidlais y bobl; un ar y blaen i Colli Iaith Harri Webb a 98 ar 么l Fy Ngwlad gan Gerallt Lloyd Owen.
Bi a bo hynny, wele hi'n awr yn fan cychwyn ymweliad 芒'r Cwm yng nghwmni'r tynnwr lluniau, David Williams awdur, yn 么l y broliant "sy'n arbenigo yn niwylliant, etifeddiaeth a thirwedd Cymru".
O'i glawr i'w gefn mae'n gyfrol hardd gyda lluniau ysblennydd o olygfeydd yn bennaf ond o bobl hefyd achos fel y dywed Dei Tomos mewn rhagair:
"Er bod gwyllt Walia yma'n ei holl ogoniant, ddylen ni ddim anghofio mai lled naturiol ydi'r cwm a bod 么l troed a llaw'r ddynoliaeth yn drwm yma ers canrifoedd lawer. Prin yw'r erwau lle na welir yn rhywle 么l ymdrechion y gorffennol, lle bu'r llafurio diflino."
Nid amaethwyr yn unig fu'n ceisio dofi'r elfennau. Creithiodd mwynwyr a chwarelwr y tirwedd ac mae'r awdur yn gofyn inni drwy gyfrwng ei luniau o'r olion diwydiannol ddychmygu "swn byddarol y ffrwydro, y curo a'r gweiddi - a'r chwerthin a'r tynnu coes" wrth i hyd at 200 o chwarelwyr fod yn llafurio yma rhwng 1872 ac 1886.
Mae lluniau trawiadol i gyfleu yr harddwch gwahanol ac arbennig hwnnw hefyd.
Ymgais sydd yna yn y llyfr gofio'r hyn a fu, cofnodi'r hyn sydd ac edrych ymlaen at yr hyn a fydd ac i'r diben hwnnw mae cyfraniadau gan drigolion o'r cwm ac eraill 芒 chysylltiad 芒'r lle.
Mae ymhell o fod yn astudiaeth gymdeithasol ysgolheigaidd ond oherwydd safle'r cwm fel "un o'r mannau cysegredig yn ein hymwybod Cymreig" chwedl Dei Tomos mae hon yn gyfrol y bydd sawl un yn cael mwynhad ohoni a hithau'n datgelu mwy na thelyneg ramantus Eifion Wyn am "gynefin y carlwm y cadno, a hendref yr hebog a'i ryw" - ond yn llwyddo i wneud hynny heb ddryllio'r ddelwedd honno'n ormodol.